Modiwl LCF-3030:
Sgiliau Iaith Ffrangeg
Sgiliau Iaith Ffrangeg 2022-23
LCF-3030
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
30 credits
Module Organiser:
Jonathan Ervine
Overview
Nod y modiwl 30 credyd hwn sy'n para trwy'r flwyddyn yw hyrwyddo defnydd priodol o arddull a chywair ym mhob darn o waith ysgrifenedig a sicrhau bod myfyrwyr yn gallu ymdrin ag amrywiadau cywair a mynegiant idiomatig mewn modd hyderus a chywir. Trwy ddarllen testunau amrywiol a gweld strwythurau gramadegol cymhleth, disgwylir i fyfyrwyr feithrin sgiliau darllen ac ysgrifennu sy'n cyfateb i safon myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf.
Assessment Strategy
-threshold -40-49%: I ennill credyd, rhaid i'r myfyrwyr ddangos gallu cyffredinol ym mhob un o'r sgiliau a brofir.
-good -50-69%: Bydd y myfyrwyr yn dangos ystod dda o eirfa, gallu gramadegol eang a'r gallu i'w mynegi eu hunain yn effeithiol ymhob un o'r sgiliau angenrheidiol.
-excellent -70+%: Bydd yr ymgeiswyr gorau yn dangos galluoedd sy'n ymylu ar fod yn rhai siaradwr brodorol ym mhob un o'r sgiliau a brofir, gyda lefel uchel o hyder a dawn wrth eu mynegi eu hunain, ac yn defnyddio'r agweddau technegol ar yr iaith mewn modd sydd, i raddau helaeth, yn naturiol.
Learning Outcomes
- Bydd gan y myfyrwyr eirfa ehangach mewn perthynas â'r themâu a astudir.
- Bydd gan y myfyrwyr ymwybyddiaeth ehangach o wahanol gyweiriau'r iaith a'r mathau o fynegiant.
- Bydd myfyrwyr wedi cael cysylltiad â'r prosesau, yr arferion a'r syniadau sydd ynghlwm â chyfieithu.
- Bydd myfyrwyr yn dangos meistrolaeth soffistigedig o'r Ffrangeg wrth ysgrifennu traethodau, a hynny gan ddefnyddio cywair uwch a geirfa addas.
- Bydd y myfyrwyr yn dangos lefelau uwch o ddealltwriaeth wrth wrando, gan ddangos y gallu i ddeall y berthynas rhwng yr iaith lafar a'r iaith ysgrifenedig.
- Bydd y myfyrwyr yn gallu cyflwyno ac amddiffyn cyflwyniadau llafar sy'n soffistigedig o ran cynnwys ac arddull, gan ddangos meistrolaeth gadarn o'r iaith briodol fel y byddai'n cael ei siarad gan siaradwyr brodorol.
- Bydd y myfyrwyr yn gallu cynnig cyfieithiadau sy'n fanwl-gywir ac yn dangos empathi, sef nid yn unig yn cyfleu ystyr y testun ond hefyd yn cyfleu ei naws.
Assessment method
Aural Test
Assessment type
Crynodol
Description
Listening comprehension (video summary)
Weighting
13.33%
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd 500 gair, wedi'i ysgrifennu yn Ffrangeg.
Weighting
13.33%
Assessment method
Other
Assessment type
Crynodol
Description
Crynodeb o erthygl / aralleirio
Weighting
13.34%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad cyfieithu - Cyfieithu un testun o Ffrangeg i Saesneg/Gymraeg - Cyfieithu un testun o Saesneg/Gymraeg i Ffrangeg
Weighting
30%
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad llafar
Weighting
30%