Modiwl LCS-3031:
Project 3 Sbaeneg (2bb/1ib)
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
10.000 Credydau neu 5.000 Credyd ECTS
Semester1
Trefnydd: Dr David Miranda-Barreiro
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ysgrifennu darn estynedig o waith yn ystod eu semester mewn gwlad Sbaeneg ei hiaith. Mae'r project yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth drylwyr am elfen benodol o fywyd, llenyddiaeth neu ddiwylliant Sbaeneg, Catalaneg neu Aliseg a gwella eu Sbaeneg ysgrifenedig a llafar yr un pryd. Dylid dewis pwnc nad yw eisoes yn elfen benodol o'r maes llafur, pwrpas hynny yw annog myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau astudio annibynnol a'u sgiliau ymchwil.
Cynnwys cwrs
Ar yr amod y caiff ei gymeradwyo gan aelodau perthnasol staff yr Ysgol Ieithoedd Modern, gall y dewis bwnc neu'r darn i'w gyfieithu ymwneud ag unrhyw agwedd ar fywyd, llenyddiaeth, hanes neu ddiwylliant Sbaeneg, Catalaneg neu Aliseg. Dylid dewis pwnc/darn i'w gyfieithu nad yw eisoes yn elfen benodol o'r maes llafur. Ni ddylid dewis darn i'w gyfieithu sydd eisoes wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg/Saesneg. Bydd y traethawd/cyflwyniad yn yr iaith darged.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy: 40-49% Dealltwriaeth foddhaol o'r pwnc a ddewiswyd; tystiolaeth gyfyngedig o sgiliau ymchwil annibynnol a gafael gyfyngedig ar eirfa a gramadeg.
dda
Da: 50-69% Dealltwriaeth gadarn o'r pwnc a ddewiswyd; tystiolaeth ddigonol o sgiliau ymchwil annibynnol a gafael dda ar eirfa a gramadeg.
rhagorol
Rhagorol: 70+% Dealltwriaeth drylwyr o'r pwnc a ddewiswyd; tystiolaeth helaeth o sgiliau ymchwil annibynnol a gafael ragorol ar eirfa a gramadeg.
Canlyniad dysgu
-
Dangos y gallu i wneud ymchwil yn annibynnol a dangos blaengaredd wrth ddatrys problemau.
-
Dangos y gallu i gasglu gwybodaeth a'i chrynhoi'n effeithiol mewn dadl glir a rhesymegol yn yr iaith darged, ar lafar neu'n ysgrifenedig.
-
Dangos tystiolaeth gadarn o feddwl gwreiddiol dadansoddol.
-
Dangos eu bod yn gyfarwydd â thechnegau cyfeirio (yn cynnwys llunio llyfryddiaeth).
-
Dangos lefel uchel o hyfedredd wrth ddefnyddio'r iaith Sbaeneg a'i gramadeg.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Cynnwys | 47.50 | ||
Iaith | 47.50 | ||
Sgiliau traethawd hir | 5.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | 98 | |
Workshop | 2 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- T120: BA Chinese & Spanish with French year 4 (BA/CHSF)
- T121: BA Chinese & Spanish with German year 4 (BA/CHSG)
- T122: BA Chinese & Spanish with Italian year 4 (BA/CHSI)
- R914: BA French & Spanish with German year 4 (BA/FSG4)
- R915: BA French & Spanish with Italian year 4 (BA/FSI4)
- R922: BA German & Spanish with French year 4 (BA/GSF4)
- R923: BA German & Spanish with Italian year 4 (BA/GSI4)
- R926: BA Italian & Spanish with French year 3 (BA/ISF4)
- R927: BA Italian & Spanish with German year 3 (BA/ISG4)