Modiwl XCC-3063:
Cymraeg mewn Blwyddyn III
Cymraeg Mewn Blwyddyn: Cymraeg i Ymarferwyr Addysg yn y sector cynradd cyfrwng Saesneg (Rhan 3) 2023-24
XCC-3063
2023-24
School Of Educational Sciences
Module - Semester 2
40 credits
Module Organiser:
Eirian Jones
Overview
Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar yr hyn a gyflwynwyd yn nau fodiwl cyntaf y rhaglen:
Cymraeg mewn Blwyddyn I XCC-3060 Cymraeg mewn Blwyddyn II XCC-3061
Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar y ddau fodiwl blaenorol gan barhau i ganolbwyntio ar ddwy agwedd, sef:
- datblygu sgiliau llythrennedd personol yr ymarferwyr
- datblygu gallu yr ymarferwyr i gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau hyn er mwyn datblygu sgiliau iaith eu disgyblion.
O ran adnoddau iaith personol yr ymarferwyr, canolbwyntir ar ddatblygu ac ymestyn eu gafael ar batrymau iaith a gramadeg ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae hyn yn cynnwys eu defnyddio’r berfau; brawddegu a mynegiant yn gyffredinol; treigladau; yn ogystal â datblygu eu geirfa a’u defnydd o dermau addysgol. Bydd yn parhau i gynyddu eu hymwybyddiaeth ieithyddol ac yn eu hannog i ddefnyddio cyfeirlyfrau ieithyddol a phecynnau meddalwedd electronig i’w cynorthwyo. Bydd y modiwl hwn yn cynnwys unedau thematig a fydd yn rhoi cyfle i’r ymarferwyr ymarfer, defnyddio, atgyfnerthu a datblygu’r patrymau a gyflwynir yn Rhan I a Rhan I mewn amrywiaeth o gyd-destunau proffesiynol perthnasol.
Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i’r ymarferwyr fireinio eu sgiliau gwerthuso, hunanwerthuso ac adfyfyrio gan ddatblygu’r gwaith a wnaed yn rhai o dasgau portffolio Cymraeg mewn Blwyddyn II XCC-3061. Byddant yn cael cyfle i wneud hyn ar lafar a thrwy greu darnau ysgrifenedig adfyfyriol estynedig yn y Gymraeg yn y modiwl hwn.
Drwy ddatblygu sgiliau ieithyddol personol yr ymarferwyr ar lafar ac yn ysgrifenedig, bydd y modiwl yn eu helpu i gymhwyso’r agwedd hon wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd eu disgyblion. Parheir i ddatblygu eu gallu i adnabod cyfleoedd i ddatblygu iaith eu disgyblion wrth baratoi a chyflwyno gwersi trawsgwricwlaidd, gan gynnwys paratoi adnoddau addas a’u gwahaniaethu’n bwrpasol.
Hefyd, fel athrawon profiadol, defnyddir eu gwybodaeth am wahanol strategaethau asesu ar gyfer dysgu er mwyn datblygu eu gallu i ymateb i gamgymeriadau disgyblion a chynnig adborth ieithyddol pwrpasol ac adeiladol, gan bennu disgwyliadau a thasgau fydd yn eu galluogi i symud ymlaen yn ieithyddol. Bydd y modiwl yn parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u defnydd o ddulliau dysgu ac addysgu’r iaith Gymraeg ac yn gofyn iddynt werthuso eu defnydd o’r dulliau hyn yn eu sesiynau addysgu.
Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i’r ymarferwyr barhau i weithio ar ddatblygu’r Gymraeg yn strategol yn eu hysgolion. Golyga hyn barhau i weithredu a datblygu’r cynllun ysgol a grëwyd ganddynt yn yr ail fodiwl. Bydd cyfle iddynt werthuso’r cynlluniau hyn er mwyn eu datblygu i’r dyfodol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn datblygu gwybodaeth yr ymarferwyr am arfer da a dulliau addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Byddant yn cael eu hannog i ystyried sut y gellir cymhwyso’r wybodaeth hon i’w sefyllfaoedd proffesiynol eu hunain.
Defnyddir amrywiaeth o ddysgu ffurfiol, gweithdai ymarferol, ymwelwyr a’r dosbarth, ymweliadau allanol ynghyd ag astudiaeth annibynnol dan arweiniad er mwyn cyflwyno’r modiwl hwn.
Bydd ymarferwyr yn cael cyfleoedd i ymarfer eu sgiliau ysgrifennu, darllen, gwrando a chyflwyno ar lafar. Defnyddir ystod o adnoddau iaith ac addysgol i hybu dealltwriaeth a chymhwyso sgiliau'r ymarferwyr.
Yn y modiwl hwn, fel y nodwyd, bydd yr ymarferwyr yn parhau i dreulio cyfnod yn ôl yn eu hysgolion eu hunain yn gweithio ar eu prosiect ysgol personol. Byddant yn parhau i gael arweiniad a chymorth gan athrawon bro eu siroedd gyda’r prosiect hwn.
Byddant hefyd yn treulio cyfnod mewn ysgolion Cymraeg yn arsylwi, trafod a lle bo hynny’n addas, yn cydweithio â staff yr ysgolion hynny. Bydd hyn hefyd yn digwydd drwy gydweithrediad ag athrawon bro’r siroedd perthnasol.
Learning Outcomes
- Adfyfyrio ar eu cynnydd personol eu hunain a’u datblygiad proffesiynol / ieithyddol gan adnabod camau datblygu pellach i’r dyfodol.
- Cynyddu ymwybyddiaeth o batrymau gramadegol y Gymraeg a’u cymhwyso ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Dangos hyder a rhuglder cynyddol wrth fynegi eu hunain ar lafar gan ddefnyddio ystod ehangach o batrymau addas yng nghyd-destun eu sefyllfaoedd proffesiynol.
- Datblygu gallu i gymhwyso’r hyn a ddysgwyd er mwyn adnabod cyfleoedd, gosod disgwyliadau a chynllunio tasgau pwrpasol er mwyn datblygu iaith disgyblion.
- Drwy gydweithio gyda’r prifathro, eu cydweithwyr a’r athrawon bro, gwerthuso eu cynlluniau ar gyfer datblygu’r Gymraeg yn strategol yn eu hysgolion, gan adnabod cyfleoedd i ddatblygu i’r dyfodol.
- Gallu defnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu er mwyn ymateb i iaith disgyblion a chywiro camgymeriadau gan gynnig adborth pwrpasol a dealladwy er mwyn ymestyn sgiliau ieithyddol y plant.
- Gallu gwahaniaethu gweithgareddau ac adnoddau dysgu iaith yn effeithiol a phwrpasol.
- Gwerthuso eu sesiynau addysgu a’u hadnoddau addysgu gan ystyried methodolegau addysgu’r iaith Gymraeg.
- Mynegi eu hunain yn ysgrifenedig gan ddefnyddio ystod ehangach o batrymau a geirfa sy’n berthnasol i’w cyd-destun a’u sefyllfaoedd proffesiynol.
- Parhau i ddefnyddio ac addasu dulliau addysgu’r iaith Gymraeg yn eu gwersi trawsgwricwlaidd er mwyn datblygu iaith disgyblion, yn sesiynau addysgu ac wrth baratoi adnoddau a deunyddiau dysgu.
Assessment type
Summative
Weighting
50%
Assessment type
Summative
Weighting
30%
Assessment type
Summative
Weighting
20%
Assessment type
Summative
Weighting
0%