Modiwl UXC-3052:
Radio a Phodledu Uwch
Radio a Phodledu Uwch 2024-25
UXC-3052
2024-25
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Geraint Ellis
Overview
Bydd y modiwl hwn yn galluogi'r myfyrwyr i ddysgu mwy am agweddau arbennig o gynhyrchu radio a phodledu, gyda phwyslais ar gomedi, drama a phodlediadau sydd wedi eu seilio ar drafodaethau. Byddant yn gwrando ar enghreifftiau, yn dadansoddi ymarferion cynhyrchu ac ystyriaethau golygyddol, ac yn datblygu eu syniadau a'u cynyrchiadau eu hunain.
Mewn cyfres o ddarlithoedd awr o hyd a gweithdai dwy awr wythnosol, bydd y myfyrwyr yn astudio enghreifftiau o gynyrchiadau comedi, drama, a phodlediadau wedi eu seilio ar drafodaethau, ac yn datblygu eu syniadau a'u cynyrchiadau eu hunain yn y meysydd hyn. Trafodir amryw o ffurfiau a genres o fewn y tri phrif maes ac archwilir amryw o ystyriaethau golygyddol. Bydd y myfyrwyr yn datblygu syniadau unigol o fewn y tri maes cyn canolbwyntio ar un o'r syniadau hyn a chreu eu cynhyrchiad eu hunain. Bydd disgwyl i bawb wneud cyflwyniad llafar am eu prif brosiect cynhyrchu i weddill y grŵp o flaen llaw.
Assessment Strategy
Trothwy - D: •Gwybodaeth am brif feysydd / egwyddorion yn unig •Gwendidau o ran dealltwriaeth o brif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Nid yw’r ateb yn canolbwyntio’n ddigonol ar y cwestiwn ac mae peth deunydd amherthnasol a strwythur gwael •Cyflwynir y dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Nifer o wallau ffeithiol / cyfrifiadurol •Dim dehongli gwreiddiol •Disgrifir dim ond y prif gysylltiadau rhwng testunau •Peth datrys problemau •Nifer fawr o wendidau mewn cyflwyno a chywirdeb
Da - C/B: •Gwybodaeth am feysydd/egwyddorion allweddol •Yn deall y prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Ateb yn canolbwyntio ar y cwestiwn ond hefyd mae peth deunydd amherthnasol a gwendidau yn y fframwaith •Cyflwynir y dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Nifer o wallau ffeithiol/ cyfrifiadurol •Dim dehongli gwreiddiol •Disgrifir dim ond y prif gysylltiadau rhwng testunau •Peth datrys problemau •Rhywfaint o wendid o ran cyflwyniad a chywirdeb
•Gwybodaeth gref •Deall y rhan fwyaf ond nid y cyfan •Tystiolaeth o astudio cefndirol •Ateb pwrpasol gyda strwythur da •Dadleuon wedi’u cyflwyno’n gydlynol •Dim gwallau ffeithiol / cyfrifiadurol ar y cyfan •Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol cyfyngedig •Disgrifir cysylltiadau adnabyddus rhwng testunau •Ymdrinnir â phroblemau drwy ddulliau presennol •Cyflwyniad da, gyda chyfathrebu cywir
Ardderchog - A: •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol helaeth •Ateb â chanolbwynt clir iawn, ac wedi’i strwythuro’n dda •Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Dim gwallau ffeithiol / cyfrifiadurol •Dehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng testunau •Dull newydd o ymdrin â phroblem •Cyflwyniad rhagorol gyda chyfathrebu cywir iawn
Learning Outcomes
- Arbrofi, fel sydd yn addas, gyda ffurfiau, confensiynau, ieithoedd, technegau ac ymarferion o fewn cyd-destun darlledu radio a phodledu.
- Cychwyn, datblygu a chyflawni gwaith gwreiddiol a chreadigol o fewn maes cynhyrchu radio a phodledu;
- Cynhyrchu gwaith gwreiddiol sydd yn dangos eu bod yn gallu trin sain yn effeithiol a gyda hyder;
- Dangos y gallu i ddadansoddi prosesau creadigol ac ymarfer drwy ymgymeryd ag o leiaf un dull cynhyrchu;
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Creu cynhyrchiad sain gwreiddiol drwy weithio’n annibynnol yn un o’r meysydd cynhyrchu o dan sylw, gan ddatblygu sgript/cynllun a chyflawni'r holl broses greadigol, golygyddol a thechnegol.
Weighting
60%
Due date
06/05/2024
Assessment method
Written Plan/Proposal
Assessment type
Summative
Description
Syniadau cynhyrchu - cyflwyno dri chynnig cryno, gyda phob un mewn maes cynhyrchu gwahanol.
Weighting
40%
Due date
08/03/2024