Modiwl DXC-1303:
Methodoleg maes
Methodoleg maes 2024-25
DXC-1303
2024-25
School Of Natural Sciences
Module - Semester 2
10 credits
Module Organiser:
Paula Roberts
Overview
Mae'r cwrs yn cyflwyno egwyddorion technegau sy'n berthnasol i astudiaethau maes ar gyfer daearyddiaeth, astudiaethau'r amgylchedd a defnydd tir. Mae'n cynnwys technegau addas ar gyfer amrediad eang o sefyllfaoedd gan gynnwys agweddau ecolegol, ffisegol a daearyddol. Erbyn diwedd y cwrs bydd y rhai sy'n ei ddilyn wedi cael profiad o ddefnyddio nifer o dechnegau ac o ddehongli'r canlyniadau. Bydd y cwrs yn cael ei redeg dros benwythnos hir. Bydd y cwrs yn cynnwys astudiaethau mewn nifer o feysydd gwahanol, a allai gynnwys y canlynol:
a) Dadansoddi newidiadau yng ngorlifdir afon gan ddefnyddio ffynonellau hanesyddol a mesuriadau cyfoes. b) Asesu dylanwad ac addasrwydd melinau gwynt ar gyfer ardal benodol gan ystyried oblygiadau amgylcheddol ac ystyriaethau cynllunio. c) Astudio'r prosesau sy'n gwahardd pobl o leoedd penodol gan ganolbwyntio ar brosesau ffurfiol ac anffurfiol mewn trefi. d) Dehongli'r ffactorau sy'n dylanwadau ar ddefnydd tir mewn ardal benodol gan ystyried effeithiau daearyddol a dynol. e) Astudio'r modd y mae cymunedau'n datblygu mewn ardaloedd gwledig a threfol a'r ffactorau hanesyddol a phresennol sy'n dylanwadu arnynt. f) Dehongli effeithiau rhewlifau ar dirwedd ac ardal benodol gan ystyried damcaniaethau gwahanol
Learning Outcomes
- Cyflwyno canlyniadau ar lafar gan esbonio a dehongli eu prif nodweddion
- Dadansoddi a chrynhoi canlyniadau o astudiaethau maes.
- Deall o arwyddocâd canlyniadau o astudiaethau maes yng nghyd destun systemau, amgylcheddau a chymunedau (ecolegol a dynol).
- Defnyddio technegau penodol i gasglu gwybodaeth yn y maes.
- Esbonio egwyddorion technegau penodol sy'n berthnasol i astudiaethau maes.
Assessment type
Summative
Weighting
45%
Assessment type
Summative
Weighting
10%
Assessment type
Summative
Weighting
45%