
Modiwl CXD-1016:
Sgriptio Teledu
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Manon Williams
Amcanion cyffredinol
Yn y modiwl hwn dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript tuag 24 munud o hyd ar gyfer pennod o gyfres deledu. Bydd chwe cham i’r gweithgaredd hwn. Yn gyntaf, trafodir gofynion cyfres deledu fel cyfrwng dramatig; yn ail, gofynnir i’r myfyrwyr gyflwyno dadansoddiad manwl o natur y cymeriadau, yn drydydd, gofynnir iddynt lunio cast ar gyfer eu cyfres; yn bedwerydd gofynnir iddynt lunio braslun o blotiau’r gyfres ac yna grynodeb o gynnwys y bennod a ddeialogir; yn bumed, eir ymlaen i rannu’r bennod yn olygfeydd trwy lunio bwrdd storïo. Y cam olaf yw llunio’r ddeialog a cheir cyfarwyddyd manwl ar sut i wneud hynny. Dysgir hefyd sut i gyflwyno sgript orffenedig sy’n dilyn y confensiynau arferedig.
Cynnwys cwrs
Yn y modiwl hwn dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript tuag 24 munud o hyd ar gyfer pennod o gyfres deledu. Bydd chwe cam i’r gweithgaredd hwn. Yn gyntaf, trafodir gofynion cyfres deledu fel cyfrwng dramatig; yn ail, gofynnir i’r myfyrwyr gyflwyno dadansoddiad manwl o natur y cymeriadau, yn drydydd, gofynnir iddynt lunio cast ar gyfer eu cyfres; yn bedwerydd gofynnir iddynt lunio braslun o blotiau’r gyfres ac yna grynodeb o gynnwys y bennod a ddeialogir; yn bumed, eir ymlaen i rannu’r bennod yn olygfeydd trwy lunio bwrdd storïo. Y cam olaf yw llunio’r ddeialog a cheir cyfarwyddyd manwl ar sut i wneud hynny. Dysgir hefyd sut i gyflwyno sgript orffenedig sy’n dilyn y confensiynau arferedig.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+
Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema sy'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd â gallu i lunio plot. Dylai'r cymeriadau ddangos peth dyfnder seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig.
da
B- i B+
Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema gyffrous sy'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd â gallu i strwythuro plotiau cadarn. Dylai'r cymeriadau ddangos dyfnder seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol ond dylai hefyd ddangos peth ymwybyddiaeth o bwysigrwydd is-destun mewn rhai sefyllfaoedd dramatig. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig.
ardderchog
A- i A*
Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema wreiddiol a chyffrous a honno'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd â gallu anghyffredin i lunio plot cadarn a gafaelgar. Dylai'r cymeriadau ddangos gwir ddyfnder a chymhlethdod seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol a hefyd ddangos ymwybyddiaeth o bwysigrwydd is- destun mewn sefyllfaoedd dramatig. Dylai'r gwaith yn ei gyfanrwydd ddangos elfen o arbrofi o safbwynt adeiladedd y plot a natur y ddeialog. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig.
Canlyniad dysgu
-
Ymateb i adborth mewn modd cadarnhaol
-
Trafod yn fanwl nodweddion y ddrama gyfres.
-
Dewis thema a fyddai'n addas ar gyfer drama deledu.
-
Llunio plot cymen ei adeiladedd o safbwynt rhediad dramatig a chreu cymeriadau ac iddynt ddyfnder seicolegol.
-
Cyfansoddi deialog addas ar gyfer teledu.
-
Cyflwyno sgript orffenedig sy'n dilyn confensiynau arferedig cyfrwng dramatig arbennig.
-
Hunanwerthuso eu gwaith gan edrych yn feirniadol a gwrthrychol ar eu sgriptiau gorffenedig.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Sgript tua 24 munud o hyd ar gyfer cyfres deledu | 70.00 | ||
Traethawd 2000 o eiriau | 30.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Workshop | 2 awr darlith x 11 |
22 |
Individual Project | 178 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/cxd-1016.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 1 (BA/CTC)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 1 (BA/WCW)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 1 (BA/ABCH)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 1 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 1 (BA/CN)
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 2 (BA/CYM4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 1 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 1 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 1 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 1 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 1 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 1 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 1 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 1 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 1 (BA/SWW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 1 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 1 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 1 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 1 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 1 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 1 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 1 (BA/WS)