Modiwl VPC-3409:
Cenedlaeth Crefydd Chymdeithaa
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Gareth Evans Jones Dr Gareth Evans Jones
Amcanion cyffredinol
Ceir yn y modiwl yma ddau brif fwriad sy’n mynd law yn llaw. Y cyntaf yw cyflwyno myfyrwyr i rai o brif feddylwyr a mudiadau athronyddol yr 20fed ganrif, gan astudio a dehongli eu prif egwyddorion. Yr ail yw edrych ar sut y derbyniwyd a dehonglwyd yr athroniaethau yma gan feddylwyr yng Nghymru. Nod pellach i’r modiwl yw galluogi’r myfyrwyr i ddadansoddi a chloriannu os, neu ym mha ffyrdd, y mae athroniaeth yr 20fed ganrif wedi ei chymhwyso at y cyd-destun Cymreig.
Cynnwys cwrs
Mae’r modiwl yma’n trafod a dadansoddi sawl ysgol orllewinol o feddwl athroniaeth ers troad yr 20fed ganrif gan gynnwys delfrydiaeth Brydeinig, athroniaeth Wittgensteinaidd a dirfodaeth. Fe fydd myfyrwyr yn derbyn cyflwyniad cyffredinol i’r athroniaethau yma ac yn canolbwyntio ar rai o’r prif feddylwyr, yn ogystal ag astudio’r athronwyr ‘Cymreig’ sydd wedi bod yn lladmeryddion iddynt, neu wedi cymhwyso rhai o’r prif syniadau i’w priod bynciau eu hunain - megis crefydd a chenedlaetholdeb. Ceir cyfle hefyd i ystyried syniadaeth gyfredol megis ôl-foderniaeth ac ôl-wladychiaeth a’u harwyddocâd i ni’r Cymry cyfoes. Fe fydd gan fyfyrwyr felly’r cyfle unigryw o astudio rhai o’r syniadau mwyaf dylanwadol yn hanes diweddar y gorllewin wrth ystyried yn ogystal eu dylanwad ar y meddwl Cymreig.
Meini Prawf
C- i C+
C- i C+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos:
- Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol.
- Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr.
- Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. •
- Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
ardderchog
A- i A*
Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol:
- Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg.
- Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol.
- Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
da
B- i B+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos:
- Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol.
- Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr.
- Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn.
- Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
trothwy
D- i D+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol:
- Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau.
- Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur.
- Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau.
- Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
Canlyniad dysgu
-
Gallu cloriannu, asesu ac archwilio dadleuon athronyddol ar lafar yn hyderus.
-
Arddangos ymwybyddiaeth gadarn, dealltwriaeth o brif syniadau athronwyr blaenaf Cymru'r 20fed ganrif.
-
Gwerthuso'n feirniadol y modd y mae meddylwyr Cymreig wedi addasu a dehongli egwyddorion a syniadau athronyddol o’r ysgolion athronyddol pwysicaf. Gyda hyn, disgwylir i fyfyrwyr allu cyd-destunoli'r 'athroniaeth Gymreig' o fewn athroniaeth ehangach y gorllewin.
-
Gwybodaeth ofalus o drawsnewidiad athroniaeth y gorllewin yn ystod yr 20fed ganrif.
-
Ymgyfarwyddo â hanfodion rhai o fudiadau athronyddol pennaf yr 20fed ganrif a gwerthfawrogi'r modd y maent yn perthyn i athroniaeth Gymreig yn benodol.
-
Myfyrio a damcaniaethu ynghylch y modd y mae’r syniadau a drafodir yn berthnasol heddiw, ac i ba raddau y gall datblygiadau mwy diweddar yn athroniaeth ein cynorthwyo wrth feddwl am y Cymry cyfoes.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
LLYFR LOG NEU BORTFFOLIO | Cofnodion Log | Bydd disgwyl i fyfyrwyr lunio darn 500 gair yr un yn trafod agweddau yr ymdriniwyd â nhw yn y darlithoedd wrth i'r modiwl fynd yn ei flaen. Bydd disgwyl i fyfyrwyr adfyfyrio ar eu profiad dysgu ynghyd â dangos eu bod yn deall yr hyn a drafodwyd yn y cwrs. |
20.00 |
TRAETHAWD | Traethawd | Rhoddir dewis o gwestiynau traethawd i'r myfyrwyr a disgwylir iddynt ateb un a llunio traethawd 2,500 gair. |
80.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd â 170 awr o astudiaethau preifat. Darperir myfyrwyr â rhestr darllen a deunydd darllen y disgwylir iddynt eu cwblhau yn ystod y semester. Bydd y gwaith darllen hyn yn ategu at y darlithoedd a'r seminarau ac yn cyfoethogi profiad dysgu'r myfyrwyr. |
170 |
Lecture | Darperir myfyrwyr â darlithoedd awr o hyd ddwywaith yr wythnos am 10 wythnos pan gyflwynir gwybodaeth am athronwyr Cymreig a phan anogir myfyrwyr i ddatblygu sgiliau amrywiol, megis gwrando, dadansoddi, cloriannu ac annibyniaeth meddwl. |
20 |
Seminar | Disgwylir i fyfyrwyr fynychu deg seminar awr yr un lle cyflwynir cwestiynau trafod amrywiol. Bydd hyn yn ffordd i'r myfyrwyr gloriannu eu haddysg o'r darlithoedd a'u hastudiaethau annibynnol ar lafar ymysg eu cyfoedion. |
10 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Articulacy in identifying underlying issues in a wide variety of debates.
- Precision of thought and expression in the analysis and formulation of complex and controversial problems.
- Sensitivity in interpretation of religious and philosophical texts drawn from a variety of ages and/or traditions.
- Clarity and rigour in the critical assessment of arguments presented in such texts.
- The ability to use and criticise specialised religious and philosophical terminology.
- The ability to abstract and analyse arguments, and to identify flaws in them, such as false premises and invalid reasoning.
- The ability to construct rationally persuasive arguments for or against specific religious and philosophical claims.
- The ability to move between generalisation and appropriately detailed discussion, inventing or discovering examples to support or challenge a position, and distinguishing relevant and irrelevant considerations.
- The ability to consider unfamiliar ideas and ways of thinking, and to examine critically presuppositions and methods within the disciplines of philosophy and religion.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/vpc-3409.htmlRhestr ddarllen
Earnshaw, S., Existentialism: A Guide for the Perplexed (2006, London: Continuum)
F. Fanon, The Wretched of the Earth (2005, Grove Press)
Walford L. Gealy, Wittgenstein (1980, Gwasg Gee)
J.R. Jones, Prydeindod (1966, Llandybie: Christopher Davies)
Lyotard, J.-F., The Postmodern Condition: A Report on Knowledge, Geoff Bennington and Brian Massumi (trans.), (1984, Minneapolis: University of Minnesota Press)
E.G. Matthews, Hegel (1984, Gwasg Gee)
E.G. Matthews, Yr Athro Alltud, Syr Henry Jones (1998, Gwasg Gee)
Stern, David G., Wittgenstein's Philosophical Investigations: An Introduction (2004 Cambridge: Cambridge University Press)
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- VV56: BA Philosophy and Religion year 3 (BA/PHRE)
- VV5P: BA Philosophy and Religion with Placement Year year 3 (BA/PHREP)
- 3VQV: BA Philosophy and Religion and English Literature year 3 (BA/PREN)
- VVR1: BA Philosophy and Religion and French year 4 (BA/PRF)
- VVR2: BA Philosophy and Religion and German year 4 (BA/PRG)
- VVV1: BA Philosophy and Religion and History year 3 (BA/PRH)
- VVR3: BA Philosophy and Religion and Italian year 4 (BA/PRI)
- VV57: BA Philosophy and Religion with International Experience year 3 (BA/PRIE)
- VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 3 (BA/PRM)
- VVR4: BA Philosophy and Religion and Spanish year 4 (BA/PRS)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 3 (BA/PRW)
- VVV2: BA Philosophy and Religion and Welsh History year 3 (BA/PRWH)
- M1V5: LLB Law with Philosophy and Religion year 3 (LLB/LPR)