
Modiwl PCC-1009:
Sgiliau Academaidd Dwyieith II
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Psychology
10 Credyd neu 5 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Mrs Emma Hughes-Parry
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl hwn yn ehangu ar sgiliau craidd myfyrwyr, sydd eu hangen i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg yn y gwyddorau dynol. Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau gwyddonol myfyrwyr a’u hannog i deimlo'n hyderus yn eu gallu i ledaenu syniadau a chyfathrebu'n effeithiol o fewn cyd-destun academaidd. Nod arall yw datblygu sgiliau cyfathrebu ar lafar y myfyrwyr trwy cwblhau cyflwyniadau academaidd ar lafar a chymryd rhan mewn sesiynau POPPS. Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gellir eu trosglwyddo i fodiwlau eraill, ac i'r gweithle
Cynnwys cwrs
Bydd myfyrwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau trosgwyddadwy ar y modiwl hwn. Bydd y cwrs yn cwmpasu pynciau fel y canlynol:
a) Sut i drefnu ac ysgrifennu traethodau ar lefel Prifysgol; b) Sut i adnabod a defnyddio ffynonellau gwyddonol, credadwy c) Sut i osgoi llên-ladrad ch) Ysgrifennu manwl, eglur d) Defnyddio adborth dd) Datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg e.e. cyflwyno gwaith gwyddonol ar lafar,
Bydd y modiwl yn cynnwys darlithoedd a seminarau. Bydd y darlithoedd yn cynnwys cyflwyniadau ymchwil a fydd yn ffocws aseiniadau. Bydd y seminarau yn gyfle i fyfyrwyr gweithio mewn grŵpiau bach ac ymarfer sgiliau ysgrifennu ac ymchwil ac ymarfer sgiliau ysgrifennu ac ymchwil. Bydd y sesiynau POPPS yn gyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu ar lafar
Meini Prawf
C- i C+
C+ to C Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad eithaf gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg o’r mwyafrif o’r prif adrannau, ond gydag ychydig o wendidau o ran eglurdeb a chynildeb. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n foddhaol.
Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Cyflwynir dadleuon, ond roedd ychydig o gamddealltwriaeth / anghywirdeb, a ni chyflwynwyd y dadleuon yn gydlynol. Defnyddiwyd tystiolaeth wyddonol ddibynadwy i gefnogi’r dadleuon ar adegau.
Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol boddhaol.
Cyflwyniad boddhaol o’r gwaith, sy’n dilyn rhai o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn foddhaol.
trothwy
D+ to D- Gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda rhai adrannau wedi eu disgrifio’n glir.
Ychydig o wallau strwythuro, ac ychydig iawn o wybodaeth berthnasol o’r maes a drafodwyd.
Tystiolaeth gyfyngedig iawn o astudio cefndirol, gyda chyflwyniad cyfyngedig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Cyflwynwyd ychydig iawn o ddadleuon cywir a rhesymegol, a defnyddiwyd ffynonellau gwan i’w cefnogi.
Ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos ychydig iawn o sgiliau meddwl critigol.
Cyflwyniad wan o’r gwaith, sy’n dilyn ychydig iawn o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyflwyno gwybodaeth wyddonol mewn ffordd aneglur.
ardderchog
A** to A- Gwybodaeth gynhwysfawr a dealltwriaeth fanwl o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad gwyddonol iawn o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o bob adran bwysig. Gwybodaeth berthnasol iawn o’r maes wedi ei strwythuro’n wych.
Astudio cefndirol amlwg iawn, gyda chyflwyniad clir o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy.
Dehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol rhagorol.
Cyflwyniad ardderchog o’r gwaith, sy’n dilyn canllawiau fformatio’r APA/Harvard yn wych, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn hollol glir.
da
B+ to B- Gwybodaeth gref a dealltwriaeth dda o’r meysydd pwnc a gyflwynwyd.
Disgrifiad gwyddonol o’r ymchwil a gyflwynwyd, gyda throsolwg cynnil a chlir o’r mwyafrif o’r adrannau pwysig. Gwybodaeth eithaf perthnasol o’r maes wedi ei strwythuro’n dda.
Astudio cefndirol yn amlwg ar adegau, gyda chyflwyniad o ychydig o ymchwil annibynnol o ffynonellau academaidd sy’n mynd y tu hwnt i’r darlithoedd a’r darlleniadau awgrymedig.
Dadleuon cywir wedi eu cyflwyno yn rhesymegol ar y cyfan, ac wedi eu cefnogi gan dystiolaeth wyddonol ddibynadwy yn aml.
Ychydig o ddehongliad gwreiddiol o broblemau, gan ddangos sgiliau meddwl critigol da.
Cyflwyniad da o’r gwaith, sy’n dilyn y mwyafrif o ganllawiau fformatio’r APA/Harvard, ac sy’n cyfathrebu cynnwys gwyddonol yn dda.
Canlyniad dysgu
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno gwybodaeth ar ffurf lafar am un neu fwy o'r prif feysydd gwyddorau dynol mewn modd rhesymegol a llawn gwybodaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu trafod ac adolygu rhai o'r materion tyngedfennol a dadleuol sydd ar hyn o bryd yn cael eu trafod ym maes gwyddorau dynol
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos sgiliau cymwys wrth ysgrifennu gwaith gwyddonol, gan ddefnyddio rheolau fformatio APA/Harvard, iaith ac arddull sy'n briodol ar gyfer ymdriniaeth wyddonol
-
- Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd trawsieithu o'r iaith gwreiddiol testun academaidd i'r iaith Gymraeg ac y gallu i wneud hyn
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
LLAFAR | Cwblhau cyflwyniad ar hap | Cwblhau cyflwyniad ar hap yn POPPS |
2 |
CYFLWYNIAD UNIGOL | Cyflwyniad ar lafar | Bydd myfyrwyr yn paratoi cyflwyniad ar lafar, wedi ei seilio ar bapur ymchwil |
30 |
LLAFAR | Small Roles Cwblhau rôl fach yn POPPS | Cwblhau rôl fach yn POPPS |
4 |
LLAFAR | Cwblhau cyflwyniad wedi ei baratoi | Cwblhau cyflwyniad wedi ei baratoi yn POPPS |
5 |
LLAFAR | Cwblhau Cyflwyniad ar lafar | Cwblhau cyflwyniad ar hap yn POPPS |
2 |
CYFRANOGIAD DOSBARTH | Participation Cymryd rhan yn POPPS | Marc ar gyfer cymryd rhan yn POPPS |
2 |
LLAFAR | Cwblhau cyflwyniad wedi ei baratoi | Cwblhau cyflwyniad wedi ei baratoi yn POPPS |
5 |
GWAITH CWRS | Poster Ymchwil | Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu poster ymchwil wedi ei seilio ar gyflwyniad ymchwil |
50 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | Mewn modiwl 10 credyd, disgwylir i chi weithio am 100 awr. Disgwylir i chi wario 55 awr yn astudio'r pynciau er mwyn cwblhau'r aseiniadau gwahanol a sicrhau eich dealltwriaeth. |
55 |
Workshop | Gweithdai grwpiau bach i ddatblygu sgiliau cyfathrebu gwyddonol a gweithio mewn grwpiau i ddatrys tasgau |
11 |
Tutorial | Bydd trefnydd y modiwl yn cynnal awr galw heibio bob wythnos yn ystod y tymor |
12 |
Lecture | Darlith sgiliau academaidd dwyieithog, a chyflwyniadau ymchwil |
11 |
Workshop | POPPS- Psychology Oral Presentation Practice Sessions- sesiynau ymarfer cyflwyno ar lafar |
11 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Understand the scientific underpinnings of psychology as a discipline.
- Apply multiple perspectives to psychological issues and integrate ideas and findings across the multiple perspectives in psychology.
- Communicate psychological concepts effectively in written form.
- Communicate psychological concepts effectively in oral form.
- Be computer literate for the purpose of processing and disseminating psychological data and information.
- Retrieve and organise information effectively.
- Handle primary source material critically.
- Engage in effective teamwork for the purpose of collaborating on psychological projects.
- Be sensitive and react appropriately to contextual and interpersonal psychological factors.
- Use effectively personal planning and project management skills.
- Work effectively under pressure (time pressure, limited resources, etc) as independent and pragmatic learners.
- Problem-solve by clarifying questions, considering alternative solutions, making critical judgements, and evaluating outcomes.
- Reason scientifically and demonstrate the relationship between theory and evidence.
- Employ evidence-based reasoning and examine practical, theoretical and ethical issues associated with the use of different methodologies, paradigms and methods of analysis in psychology.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Bydd y werslyfr ar gael yn y llyfrgell. Bydd unrhyw erthyglau ymchwil yn cael eu rhannu ar Blackboard, a ni fydd unrhyw gost printio i fyfyrwyr
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/pcc-1009.htmlRhestr ddarllen
Bydd rhestr ddarllen ar gael. Bydd gan y modiwl werslyfr craidd:
American Psychological Association. (1983). Publication manual. Washington, DC: American Psychological Association
Bydd y modiwl hefyd yn defnyddio erthyglau cyfnodolion, er enghraifft:
Ghirlanda, S., Jansson, L. & Enquist, M. Chickens prefer beautiful humans. Hum Nat 13, 383–389 (2002). https://doi-org.ezproxy.bangor.ac.uk/10.1007/s12110-002-1021-6
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- X320: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg year 1 (BA/APIS)
- MC98: BA Criminology/Psychology year 1 (BA/CRP)
- X319: BA Childhood and Youth Studies and Psychology year 1 (BA/CYP)
- CQ83: BA English Language & Psychology year 1 (BA/ELPSY)
- R181: BA French with Psychology (with International Experience) year 1 (BA/FPIE)
- R1C8: BA French with Psychology year 1 (BA/FPSY)
- R2C8: BA German with Psychology year 1 (BA/GPSY)
- Q1C8: BA Linguistics and Psychology year 1 (BA/LP)
- CL83: BA Sociology/Psychology year 1 (BA/PS)
- CL84: BA Social Policy/Psychology year 1 (BA/SPP)
- CL85: BA Social Policy & Psychology with International Experience year 1 (BA/SPPIE)
- C8N2: BSc Psychology with Business Management year 1 (BSC/PBM)
- C880: BSC Psych with Cl & Hlth Psych year 1 (BSC/PHS)
- C88B: BSc Psychology w Clin & Health Psy (4yr with Incorp Found) year 1 (BSC/PHS1)
- 8X44: BSc Psychology with Clinical & Health Psychology (Int Exp) year 1 (BSC/PHSIE)
- C88P: BSc Psychology with Clinical & Health Psy with Placement Yr year 1 (BSC/PHSP)
- C804: BSc Psychology (with International Experience) year 1 (BSC/PIE)
- C800: BSC Psychology year 1 (BSC/PS)
- C81B: BSc Psychology (4 year with Incorporated Foundation) year 1 (BSC/PS1)
- C80F: BSc Psychology year 1 (BSC/PSF)
- C80P: BSc Psychology with Placement Year year 1 (BSC/PSP)
- C813: BSc Psychology with Forensic Psychology year 1 (BSC/PSYFP)
- C81P: BSc Psychology with Forensic Psychology with Placement Year year 1 (BSC/PSYFPP)
- C801: BSC Psychol w Neuropsychol year 1 (BSC/PSYN)
- C83B: BSc Psychology with Neuropsychology (4yr with Incorp Found) year 1 (BSC/PSYN1)
- C809: BSc Psychology with Neuropsy (with International Experience) year 1 (BSC/PSYNIE)
- C84P: BSc Psychology with Neuropsychology with Placement Year year 1 (BSC/PSYNP)
- C82B: BSc Psychology with Business (4yr with Incorp Foundation) year 1 (BSC/PWB1)
- 2R88: BSc Psychology with Business with International Experience year 1 (BSC/PWBIE)
- M1C8: LLB Law with Psychology year 1 (LLB/LPSY)
- C808: MSci Psychology with Clinical & Health Psychology year 1 (MSCI/PHS)
- C810: MSci Psychology with International Experience year 1 (MSCI/PIE)
- C807: MSci Psychology year 1 (MSCI/PS)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- N5C8: BSc Marketing with Psychology year 1 (BSC/MP)
- C680: BSc Sport and Exercise Psychology year 1 (BSC/SEXP)