Modiwl VPC-2407:
Gwrth-Semitiaeth
Gwrth-Semitiaeth 2023-24
VPC-2407
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Gareth Evans-Jones
Overview
Bydd y modiwl yn archwilio amrywiaeth o feysydd megis: Perthynas y grefydd Gristnogol a’r Ymerodraeth Rufeinig, a’i dylanwad ar yr Iddewon yn y canrifoedd cynnar OC; Y Croesgadau a’u heffeithiau; Y Babaeth yn yr Oesoedd Canol; Sbaen yr Oesoedd Canol: Delweddau ac eiconograffeg wrth-Iddewig y Cristnogion a’r Mwslemiaid; Safbwynt paradocsaidd Martin Luther parthed yr Iddewon; Mudiad Seioniaeth a thwf gwrth-Semitiaeth; Yr Holocost a’r Shoah; Perthnasau cyfoes yr Iddewon a’r Cristnogion; Perthynas hanesyddol, cymdeithasol a diwylliannol Islam ac Iddewiaeth; Iddewon dan law Mwslemiaid; Y Gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina; Plaid Lafur Prydain a ‘Gwrth-Semitiaeth’; Neo-Natsiaeth a Gwrth-Semitiaeth; ac ymdrechion modern i wrthsefyll gwrth-Semitiaeth.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy D- i D+Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: •Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. •Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. •Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. •Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
-good -Da iawn B- i B+Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: •Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. •Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. •Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. •Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
-excellent -Ardderchog A- i A*Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol: •Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. •Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. •Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
-another level-Da C- i C+Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos: •Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. •Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. •Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. •Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
Learning Outcomes
- • Archwilio rôl hunaniaeth/hunaniaethau personol, cenedlaethol, a rhyngwladol mewn perthynas â’r ddeialog ryng-grefyddol gyfoes rhwng Iddewon a Christnogion.
- • Archwilio’r modd y mae ffactorau diwinyddol a gwleidyddol wedi dylanwadu ar y modd y cedwid y crefyddau ac yn wir ar berthynas yr Iddewon a'r Cristnogion.
- • Dangos dealltwriaeth o’r ffactorau hanesyddol a diwylliannol gwahanol sydd wedi peri newidiadau i berthnasau rhwng Iddewon a Christnogion.
- • Dangos dealltwriaeth o’r ffactorau hanesyddol a diwylliannol sydd wedi arwain y ffordd ar gyfer newidiadau yn y berthynas rhwng Iddewon a Christnogion.
- • Gwerthuso a dadansoddi’n feirniadol amrediad o ffynonellau cynradd ac eilaidd, gan gynnwys deunyddiau diwinyddol, datganiadau Eglwysig, ac ysgrifau cyfreithiol, gan ystyried yn benodol y modd y maent wedi dylanwadu ar berthynas yr Iddewon a’r Cristnogion.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Disgwylir i fyfyrwyr lunio traethawd 2500 gair yn ymateb i un cwestiwn o blith dewis.
Weighting
50%
Due date
14/11/2022
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Bydd myfyrwyr yn traddodi cyflwyniad llafar 15 munud am astudiaeth achos o wrth-Semitiaeth a gofnodwyd yn y cyfryngau'n ddiweddar ac yn ystyried sut y gellid ei ddehongli o bersbectif athronyddol a/neu gymdeithasegol.
Weighting
50%
Due date
12/12/2022