Modiwl XMC-4041:
Methodoleg Addysgu Dwyieithog
Methodoleg Addysgu Dwyieithog 2022-23
XMC-4041
2022-23
School Of Educational Sciences
Module - PGT
30 credits
Module Organiser:
Huw Clwyd Phillips
Overview
Nod yr hyfforddiant hwn yw cynyddu nifer yr ymarferwyr sy’n addysgu’n ddwyieithog, gan yn ei dro arwain at gynnydd yn hyder a niferoedd y dysgwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg fel cyfrwng dysgu. Bydd ymarferwyr yn cael eu paratoi i weithio’n Gymraeg a Saesneg yn hyderus ac effeithiol gan ddefnyddio’r ddwy iaith yn gytbwys a phriodol yn unol ag anghenion ieithyddol y grwp dysgu.
Assessment Strategy
-threshold - 50% •Cynllunio’n ddigonol mewn perthynas a’r deilliannau dysgu ac anghenion ieithyddol y grwp; •Defnyddio adnoddau addas a chywir sy’n ddigonol i anghenion asesu yn y ddwy iaith; •Defnyddio’r ddwy iaith yn briodol ac yn gywir er mwyn gwneud yn siwr bod pawb yn y grwp yn deall ac yn chwarae rhan weithredol yn y wers yn eu dewis iaith; •Defnyddio dulliau dysgu ac addysgu sy’n ysgogi cyfraniad a chyfranogiad gan bob dysgwr yn eu dewis iaith; •Creu o leiaf un cyfle i ddatblygu sgiliau dwyieithog nifer helaeth o aelodau yn y grwp; •Creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn anffurfiol yn y wers;
-good - 60% •Cynllunio’n llawn mewn perthynas a’r deilliannau dysgu ac anghenion ieithyddol y grwp, gan gynnwys cynllunio i ymestyn sgiliau iaith aelodau’r grwp; •Defnyddio adnoddau safonol er mwyn cyrraedd anghenion asesu yn y ddwy iaith, gan gynnwys defnydd o adnoddau i hyrwyddo sgiliau trawsieithu; •Defnyddio’r ddwy iaith yn flaengar ac yn gywir er mwyn gwneud yn siwr bod pawb yn y grwp yn deall ac yn chwarae rhan weithredol yn y wers yn eu dewis iaith, gan osgoi’r dull o gyfieithu pob brawddeg o’r naill iaith i’r llall; yn gweithredu fel hwylusydd iaith (ee yn trawsieithu cyfraniadau gan aelodau yn y Gymraeg i’r Saesneg o flaen y grŵp cyfan) er mwyn osgoi llithro i’r Saesneg; •Defnyddio dulliau dysgu ac addysgu sy’n ysgogi cyfraniad a chyfranogiad gan bob dysgwr yn eu dewis iaith; •Creu mwy nag un cyfle i ddatblygu sgiliau dwyieithog nifer helaeth o aelodau yn y grwp; •Defnyddio’r Gymraeg at bwrpasau anffurfiol yn rheolaidd.
-excellent - 70% •Ymgorffori dulliau ffurfiol ac anffurfiol i ymestyn sgiliau dwyieithog pob aelod neu fwyafrif aelodau’r grŵp wrth gynllunio i gyrraedd deilliannau dysgu’r pwnc; •Defnyddio adnoddau safonol mewn ffordd heriol ac ysgogol er mwyn cyrraedd anghenion asesu yn y ddwy iaith, gan gynnwys defnydd o adnoddau i hyrwyddo sgiliau trawsieithu; •Defnyddio’r ddwy iaith yn gywir mewn ffordd symbylus a chyffrous, yn gweithredu fel hwylusydd iaith (ee yn trawsieithu cyfraniadau gan aelodau yn y Gymraeg i’r Saesneg o flaen y grwp cyfan) er mwyn osgoi llithro i’r Saesneg; •Defnyddio dulliau dysgu ac addysgu sy’n ysgogi cyfraniad a chyfranogiad gan bob dysgwr yn eu dewis iaith; •Creu cyfleodd i ddatblygu sgiliau dwyieithog pob aelod neu fwyafrif o aelodau yn y grwp; •Gweithredu fel arweinydd ieithyddol wrth symbylu aelodau’r grŵp i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd;
Learning Outcomes
- Cynllunio er mwyn cyflwyno pwnc mewn cyd-destun dwyieithog yn llwyddiannus .
- Dangos hyfedredd ar amrywiaeth o ddulliau a strategaethau sy’n hwyluso dysgu iaith a dysgu pwnc yn y dosbarth/gweithdy mewn amgylchedd dysgu dwyieithog.
- Defnyddio TGCh a ffynonellau ar y we i greu adnoddau dysgu ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg/yn ddwyieithog, gan sicrhau cywirdeb yr iaith ysgrifenedig.
- Dehongli a beirniadol werthuso damcaniaethau yn ymwneud â dysgu ac addysgu dwyieithog.
- Gwerthuso’u hanghenion ieithyddol unigol a pharatoi cynllun datblygu personol.
- Trafod anghenion iaith gwahanol garfanau o ddysgwyr 14-19 oed, a pharatoi’n briodol ar eu cyfer.