Modiwl XUC-3046:
XUC-3046 Dylunio a Gwneuthuriad 5
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Computer Science and Electronic Engineering
30.000 Credyd neu 15.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Mr Aled Williams
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl hwn yn ymwneud â gweithgynhyrchu a throsglwyddo'r cynnyrch prototeip a ddyluniwyd ym modiwl 3045. Mae'r ystod lawn o ddulliau gweithgynhyrchu gweithdai ar gael i fyfyrwyr adeiladu prototeip gweithio y gellir ei brofi ar gyfer eu dyluniad. Mae'r modiwl hefyd yn canolbwyntio ar greu fideo marchnata ar gyfer y cynnyrch, ynghyd â chreu poster i gyfathrebu arloesedd a defnydd y cynnyrch - bydd y poster, y cynnyrch a'r fideo yn cael eu harddangos yn ystod y sioe radd ar ddiwedd y flwyddyn. Hefyd, mae'n ofynnol i fyfyrwyr greu portffolio digidol o waith sy'n addas i'w gyflwyno mewn cyfweliad swydd yn y dyfodol - bydd hyn yn arddangos holl waith gorau'r myfyriwr dros y tair blynedd.
Cynnwys cwrs
- Gweithgynhyrchu cynnyrch - gan ddefnyddio gallu gweithgynhyrchu ystod lawn y gweithdy o bosibl
- Cynhyrchu fideo hyrwyddo - byrddau stori, ffilmio, golygu, rhoi pennawd, golygu sain a chyhoeddi
- Poster Sioe Radd - dylunio a chynhyrchu poster fformat mawr i hyrwyddo allbwn cynnyrch y myfyriwr
- Portffolio Digidol - portffolio 'cyfweliad am swydd yn barod'
Meini Prawf
trothwy
Gweler y deilliannau dysgu.
da
Dealltwriaeth gyffredinol dda o'r holl ddeilliannau dysgu a sut y maent yn cydblethu.
ardderchog
Dealltwriaeth dda iawn o'r holl ddeilliannau dysgu gyda'r gallu i adfyfyrio ar eu cydberthynas mewn ffordd ddadansoddol.
Canlyniad dysgu
-
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiol weithdrefnau gweithgynhyrchu cymhleth
-
Arddangos y wybodaeth a'r ddealltwriaeth wrth ddefnyddio deunyddiau perthnasol ar gyfer proses ddylunio a gweithgynhyrchu gymhleth
-
Arddangos y defnydd o TG i safon broffesiynol, gan gynnwys: CAD, CAM, dylunio graffig digidol, cynhyrchu cyfryngau digidol
-
Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o gyfryngau marchnata effeithiol a thechnegau hysbysebu digidol
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Gwireddu canlyniad y dyluniad | 50.00 | ||
Fideo Marchnata Cynnyrch | 20.00 | ||
Poster Sioe Radd | 10.00 | ||
Portffolio Digidol | 20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 20 | |
Workshop | 180 | |
Private study | 100 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- Relate the manipulation of materials to the process of identifying design needs, researching and generating ideas as prototypes, models or proposals to promote intellectual and practical learning.
- Develop the skills, knowledge, and processes of the subject within a meaningful and coherent context, not in isolation
- Apply specialised ICT hardware and software related to Product Design and Technology effectively, including desktop publishing, web based media, computer-aided design and computer-aided manufacturing systems (CAD/CAM).
- Be conversant with all practical elements of health and safety within the design and manufacture of products.
- Make informed choices regarding social, ethical and environmental issues which are related to the processes of design and manufacture
- Work effectively and in an organised manner within subject specific tasks
- Develop the skills, qualities and attributes required for working independently, as a participating member of a team and across organizations, through the close working relationships between students, lecturers, and industrialists.
- Appropriately implement the skills, knowledge, and understanding gained in both college and industrial situations
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W241: BSc Dylunio Cynnyrch year 3 (BSC/DC)
- X1WF: BSc Design and Technology year 3 (BSC/DTECH)
- W240: BSC Product Design year 3 (BSC/PD)
- W242: BSc Product Design with International Experience year 4 (BSC/PDIE)