Modiwl LCE-3101:
Trin a Thrafod Cyfieithu
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Ms Sian Beidas
Amcanion cyffredinol
- Gweithredu fel modiwl sy'n pontio rhwng cyfieithu fel arf dysgu iaith a chyfieithu fel sgil, proffesiwn a disgyblaeth;
- Galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth strwythuredig a chyfannol o'r parau iaith a ddewiswyd ganddynt;
- Cynnig i fyfyrwyr arweiniad theoretig ar sail ymarfer i gyfieithu;
- Annog myfyrwyr i ymdrin â chyfieithu mewn modd systematig a'u galluogi i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth yn ystod y broses gyfieithu.
Cynnwys cwrs
Bwriad y modiwl hwn yw datblygu ac atgyfnerthu ymhellach sgiliau cyfieithu a enillwyd gan fyfyrwyr yn eu cyrsiau iaith. Trwy ystyried cyfieithu fel proses, mae'n craffu ar gyfieithu ar wahanol lefelau testunol, o lefel geiriau a gramadeg, i'r lefel destunol a phragmataidd sy'n ystyried cydlyniad, cywair a mathau o destun. Mae'n rhoi fframwaith i'r myfyrwyr i ystyried yr anawsterau cyfieithu yn y parau iaith a ddewiswyd ganddynt ac i ymchwilio i strategaethau a'u goblygiadau.
Darllen hanfodol
Baker, Mona. In Other Words: A Coursebook on Translation, 2nd edition (London: Routledge, 2011). Hatim, Basil and Munday, Jeremy. Translation: an Advanced Resource Book (London: Routledge, 2004).
Bydd gofyn hefyd i fyfyrwyr gael adnoddau ieithyddol penodol megis geiriaduron dwyieithog ac uniaith.
Meini Prawf
ardderchog
A- - A*: Y cyfieithu: Ni ellir canfod unrhyw broblemau dealltwriaeth. Yn dangos y gallu i drin y Saesneg o ran arddull. Defnyddir cywair priodol yn gyson drwy'r darn. Dylai roi'r argraff na ellir gwella ar y cyfieithiad. Y sylwebaeth (gan gynnwys yr aseiniad cyflwyno): Dull gwreiddiol a meddylgar o gyfieithu'r deunydd ffynhonnell. Wedi ei strwythuro’n dda iawn ac wedi ei ysgrifennu'n eglur ac yn fanwl gywir. Yn cynnig rhesymau a chyfiawnhad da iawn dros ddewisiadau a phenderfyniadau. Asesu'r testun ffynhonnell mewn ffordd wreiddiol a dadansoddol.
trothwy
D- - D+: Cyfieithu: Mae dealltwriaeth o'r eirfa a'r gystrawen yn dangos rhai diffygion eithaf amlwg sydd yn ei gwneud yn anodd deall. Dealltwriaeth gyffredinol hynod sylfaenol o'r deunydd ffynhonnell. Saesneg lletchwith; mae cyfieithu llythrennol yn cuddio'r ystyr. Fawr ddim ymdrech i adlewyrchu nodweddion arddull y gwreiddiol. Y sylwebaeth (gan gynnwys yr aseiniad cyflwyno): Ymdriniaeth sylfaenol iawn. Mae'r syniadau'n ddi-drefn, mae'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o'r deunydd ffynhonnell a'r iaith darged yn annigonol. Cyflwyniad blêr o bosib a fawr ddim defnydd o'r adnoddau sydd ar gael. Fawr ddim enghreifftiau priodol o anawsterau ac atebion.
da
C- - B+: Y cyfieithu: Dealltwriaeth lawn o'r deunydd ffynhonnell. Yr arddull Saesneg yn glir ac yn gryno. Gallai fod rhai ymadroddion rhyfedd ond cynigir rhai atebion sensitif hefyd. Y sylwebaeth (gan gynnwys yr aseiniad cyflwyno): Cyflwyniad cadarn o amcanion ac ystyriaethau'r testun ffynhonnell o fewn cyd-destun; trafodaeth fedrus a sensitif ar natur a statws y testun ffynhonnell a'r iaith darged; disgrifiad eglur o'r rhesymau dros y dewisiadau a'r penderfyniadau. Defnydd medrus o'r adnoddau sydd ar gael.
Canlyniad dysgu
-
Cydnabod bod cyfieithu'n digwydd mewn perthynas â swyddogaethau cyfathrebu, mhethau o destun a nodweddion macro a microdestunol cysylltiedig.
-
Dangos dealltwriaeth o wahanol fathau o anawsterau wrth gyfieithu.
-
Defnyddio strategaethau cyfieithu systematig ac effeithiol.
-
Ymresymu'n feirniadol ac amddiffyn penderfyniadau cyfieithu.
-
Llunio cyfieithiad digonol i iaith gyntaf y myfyriwr.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Cyflwyniad | 30.00 | ||
Cyfieithiad a sylwebaeth | 70.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Individual Project | 4 | |
Private study | 78 | |
Lecture | 10 | |
Workshop | 8 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- The ability to use the target language creatively and precisely in sophisticated written assignments in the target language. (Benchmark statement 5.14)
- The ability to translate sophisticated passages into and out of the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)