Modiwl XUC-2047:
XUC-2047 Arferion Profesiynol 2
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Computer Science and Electronic Engineering
30.000 Credyd neu 15.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Mr Dewi Rowlands
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyrwyr o'r agweddau proffesiynol sy'n gysylltiedig â gyrfa mewn dylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch. Mae'n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn yn y gweithle, rheoli'r gweithle, arweinyddiaeth, arloesi ynghyd â materion allweddol sy'n ymwneud â dylunio a gweithgynhyrchu, ac amrywiaethau cyfathrebu yn y gweithle.
Mae'r darlithoedd yn y modiwl hwn yn llywio ac yn dylanwadu yn uniongyrchol ar fodiwl lleoliad gwaith 2048. Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio ac ymgyfarwyddo â chynnwys y ddarlithoedd ac ymgorffori eu dysgu yn adroddiad lleoliad gwaith modiwl 2048.
Mae ail elfen y modiwl hwn yn cynnwys ysgrifennu academaidd - bydd myfyrwyr yn ymchwilio i ddau bwnc penodol ac yn cyflwyno eu traethodau. Mae pynciau'n ymwneud â themâu fel prosesau arloesi, tueddiadau byd-eang, datblygiad personol, meddwl dylunio a strategaeth.
Mae trydedd elfen y modiwl hwn yn cynnwys tasg tîm 4 wythnos o hyd (cymysgedd ar hap o fyfyrwyr Blwyddyn Gyntaf, Ail a Thrydedd Flwyddyn) i ymgysylltu ac ymateb i friff byw diwydiannol a osodwyd gan un o'n cwmnïau partner. Mae'r agwedd hon ar y modiwl yn cael ei hasesu gan dîm Viva gerbron panel o feirniaid. Mae'r dasg hon a'i hasesiad yn ailadrodd y broses lle byddai dylunwyr sy'n gweithio mewn tîm yn cyflwyno eu canlyniad cyflawn i gleient.
Cynnwys cwrs
Ymhlith y darlithoedd mae:
- Rheoli Prosiectau
- Technegau Arloesi
- Rheolaeth Sefydliadol
- Newid Theori
- Strategaeth Fusnes
- Timau, Arweinyddiaeth a Rheoli Gwrthdaro
- Marchnata
- Modelau a Phecynnau Cymorth Cynaliadwyedd
Meini Prawf
trothwy
Gweler y deilliannau dysgu.
da
Dealltwriaeth dda o'r holl ddeilliannau dysgu a sut y maent yn cydblethu.
ardderchog
Dealltwriaeth dda iawn o'r holl ddeilliannau dysgu gyda'r gallu i adfyfyrio ar eu cydberthynas mewn ffordd ddadansoddol.
Canlyniad dysgu
-
Cyflwyno a myfyrio ar benderfyniadau dylunio tasg tîm
-
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o arweinyddiaeth, rheolaeth, timau, gan gynnwys strategaethau busnes a marchnata llwyddiannus
-
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o systemau rheoli ansawdd a sicrhau ansawdd a ddefnyddir yn ddiwydiannol
-
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol mewn ysgrifennu academaidd, gan gynnwys dulliau ymchwil, a chonfensiynau academaidd
-
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o feddwl dylunio, proses ddylunio, arloesi a'u rolau wrth greu modelau busnes llwyddiannus
-
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o'r tair agwedd ar gynaliadwyedd (People Profit Planet), gan gynnwys modelau cynaliadwyedd a phecynnau cymorth sy'n gysylltiedig â dylunio
-
Cyflwyno a gwerthuso rheolaeth, ffocws a chyfeiriad tîm
-
Cyflwyno a gwerthuso cyfraniad personol a hunanarfarniad
-
Cyflwyno a myfyrio ar brofi prototeip tasg tîm
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
ASSIGNMENT 3 | 25.00 | ||
ASSIGNMENT 4 | 25.00 | ||
Team Task Viva Presentation 2 | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | 120 | |
Lecture | 20 | |
Group Project | 160 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- Apply convergent and divergent thinking in the processes of observation, investigation, speculative enquiry, visualisation and/or making for problem solving and generating well-informed critical viewpoints
- Generate ideas, concepts, proposals, solutions or arguments independently and/or collaboratively in response to set briefs and/or as self-initiated activity
- Relate the manipulation of materials to the process of identifying design needs, researching and generating ideas as prototypes, models or proposals to promote intellectual and practical learning.
- Develop the skills, knowledge, and processes of the subject within a meaningful and coherent context, not in isolation
- Apply specialised ICT hardware and software related to Product Design and Technology effectively, including desktop publishing, web based media, computer-aided design and computer-aided manufacturing systems (CAD/CAM).
- Be conversant with all practical elements of health and safety within the design and manufacture of products.
- Make informed choices regarding social, ethical and environmental issues which are related to the processes of design and manufacture
- Work effectively and in an organised manner within subject specific tasks
- Develop the skills, qualities and attributes required for working independently, as a participating member of a team and across organizations, through the close working relationships between students, lecturers, and industrialists.
- Appropriately implement the skills, knowledge, and understanding gained in both college and industrial situations
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W241: BSc Dylunio Cynnyrch year 2 (BSC/DC)