Modiwl WXC-3288:
Cyfansoddi (project)

Ffeithiau’r Modiwl

Rhedir gan School of Music and Media

30 Credyd neu 15 Credyd ECTS

Semester 1 a 2

Trefnydd: Dr Guto Puw

Amcanion cyffredinol

  1. Ystyried materion esthetig, athronyddol a cherddolegol sy'n berthnasol i gyfansoddi, ac edrych ar oblygiadau'r rhain trwy'r weithred o gyfansoddi
  2. Datblygu medrusrwydd mewn amrywiaeth o dechnegau cyfansoddiadol trwy'r weithred o gyfansoddi
  3. Annog arbrofi mentrus ac arloesi creadigol mewn gwaith cyfansoddi
  4. Rhoi cyfle i gyflawni gwaith cyfansoddi dros gyfnod hir gan arwain at waith (weithiau) o hyd a maint sylweddol
  5. Cyfrannu at ddatblygiad personol myfyrwyr fel cyfansoddwyr trwy ddatblygu eu creadigrwydd fel unigolion

Cynnwys cwrs

Mae’r project yn gyfle i fyfyrwyr dreulio cyfnod estynedig mewn gweithgaredd yn ymwneud â chyfansoddi, gan weithio tuag at greu gwaith, neu weithiau, ar raddfa a hyd sylweddol. Mae myfyrwyr yn cwblhau cyfansoddiad neu bortffolio o gyfansoddiadau ar gyfer unrhyw gyfuniad o offerynnau, lleisiau, adnoddau electroacwstig ac adnoddau stiwdio, dan gyfarwyddyd arolygwr. Bydd y cyfansoddwyr sydd ar y project yn cwrdd yn gyson fel grŵp i ystyried materion eang ac i rannu syniadau a dulliau. Dylai cyfansoddiadau ddangos dealltwriaeth drylwyr o’u genre, meistrolaeth ar y medrau technegol perthnasol, eglurder o ran bwriad creadigol, a pherthnasedd diwylliannol cyfoes o ran eu dull esthetig. Dylai myfyrwyr gyflwyno cyfansoddiadau ar ffurf sgôr wedi’i nodiannu, recordiad neu gyfuniad. Os yw’r gwaith yn cynnwys cerddoriaeth ar gyfer delwedd symudol, dylech hefyd gyflwyno DVD o gerddoriaeth wedi’i chydamseru â’r llun.

Fel rheol, dylai’r darn neu’r portffolio gymryd rhyw 18 munud, trwy gytundeb â’r arolygwr, ac yn ôl y tempo, cymhlethdod y gerddoriaeth a nodweddion yr adnoddau offerynnol/ lleisiol/ electroacwstig a ddefnyddir. Gall portffolios gynnwys cymysgedd o wahanol genres.

Nid yw’r modiwl hwn yn addas i fyfyrwyr sy’n dymuno cyfansoddi mewn arddulliau hanesyddol neu pastiche.

Meini Prawf

trothwy

Mae'r cyfansoddiad yn dangos peth dychymyg creadigol cyfyngedig, gyda rheolaeth gyfyngedig dros ddeunyddiau cerddorol, a ddealltwriaeth brin o'r hyn y gelli ei gyflawni gyda'r adnoddau (offerynnol a lleisiol). Fawr ddim tystiolaeth o ddull deallusol cyffredinol o ymdrin a'r gwaith.

da

Mae'r cyfansoddiad yn dangos lefel dda o ddychymyg creadigol gyda rheolaeth dda dros ddeunyddiau cerddorol, a hynny'n deillio o fedusrwydd technegol wrth ddefnyddio adnoddau (offerynnol a lleisiol).

ardderchog

Mae'r cyfansoddiad yn dangos lefel dda o ddychymyg creadigol, gyda llais cyfansoddiadol newydd ac unigryw yn dod i'r amlwg, rheolaeth fedrus dros ddeunyddiau cerddorol a meistrolaeth dechnegol dros adnoddau (offerynnol a lleisiol). Mae tystiolaeth hefyd a allu sylweddol o ran meddwl cysyniadol, dealltwriaeth drylwyr o'r materion dan sylw a gwreiddioldeb/craffter dull.

Canlyniad dysgu

  1. Dysgu sut i ddefnyddio asesiadau cytbwys yn ei (g)waith ei hun fel rhan o'r broses greadigol

  2. Datblygu gwreiddioldeb meddwl sylweddol a chyflawni cryn lawer o annibyniaeth greadigol.

  3. Cyrraedd lefel o fedrusrwydd mewn amrediad o dechnegau cyfansoddiadol perthnasol

  4. Ennill cryn lawer o hyder mewn gweithio gydag offer a deunyddiau cyfansoddi

  5. Dysgu sut i ysgrifennu cerddoriaeth sy'n: a) Llwyddo i gael cydbwysedd o undod ac amrywiaeth b) arddangos cynildeb priodol c) defnyddio amrywiaeth o ddulliau technegol priodol mewn ffordd greadigol effeithiol

Dulliau asesu

Math Enw Disgrifiad Pwysau
Composition 80
Written report 10
Presentation 10

Strategaeth addysgu a dysgu

Oriau
Seminar

6 seminar o 50 munud yr un, trwy gydol y flwyddyn.

6
Private study 288
Tutorial

Tiwtorialau unigol, hyd at gyfanswm o 6 awr trwy gydol y flwyddyn. Dynodir arolygwr i bob myfyriwr, a rhaid i’r myfyrwyr drefnu ymgyngoriadau fel y bo’n briodol. Ar gyfer canllawiau ynglŷn â hyd a sylwedd y cyfansoddiad, gweler Llawlyfr Cwrs Is-radd yr Ysgol Cerddoriaeth.

6

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
  • Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
  • Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
  • Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
  • Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
  • Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
  • Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
  • Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.

Sgiliau pwnc penodol

  • Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
  • Creative skills – conception, elaboration, adaptation, presentation, collaboration, preservation
  • Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
  • Technological skills – digital capture, digital expression, digital innovation
  • Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
  • Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
  • Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
  • Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)

Adnoddau

Rhestr ddarllen

Gellir benthyg sgorau a recordiadau CD o lyfrgell PB fel bo'r angen.

Rhagofynion a Chydofynion

Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn

Gorfodol mewn cyrsiau: