Gwybodaeth am Coronafirws (Covid-19)

Modiwl LCS-1001:
Sbaeneg Uwch 1

Ffeithiau’r Modiwl

Rhedir gan School of Languages, Literatures and Linguistics

20 Credyd neu 10 Credyd ECTS

Semester 1

Trefnydd: Prof Helena Miguelez-Carballeira

Amcanion cyffredinol

  1. Datblygu sgiliau cyfieithu a darllen a deall myfyrwyr drwy astudio testunau sy'n amrywio mewn arddull a chywair.
  2. Galluogi myfyrwyr i gynhyrchu darnau ysgrifennu cymwys mewn Sbaeneg.
  3. Datblygu sgiliau llafar a gwrando myfyrwyr trwy ymarferion sgwrsio a deunyddiau clyweledol dethol yn amrywio mewn cywair.
  4. Datblygu geirfa a chynnwys ymadroddion allweddol mewn gwaith llafar ac ysgrifenedig.
  5. Datblygu dealltwriaeth fwy cymhleth o strwythurau gramadegol allweddol, a gallu defnyddio cystrawennau gramadegol mewn mynegiant ysgrifenedig a llafar.
  6. Trafod ac amddiffyn dadleuon a syniadau mewn trafodaethau grŵp ac un-i-un.
  7. Deall agweddau allweddol sy'n sail i hunaniaeth gyfoes pobl Sbaeneg eu hiaith.

Bydd myfyrwyr ar y modiwl hwn yn gweithio tuag at ennill B1+B2 ar y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR).

Cynnwys cwrs

Mae'r modiwl hwn yn galluogi i fyfyrwyr sydd wedi gwneud Lefel A ddatblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar mewn Sbaeneg drwy ehangu ar y gallu ieithyddol a gafwyd yn ystod Lefel A. Mae'n cynnwys dosbarthiadau wedi'u seilio ar destun lle mae myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau cyfieithu ac ysgrifennu, yn ogystal â dosbarthiadau llafar/gwrando, lle defnyddir ystod o gymhorthion clywedol a gweledol i ysgogi trafodaethau grŵp. Trwy gydol y modiwl, mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i adolygu a datblygu meysydd allweddol o ramadeg. Daw'r testunau a'r deunyddiau a ddefnyddir yn y modiwl hwn o amrywiaeth o ffynonellau yn cynnwys y cyfryngau a darnau llenyddol er mwyn i fyfyrwyr ymgyfarwyddo ag amrywiol gyweiriau. Trwy'r deunyddiau hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn cael cipolwg ar themâu Sbaenaidd penodol a materion sy'n ymwneud â bywyd a chymdeithas gyfoes yn y gwledydd Sbaeneg eu hiaith. Cefnogir dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth trwy Bortffolio Hunan-astudiaeth gyd-gwricwlaidd.

Meini Prawf

trothwy

40-49%: Trothwy: Gafael gyfyngedig ar eirfa a gramadeg a gallu cyfyngedig i gyfieithu ac aralleirio amrywiaeth o destunau gosod. Gallu llafar a chlywedol sylfaenol.

da

50-69%: Da: Gafael gadarn ar eirfa a gramadeg a’r gallu i gyfieithu ac aralleirio’r amrywiaeth testunau gosod yn fedrus. Gallu llafar a chlywedol da.

ardderchog

70+%: Rhagorol: Gafael ragorol ar eirfa a gramadeg a gallu rhagorol i gyfieithu ac aralleirio amrywiaeth o destunau gosod. Gallu llafar a chlywedol rhagorol.

Canlyniad dysgu

  1. Defnyddio meysydd geirfa newydd mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.

  2. Deall a chyfieithu testunau ysgrifenedig yn amrywio o ran arddull a chywair.

  3. Cynhyrchu Sbaeneg cywir ac sy'n gywir yn idiomatig.

  4. Sgwrsio a gwrando ar Sbaeneg, ei deall, ac ymateb iddi mewn cyd-destun rhyngweithiol.

  5. Defnyddio strwythurau gramadegol allweddol mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.

  6. Dangos gallu i dynnu gwybodaeth a gyflwynir mewn ffynonellau Ffrangeg/Sbaeneg a'i defnyddio i ateb cwestiynau yn yr iaith darged.

  7. Archwilio a gwerthuso rhai o'r themâu a'r dadleuon allweddol sy'n cael lle blaenllaw mewn diwylliant gyfoes Sbaenaidd.

Dulliau asesu

Math Enw Disgrifiad Pwysau
Aseiniad ysgrifennu creadigol 25
Trafodaeth lafar wedi'i hasesu 25
Arholiad 2 awr 50

Strategaeth addysgu a dysgu

Oriau
Seminar

4 seminar (1 awr) pob wythnos am 11 wythnos. 1 awr ychwanegol (trwy gyfrwng y Gymraeg) pob wythnos.

55
Private study 145

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
  • Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
  • Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
  • Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
  • Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
  • Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
  • Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
  • Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
  • Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
  • Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
  • Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
  • Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
  • Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.

Sgiliau pwnc penodol

  • 1. The ability to use the target language creatively and precisely in short written assignments in the target language. (Benchmark statement 5.14)
  • 2. The ability to translate short passages into and out of the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • 3. Engaging with, interpreting and critically evaluating short and longer contemporary texts (short stories, films, novels) in the target language (Benchmark statement 5. 8, and 5.9)
  • 4. Effective oral communication and presentation skills (including delivery and argument development, discussion and defence) in the target language through individual and/or group discussions. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • 5. The ability to use the target language creatively and precisely in oral assignments, showing familiarity with a range of topics and registers in formal and informal situations. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • 6. Develop aural comprehension skills in the target language, supported by a wide range of appropriate materials in different media. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • 7. The ability to read, understand and summarise written texts in the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)

Adnoddau

Rhestr ddarllen

Casgliad gramadeg (a ddarperir gan y darlithydd)

Casgliad wedi'i seilio ar destunau (a ddarperir gan y darlithydd)

Casgliad sgyrsiau llafar (a ddarperir gan y darlithydd)

Adnoddau Dysgu Eraill: Disgwylir i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y modiwl hwn gwblhau Portffolio Hunan-astudiaeth cyd-gwricwlaidd yr Ysgol. Mae'r portffolio hwn yn annog myfyrwyr i ddarllen papurau newydd Sbaeneg a gwylio teledu Sbaeneg a ffilmiau Sbaeneg yn rheolaidd; dylent hefyd ddarllen un nofel Sbaeneg bob semester. Dylai myfyrwyr gwblhau un portffolio ar gyfer Sbaeneg bob semester.

Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn

Gorfodol mewn cyrsiau:

Opsiynol mewn cyrsiau: