Modiwl XCC-1215:
Astudiaethau Pwnc 1.3
Humanities, Health and Wellbeing 2025-26
XCC-1215
2025-26
School of Education
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Nia Lynn Powell Jones
Overview
Dyma’r modiwl Dyniaethau, Iechyd a Lles cyntaf y byddwch yn ei astudio a bydd yn canolbwyntio ar rai o’r cysyniadau hanfodol o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad hyn. Bydd y cynnwys yn datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o sut mae'r pynciau hyn yn cael eu cynllunio, eu datblygu a'u cyflwyno ar gyfer disgyblion dysgu sylfaen.
Dyniaethau: Dechrau datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o: • Y Dyniaethau o fewn y Cwricwlwm i Gymru • Themâu Allweddol o fewn y Dyniaethau: Daearyddiaeth, Hanes, Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, Astudiaethau Busnes ac Astudiaethau Cymdeithasol a sut i gymhwyso'r rhain i ddysgu sylfaen • Pobl, lleoedd, cyfnodau a chredoau • Amrywiaeth gymdeithasol a diwylliannol • ‘Cynefin’: Lleol, Cymru a’r byd ehangach mewn ystod o amserau, lleoedd ac amgylchiadau • Sut i ofyn cwestiynau am brofiadau dynol y gorffennol a'r presennol, ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang • Sut mae stori bersonol dysgwyr yn rhan o ddarlun ehangach o’r gorffennol a’r presennol • Dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth
Iechyd a Lles: Dechrau datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o: • Iechyd a Lles o fewn y Cwricwlwm i Gymru • Themâu Iechyd a Lles Allweddol: Gofal a Datblygiad Personol, Dewisiadau Iach, Dysgu i Ddysgu, Perthnasoedd ac Emosiynau, Cadw'n Ddiogel a sut i gymhwyso'r rhain i ddysgu sylfaenol • Gweithgareddau Corfforol ac addysg awyr agored • Lles meddyliol, emosiynol a chorfforol • Dylanwad cymdeithasol a diwylliannol ar ein cymunedau • Sut i drefnu gwersi ymarferol • Dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth • Gwerthoedd personol, hunan-barch, hyder a chymhelliant
Assessment Strategy
Bydd dau aseiniad yn y modiwl yma.
-Ardderchog-(A) Bydd y rhan fwyaf o ddeilliannau dysgu wedi'u bodloni i lefel ragorol a bydd yr holl ddeilliannau dysgu o leiaf yn dda iawn. Cefnogir gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn o gynnwys y modiwl gan ystod eang o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol rhagorol wrth fyfyrio ar ystod eang o arddulliau addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu eu sgiliau astudio i safon ragorol a byddant yn gallu cyfathrebu i safon ragorol mewn cyd-destun proffesiynol ac academaidd.
-Da iawn-(B) Bydd y rhan fwyaf o ddeilliannau dysgu wedi'u bodloni i lefel dda iawn. Gall rhagoriaeth mewn rhai canlyniadau dysgu gydbwyso cyrhaeddiad boddhaol mewn eraill. Cefnogir gwybodaeth a dealltwriaeth dda iawn o gynnwys y modiwl gan ystod dda iawn o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol da iawn wrth fyfyrio ar ystod sylweddol o addysgu ac arddulliau dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu eu sgiliau astudio i safon dda iawn a byddant yn gallu cyfathrebu i safon dda iawn mewn cyd-destun proffesiynol ac academaidd.
-Da-(C) Bydd y rhan fwyaf o ddeilliannau dysgu wedi'u bodloni i lefel dda . Cefnogir gwybodaeth a dealltwriaeth dda o gynnwys y modiwl gan ystod dda o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol da wrth fyfyrio ar ystod sylweddol o addysgu ac arddulliau dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu eu sgiliau astudio i safon dda a byddant yn gallu cyfathrebu i safon dda mewn cyd-destun proffesiynol ac academaidd.
-Boddhaol-(D) Bydd yr holl ddeilliannau dysgu wedi'u bodloni i lefel foddhaol. Cefnogir gwybodaeth a dealltwriaeth o gynnwys y modiwl gan ystod foddhaol o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr wedi dangos tystiolaeth foddhaol o ddadansoddi beirniadol wrth fyfyrio ar addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu eu sgiliau astudio i safon foddhaol a byddant yn gallu cyfathrebu i safon foddhaol mewn cyd-destun proffesiynol ac academaidd.
Learning Outcomes
- Dangos gwybodaeth a sgiliau pwnc-benodol sy'n gysylltiedig ag Dyniaethau, Iechyd a Lles
- Datblygu ymwybyddiaeth o arfer addysgeg effeithiol sy’n berthnasol i’r Dyniaethau, Iechyd a Lles
- Deall pwysigrwydd dysgu ar sail ymholiad
- Dealltwriaeth clir o ofynion iechyd a diogelwch wrth gyflwyno Dyniaethau, Iechyd a Lles y tu mewn a'r tu allan i’r dosbarth
- Dealltwriaeth gadarn o sut i gyflwyno deilliannau dysgu trwy ddulliau ymarferol, creadigol a deniadol sydd o fudd i bawb
- Myfyrio yn effeithiol ar eich ymarfer, gan ei gysylltu â theoriau addysgeg
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Adfyfyriwch ar sut mae defnyddio ymweliad addysgol yn cynorthwyo dysgu’r Dyniaethau a Iechyd a Lles i ddisgyblion dysgu sylfaen. Dylid gwneud cysylltiadau â darllen cefndirol, y cwricwlwm a theori ysgolheigaidd.
Weighting
50%
Due date
28/01/2026
Assessment method
Case Study
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwynwch Gynllun Gweithgareddau manwl ar gyfer ymweliad addysgol sydd yn datblygu sgiliau Dyniaethau, Iechyd a Lles eich disgyblion sylfaen. Dylid eich safle ar gyfer yr ymweliad a’r gweithgareddau fod yn cysylltu yn glir gyda’r Cwricwlwm i Gymru a theorïau addysgol.
Weighting
50%
Due date
03/12/2025