Modiwl WXC-1000:
Cyflwyniad i Ysgrifennu Drama
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Mrs Ffion Evans
Amcanion cyffredinol
Mae Cyflwyniad i Ysgrifennu Drama yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio'r broses ysgrifennu ar gyfer perfformio. Gan ganolbwyntio'n bennaf ar ysgrifennu gwaith newydd i’r llwyfan, sut mae rhywun yn datblygu'r ymarfer o lunio naratif, datblygu cymeriad, dadansoddi strwythur a drafftio syniadau i fod yn gynhyrchiad? Edrychir ar y berthynas a’r cydweithio rhwng yr awdur â'r cyfarwyddwr a'r actorion ynghyd â gwerthuso'r tebygrwydd a'r gwahaniaethau allweddol i ysgrifennu ar gyfer y sgrin.
Cynnwys cwrs
Crynodeb o Gynnwys y Cwrs:
-
Cyflwyniad i'r technegau a'r dulliau allweddol a ddefnyddir i ysgrifennu ar gyfer y llwyfan
-
Archwilio proses awduron o’r testun i’r cynhyrchiad
-
Cyflwyno ystod amrywiol o brosesau awduron
-
Cyfle i ymchwilio i lais y dysgwr ei hun
Meini Prawf
ardderchog
Rhagorol (A- i A+):
Mae’r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol ac yn rhagori mewn un neu fwy o’r ffyrdd canlynol:
-
Mae’n cynnwys esboniadau gwreiddiol gyda syniadau’r myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg.
-
Mae’n rhoi tystiolaeth glir o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol.
-
Cyflwynir dadleuon yn eglur gan alluogi'r darllenydd i ystyried fesul cam er mwyn dod i gasgliadau.
da
Da i Dda iawn (B- i B+):
Mae’r gwaith a gyflwynwyd yn fedrus ac yn dda iawn drwyddo draw ac yn dangos arddull uwch, dull ymdrin a dewis o ddeunyddiau cefnogi.
-
Dangos strwythur da neu dda iawn a dadleuon sydd wedi’u datblygu’n rhesymegol.
-
Mae’n defnyddio’n rhannol, o leiaf, ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn modd sy’n unigryw i’r myfyriwr.
-
Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.
-
Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd a phroffesiynol priodol.
C- i C+
Boddhaol/Da (C- i C):
Mae’r gwaith a gyflwynwyd yn fedrus gan ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'r maes pwnc.
-
Dangos strwythur da a rhai dadleuon sydd wedi’u datblygu’n rhesymegol.
-
Yn defnyddio’n bennaf deunydd a gafwyd ac a aseswyd o'r modiwl gyda rhywfaint o astudiaeth annibynnol gyfyngedig.
-
Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu da.
-
Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd a phroffesiynol priodol.
trothwy
Trothwy (D- i D+):
Mae’r gwaith a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn dangos lefel dderbyniol o allu fel a ganlyn:
-
Yn gywir ar y cyfan, ond yn cynnwys rhai diffygion a gwallau.
-
Gwneir honiadau heb dystiolaeth ategol glir na rhesymu.
-
Yn cynnwys strwythur ond yn brin o eglurder ac felly’n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a rhagdybiaethau.
-
Defnyddir ystod gymharol gyfyng o ddeunydd.
Canlyniad dysgu
-
Datblygu a chreu testunau dramatig a ddefnyddir mewn meusydd drama penodol.
-
Dangos gallu i ddarllen a dehongli deunydd cefndir perthnasol mewn modd deallus a’r gallu i ddadansoddi testunau dramatig yn feirniadol
-
Deall beth yw ymarfer perfformio, dangos ymwybyddiaeth o ddulliau cyfredol yn y maes a bod yn gyfarwydd â gwaith nifer o awduron arloesol a gwaith cynhyrchu.
-
Dangos ymwybyddiaeth o’r gyd-berthynas rhwng theori ac ymarfer ym maes ysgrifennu sgriptiau ac o’r prosesau cysyniadol a chreadigol sy’n sail i ddeall a gwireddu perfformiad.
-
Disgrifio, dehongli a gwerthuso testun perfformiad ar draws amrywiaeth o ddigwyddiadau a safleoedd.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
GWAITH CWRS | Cyflwyno Syniad | Bydd syniadau cychwynnol ar gyfer sgript arfaethedig yn cael eu cyflwyno trwy ffurf ysgrifenedig. Bydd y crynodeb o gefndiroedd cymeriadau, enghreifftiau o destun, ymchwil allweddol a fydd yn bwydo mewn i’r sgript yn y tymor olaf yn cael ei gyflwyno ynghyd â syniadau cychwynnol i ddatblygu strwythur naratif. |
30.00 |
GWAITH CWRS | Ysgrifennu Monolog | Bydd monolog byr yn cael ei gyflwyno trwy ffurf ysgrifenedig, cyfle i'r dysgwr gyflwyno syniadau pendant, cyfle i weld sut mae llais y dysgwr yn datblygu a chyfle i arbrofi gyda syniadau a strwythurau a addysgwyd yn y sesiwn hyd yma. |
20.00 |
GWAITH CWRS | Cyflwyno Sgript | Trwy gyfres o syniadau drafftio trwy gydol y semester, bydd sgript diwedd y tymor yn cael ei chyflwyno i gloi astudiaethau’r modiwl. Edrychir ar y broses o ddatblygu syniadau cysyniadol yn feddyliau pendant yn ogystal â sut mae llais y dysgwr ei hun wedi datblygu trwy gydol y semester. |
50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
External visit | Cyfle i ymweld â pherfformiadau byw yn ogystal â deunydd digidol ar-lein o waith cynhyrchu i gefnogi syniadau. |
9 |
Supervised time in studio/workshop | Cyfle i gael adborth ar ddatblygu gwaith ar y gweill. |
11 |
Practical classes and workshops | Gweithdai wedi'u cynllunio'n benodol i gefnogi ysgrifennu drama |
22 |
Seminar | Astudio sy'n canolbwyntio ar ymchwil i gefnogi gwybodaeth a dealltwriaeth ddamcaniaethol. |
8 |
Private study | Astudio annibynnol i ddarllen a dadansoddi deunydd ymchwil, datblygu syniadau creadigol a pharatoi ar gyfer asesiadau. |
150 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- An understanding of creative and critical processes, and of the wide range of skills inherent in creative writing. (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.1).
- Knowledge of a wide range of canonical English texts, providing a confident understanding of literary traditions as well as the confidence to experiment and challenge conventions when writing creatively. (English Benchmark Statement 3.1).
- Artistic engagement and ability to articulate complex ideas in oral and written forms. (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2).
- Ability to connect creative and critical ideas between and among forms, techniques and types of creative and critical praxis. (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.2).
- Awareness of how different social and cultural contexts affect the nature of language and meaning (English Benchmark Statement 3.2).
- Reflective practitioner skills, including awareness of the practice of others in collaborative learning (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.2).
- The ability to synthesize information from various sources, choosing and applying appropriate concepts and methods (English Benchmark Statement 3.3).
- Ability to formulate and solve problems, anticipate and accommodate change, and work within contexts of ambiguity, uncertainty and unfamiliarity (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.3).
- Ability to engage in processes of drafting and redrafting texts to achieve clarity of expression and an appropriate style. (English Benchmark Statement 3.3; NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2).
- Ability to gather information, analyse, interpret and discuss different viewpoints (NAWE Creative Writing Benchmark Statement 3.2; English Benchmark Statement 3.3).
- Re-creative skills – interpretation, innovation, versatility, and other skills relating to performance
- Creative skills – conception, elaboration, adaptation, presentation, collaboration, preservation
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Disgwylir i fyfyrwyr fynd i o leiaf un perfformiad proffesiynol cyhoeddus yn ystod y modiwl a darllen testunau dramâu yn rheolaidd
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wxc-1000.htmlRhestr ddarllen
https://rl.talis.com/3/bangor/lists/BD6DAAE9-6DC4-1EAC-CED9-80FD7912BC12.html?lang=en
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- 32M8: BA English Literature with Theatre and Performance year 1 (BA/ELTP)
- P3W5: BA Film Studies with Theatre and Performance year 1 (BA/FSTP)
- P35W: Film Stud with Theatre & Performance with International Exp. year 1 (BA/FSTPIE)
- P3WL: BA Media Studies with Theatre and Performance year 1 (BA/MSTP)
- P3WB: BA Media Stud with Theatre & Perform (4yr with Incorp Found) year 1 (BA/MSTP1)
- W3W4: BA Music with Theatre & Performance year 1 (BA/MUSTP)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- T103: BA Chinese and Creative Studies year 1 (BA/CHCS)
- WPQ1: BA Creative Studies (with International Experience) year 1 (BA/CSIE)
- WPQ0: BA Creative Studies year 1 (BA/CST)
- WPQB: BA Creative Studies (4 year with Incorporated Foundation) year 1 (BA/CST1)
- WQ93: BA Creative Stds & English Lang. year 1 (BA/CSTEL)
- WR91: BA French and Creative Studies year 1 (BA/CSTFR)
- WR92: BA German and Creative Studies year 1 (BA/CSTG)
- WR93: BA Italian and Creative Studies year 1 (BA/CSTITAL)
- WW93: BA Creative Studies and Music year 1 (BA/CSTMUS)
- WR94: BA Spanish & Creative Studies year 1 (BA/CSTSP)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 1 (BA/CTC)