Modiwlau cwrs Q563 | BA/CYMPRO
BA Cymraeg Proffesiynol

Modiwlau Blwyddyn 1

Modiwlau Gorfodol

Semester 1

  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg (20) Craidd
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.

Semester 2

  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.

20 credyd allan o:

  • Myfyrwyr IAITH GYNTAF yn unig:
  • CXC-1002: Llen y Cyfnod Modern Cynnar (10) (Semester 2) Craidd
    Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad i gyffro llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern cynnar – cyfnod a nodweddid gan drawsnewidiadau gwleidyddol, technolegol a chrefyddol. Ystyrir y modd yr aeth beirdd ac awduron Cymraeg ati i wynebu her yr oes. Yn ogystal â thrafod nifer o ‘drobwyntiau’ llenyddol sy’n enghreifftio newydd-deb y cyfnod, ceir cyfle i ystyried parhad gwahanol agweddau traddodiadol. Bydd y cyfan yn fodd i asesu gwerth ac ystyr cysyniadau megis ‘trobwynt’, ‘gwrthbwynt’, ‘traddodiad’ a ‘gwreiddioldeb’.
  • CXC-1016: Llenyddiaeth Gyfoes (10) (Semester 1) Craidd
    Mae’r modiwl yn ystyried detholiad o wahanol genres gan dri awdur cyfoes, h.y. dwy nofel a chyfrol o gerddi. Ar ddechrau’r modiwl bydd cyfres o sesiynau hyfforddi ar faterion yn ymwneud â chynllunio traethodau academaidd, e.e. trefnu nodiadau, paratoi llyfryddiaeth ac osgoi llên-ladrata. Symudir wedyn at lyfrau gosod y modiwl: yn achos y tri thestun yn eu tro, cyflwynir cyfres o ddarlithoedd rhagarweiniol cyn rhannu’n ddiweddarach yn grwpiau seminarau a rydd gyfle ichi drafod y testunau ar lafar. Rhoddir deunyddiau sy’n berthnasol i’r modiwl o fewn yr amgylchedd dysgu rhithwir, Blackboard, a geir ar fewnrwyd PCB a bydd disgwyl i chwi lawrlwytho’r deunyddiau hyn drosoch eich hun. Ar Blackboard hefyd y bydd teitlau a llyfryddiaethau y tri thraethawd yn cael eu gosod. Dylech nodi’n ofalus y trefniadau ar gyfer y modiwl hwn a geir isod a chofio bod mynychu’r seminarau yn hanfodol bwysig gan y bydd 25% o’ch marc ar gyfer pob un traethawd yn seiliedig ar eich cyfraniad ynddynt.

60 credyd allan o:

  • Myfyrwyr AIL IAITH yn unig:
  • CXC-1005: Ysgrifennu Cymraeg (20) (Semester 1 + 2) Craidd
    Gofynnir i fyfyrwyr lunio darn byr o Gymraeg (rhyw 1½ ochr A4) yn wythnosol. Weithiau bydd y dasg a osodir yn ffeithiol ei gogwydd – cyfieithiad, crynodeb, erthygl ar gyfer papur newydd – dro arall bydd yn fwy creadigol – stori fer, portread, darn o ddialog. Caiff y darn hwn ei farcio’n fanwl a bydd y tiwtor yn trafod ansawdd yr ysgrifennu gyda’r myfyrwyr. Y mae cryn bwyslais yma felly ar yr elfen lafar. Yn ogystal â thrafod pynciau gramadegol byddir hefyd yn ymdrin â gofynion genres arbennig o ran arddull a chywair. Bwriedir y modiwl hwn ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith.
  • CXC-1006: Golwg ar Lenyddiaeth (10) (Semester 1) Craidd
    Bydd y modiwl hwn yn bwrw golwg ar rai o uchelfannau llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Ceir cyflwyniad byr i’r traddodiad barddol Cymraeg, ac astudir enghreifftiau o’r farddoniaeth Gymraeg gynharaf (Taliesin ac Aneirin) ynghyd â chywyddau gan Ddafydd ap Gwilym. Bydd cyfle hefyd i astudio’r gynghanedd, ac i ymgyfarwyddo â rhai o chwedlau’r Mabinogion.
  • CXC-1007: Cymraeg Llafar (20) (Semester 1 + 2) Craidd
    Mae’r modiwl hwn yn datblygu sgiliau mynegiant llafar (siarad a gwrando). Rhoddir sylw i wahanol gyweiriau’r iaith, o’r tafodieithol i’r ffurfiol. Bydd hyfedredd yn cael ei feithrin trwy drafod materion cyfoes, gyda chyflwyniadau gan y myfyrwyr ar amrywiol bynciau. Fe’i dysgir mewn grwpiau trafod bychain a defnyddir deunydd cyfredol o’r teledu, radio a byd ffilm i gyflwyno pynciau ac i sbarduno trafodaeth. Datblygir felly wahanol sgiliau, gan gynnwys dadansoddi arddull, trawsgrifio cywir a sylwi ar y berthynas rhwng y ‘tafodieithol’ a’r ‘safonol’. Yn ogystal â’r clyweledol, trafodir gweithiau ysgrifenedig mewn amryw ffurfiau – e.e., papurau newydd, cylchgronau, blogiau, llenyddiaeth dafodieithol. Llunnir union gynnwys y modiwl yn unol ag anghenion ymarferol y myfyrwyr.
  • CXC-1008: Llên a Llun (10) (Semester 2) Craidd
    Modiwl yw hwn ar gyfer myfyrwyr y mae’r Gymraeg yn ail iaith iddynt. Mewn cyfres o seminarau, trafodir yn fanwl bedwar testun llenyddol a llunyddol diweddar, e.e. nofel, cyfrol o storïau byrion, casgliad o gerddi, drama lwyfan neu deledu, ffilm. Y math o bethau y sylwir arnynt yw’r defnydd o iaith, prif nodweddion y genre dan drafodaeth, meistrolaeth yr awdur ar ei ffurf ddewisedig, y technegau a’r arddulliau a ddefnyddir, gweledigaeth yr awdur unigol. Disgwylir i’r myfyrwyr gyfrannu i’r drafodaeth ar y gweithiau a astudir er mwyn datblygu eu medrau llafar a chryfhau eu cyneddfau beirniadol.

Modiwlau Opsiynol

40 credyd allan o:

  • Myfyrwyr IAITH GYNTAF yn unig
  • CXC-1001: Beirniadaeth Lenyddol Ymarfer (10) (Semester 2)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Rhoddir y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol. Gwneir hyn drwy gyfres o astudiaethau manwl ar gerddi a darnau rhyddiaith unigol. (Darperir llyfryn gan yr Ysgol yn cynnwys y testunau hyn.) Gweithiau o’r ugeinfed ganrif yw’r mwyafrif o’r darnau a drafodir, ond byddir hefyd yn ymdrin yn feirniadol ag ambell awdl a chywydd o’r Oesoedd Canol, a cherddi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyrir swyddogaeth beirniadaeth lenyddol mewn gwahanol gyd-destunau – cystadlaethau eisteddfodol a chyfieithu llenyddol, er enghraifft. Er goleuo’r pwnc ymhellach, ymdrinnir â nifer o’r cerddi a’r darnau rhyddiaith Cymraeg ochr yn ochr â gweithiau Saesneg ac enghreifftiau o lenyddiaethau eraill (mewn cyfieithiad).
  • CXD-1013: Theatr Fodern Ewrop (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn astudir datblygiad y ddrama fodern yn Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Bydd rhan gyntaf y modiwl yn trafod y ddrama naturiolaidd, gan ganolbwyntio ar waith dramodwyr fel Ibsen a Strindberg. Bydd ail ran y modiwl yn trafod yr adwaith datblygiad y ddrama fodernaidd, gan ganolbwyntio ar ddramâu Mynegiadol, dramâu Brecht a Theatr yr Abswrd. Astudir detholiad o destunau sy’n cynrychioli’r gwahanol ddramodwyr a mudiadau.
  • CXD-1016: Sgriptio Teledu (20) (Semester 1)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.
  • CXC-1018: Gweithdy Creadigol (20) (Semester 2)
    Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhai sy’n dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl, ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol. Defnyddir tri dull dysgu, sef seminarau, gweithdai a thiwtorialau. Mewn seminarau, trafodir enghreifftiau llwyddiannus o wahanol genres ffuglennol a barddol, dulliau a chonfensiynau llenyddol. Tynnir sylw at amryw fathau o ysgrifennu creadigol a’u cynnig yn ganllawiau i’r rhai sy’n dilyn y modiwl, modelau y gallen nhw eu hefelychu wrth fynd ati i gyfansoddi eu hunain. Mewn gweithdai, gosodir ymarferion penodol i’r myfyrwyr weithio arnynt er mwyn hybu creadigrwydd a datblygu syniadau newydd. Mewn tiwtorialau a gynhelir yn gyson yn ystod y semester, rhoddir adborth i’r ymarferion dosbarth, trafodir syniadau’r myfyriwr unigol ar gyfer ei ffolio, a chynigir sylwadau ar unrhyw waith creadigol sydd ar y gweill.
  • CXC-1019: Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol (10) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.