Modiwlau cwrs QWM5 | BA/CTC
BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau

Modiwlau Blwyddyn 1

Modiwlau Gorfodol

Semester 1

  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg (20)
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.
  • CXD-1013: Theatr Fodern Ewrop (20)
    Yn y modiwl hwn astudir datblygiad y ddrama fodern yn Ewrop yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Bydd rhan gyntaf y modiwl yn trafod y ddrama naturiolaidd, gan ganolbwyntio ar waith dramodwyr fel Ibsen a Strindberg. Bydd ail ran y modiwl yn trafod yr adwaith datblygiad y ddrama fodernaidd, gan ganolbwyntio ar ddramâu Mynegiadol, dramâu Brecht a Theatr yr Abswrd. Astudir detholiad o destunau sy’n cynrychioli’r gwahanol ddramodwyr a mudiadau.
  • CXC-1016: Llenyddiaeth Gyfoes (10)
    Mae’r modiwl yn ystyried detholiad o wahanol genres gan dri awdur cyfoes, h.y. dwy nofel a chyfrol o gerddi. Ar ddechrau’r modiwl bydd cyfres o sesiynau hyfforddi ar faterion yn ymwneud â chynllunio traethodau academaidd, e.e. trefnu nodiadau, paratoi llyfryddiaeth ac osgoi llên-ladrata. Symudir wedyn at lyfrau gosod y modiwl: yn achos y tri thestun yn eu tro, cyflwynir cyfres o ddarlithoedd rhagarweiniol cyn rhannu’n ddiweddarach yn grwpiau seminarau a rydd gyfle ichi drafod y testunau ar lafar. Rhoddir deunyddiau sy’n berthnasol i’r modiwl o fewn yr amgylchedd dysgu rhithwir, Blackboard, a geir ar fewnrwyd PCB a bydd disgwyl i chwi lawrlwytho’r deunyddiau hyn drosoch eich hun. Ar Blackboard hefyd y bydd teitlau a llyfryddiaethau y tri thraethawd yn cael eu gosod. Dylech nodi’n ofalus y trefniadau ar gyfer y modiwl hwn a geir isod a chofio bod mynychu’r seminarau yn hanfodol bwysig gan y bydd 25% o’ch marc ar gyfer pob un traethawd yn seiliedig ar eich cyfraniad ynddynt.
  • CXD-1016: Sgriptio Teledu (20)
    Yn y modiwl hwn ceir cyflwyniad cryno i rai agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sydd wedi astudio’r cwrs Cymraeg Safon Uwch eisoes yn gyfarwydd â rhai o chwedlau’r Mabinogion. Y gobaith yn ystod y modiwl hwn yw rhoi darlun llawnach iddynt o’r ystod eang o destunau a luniwyd yn ystod y cyfnod canol, a hynny drwy ganolbwyntio ar ddetholion o weithiau chwedlonol ynghyd â gweithiau hanesyddol eu natur megis Brut y Brenhinedd.

Semester 2

  • CXC-1002: Llen y Cyfnod Modern Cynnar (10)
    Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad i gyffro llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern cynnar – cyfnod a nodweddid gan drawsnewidiadau gwleidyddol, technolegol a chrefyddol. Ystyrir y modd yr aeth beirdd ac awduron Cymraeg ati i wynebu her yr oes. Yn ogystal â thrafod nifer o ‘drobwyntiau’ llenyddol sy’n enghreifftio newydd-deb y cyfnod, ceir cyfle i ystyried parhad gwahanol agweddau traddodiadol. Bydd y cyfan yn fodd i asesu gwerth ac ystyr cysyniadau megis ‘trobwynt’, ‘gwrthbwynt’, ‘traddodiad’ a ‘gwreiddioldeb’.
  • CXC-1004: Defnyddio'r Gymraeg
    Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan.

Modiwlau Opsiynol

40 credyd allan o:

  • UXC-1038: Cyf. i Ymarfer y Cyfryngau (20) (Semester 1)
    Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i'r sgiliau a'r technegau sylfaenol fydd yn eu galluogi i archwilio egwyddorion cynhyrchu'r cyfryngau trwy waith creadigol. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau i gynhyrchu dau destun cyfryngau byr, gan ddefnyddio offer darlledu safonol. Caiff myfyrwyr hefyd eu dysgu i ddadansoddi eu gwaith eu hunain yng nghyd-destun theori, a chreu cysylltiad rhwng theori ac ymarfer cynhyrchu'r cyfryngau.
    neu
    UXS-1038: Intro' to Media Practice (20) (Semester 1)
    This course will introduce students to the basic skills and techniques which will enable them to explore the principles of media production through creative work. Students will work in groups to produce two short media texts, using broadcast standard equipment. Students will also be taught how to analyse their own work within the context of theory, and to establish a relationship between media production theory and practice.
  • UXC-1062: Iaith y Ffilm (20) (Semester 2)
    Mae'r cwrs hwn yn fodd o alluogi myfyrwyr i ddysgu hanfodion dadansoddi'r ddelwedd symydol. Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn dysgu terminoleg dechnegol a fydd yn eu cynorthwyo i ddadansoddi a dehongli y modd y mae ffilm yn cyfathrebu ystyr. Bydd darlithoedd unigol yn trafod pynciau megis Mise-en-Scene, Montage, Gwaith Camera, Sain, Goleuo ac Arddull Weledol. Bydd dangosiadau o ffilmiau perthnasol yn cael eu cynnal yn wythnosol, er mwyn cyflwyno engrheifftiau o'r pynciau dan sylw. Bydd y ffilmiau a ddangosir yn cynnwys: A Man Escaped (Bresson, 1956), The Innocents (Clayton, 1961), City of God (Meirelles, 2002), Atonement (Wright, 2007), Bourne Ultimatum (Greengrass, 2007). The Red Shoes (Powell & Pressburger, 1948), ac Moulin Rouge! (Luhrman, 2001)
    neu
    UXS-1062: Film Language (20) (Semester 2)
    This module provides students with a toolkit for the analysis of the moving image and aims to provide students with a technical vocabulary to enable them to analyse and to discuss how films communicate meaning. The individual elements of this toolkit are analysed in detail. Lectures cover topics such as: Mise-en-Scene, Editing, Camerawork, Sound, Lighting, and Style. Weekly screenings illustrate relevant aspects of film form. Films to be screened may include: A Man Escaped (Bresson, 1956), The Innocents (Clayton, 1961), City of God (Meirelles, 2002), Atonement (Wright, 2007), Bourne Ultimatum (Greengrass, 2007). The Red Shoes (Powell & Pressburger, 1948), and Moulin Rouge! (Luhrman, 2001)
  • UXB-1120: Dyfeisio Theatr (20) (Semester 2)
    What is performance? What are all the elements involved in a performance? The historical and cultural legacy of selected theatre traditions. How selected theatre traditions challenged and enhanced the notion of performance and the theatre.
    neu
    UXS-1120: Theatre Making (20) (Semester 2)
    What is performance? What are all the elements involved in a performance? The historical and cultural legacy of selected theatre traditions. How selected theatre traditions challenged and enhanced the notion of performance and the theatre.

Modiwlau Blwyddyn 2

Modiwlau Gorfodol

Semester 1

  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu (20)
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.
  • CXD-2024: Y Theatr Gymraeg Fodern (20)
    Mae hwn yn un o fodiwlau gorfodol Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfrynau, ond bydd ei gynnwys hefyd yn berthnasol i amryw raglenni gradd eraill a gynigir gan Ysgol y Gymraeg gan ei fod yn cwmpasu gwaith rhai o lenorion amlycaf yr iaith. Ei bwrpas yw rhoi cyflwyniad cryno i hanes y theatr Gymraeg hyd at y 1920au cyn mynd ati i ganolbwyntio ar ei hoes aur yn ystod gweddill yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Bydd prif bwyslais y modiwl ar waith detholiad o ddramodwyr sy wedi pennu a llywio cwrs y ddrama Gymraeg fodern. Trwy gyfrwng astudiaeth benodol o theatr Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams rhoir sylw i faterion fel y ddrama hanesyddol a chwedlonol, y ddrama fydryddol, a Theatr yr Abswrd yn ogystal â chysyniadau dylanwadol fel Naturiolaeth ar Ôl-foderniaeth. Ar hyd y modiwl, cyfeirir yn gyson at y cyd-destun cymharol a’r modd y dylanwadwyd ar y theatr Gymraeg fodern gan ddramodwyr eraill o Gymru a thu hwnt.

Semester 2

  • CXC-2008: Ymarfer Ysgrifennu
    Rhennir myfyrwyr yn grwpiau (fel arfer o 6-8). Bydd y grwpiau'n aros gydag un tiwtor yn y semester cyntaf ac yna'n symud at diwtor arall yn yr ail semester. Gosodir tasg i bob gr p bob wythnos. Gofynnir i bawb ysgrifennu un darn o ryw 400 gair ar amrywiaeth o bynciau (ysgrif, stori, trafodaeth, cyfieithu). Bydd hwn yn cael ei farcio'n fanwl. Bydd pob gr p yn cyfarfod y tiwtor ar awr benodedig bob wythnos. Yn ystod yr awr hon dychwelir gwaith pob aelod o'r gr p iddo, a thrafodir pob camgymeriad neu wendid yng ngwaith yr holl gr p yr wythnos honno. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.

Modiwlau Opsiynol

40 credyd allan o:

  • CXC-2002: Dafydd ap Gwilym (20) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
  • CXC-2026: Llên a Chymdeithas 1500 - 1740 (20) (Semester 1)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad manwl i hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng 1500 a 1740. Rhoddir sylw i gyd-destun cymdeithasol llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, gan drafod effaih datblygiadau ym myd crefydd, addysg a thechnoleg ar draddodiad llenyddol Cymru. Edrychir ar y berthynas rhwng trosglwyddiad llafar, llawysgrif a llyfr gan drafod effaith y gwahanol gyfryngau hyn ar hanes llên. Ystyrir y modd y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod gan roi sylw arbennig i'r dadleuon ynghylch (ffug) hanes y Cymru. Trwy drafod Dyneiddiaeth, Protestaniaeth, Methodistiaeth a Chlasuriaeth ceir archwilio'r berthynas rhwng diwylliant Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill. Canolbwyntir ar nifer o feirdd a llenorion unigol.
  • CXC-2033: Datblygiad yr Iaith (20) (Semester 2)
    Bydd tair rhan i'r cwrs: Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a'r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a'r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith. Rhan II Yn yr ail ran cynigir arolwg o'r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. memrwn, argraffwasg ac orgraff: datblygiad yr iaith lenyddol; 3. John Morris-Jones a Jônsi: cyweiriau'r Gymraeg yn y byd modern. Rhan III Yn y drydedd ran archwilir cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Tuduriaid: achubwyr iaith? 2. Y Gymraeg a'r Chwyldro Diwydiannol; 3. Yr 20g.: Canrif Colli ac Adfer Iaith.
  • CXC-2118: Gweithdy Barddoniaeth (20) (Semester 2)
    Fel Ysgrifennu Rhyddiaith (lefel 2 a 3) a Gweithdy Creadigol (lefel 1), dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig - cyfeirir yn gyson at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl a ddilyno’r modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw I’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema I’r modiwl hwn: deunyddiau: delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau: yr haicw a’r hen bennill; vers libre; y delyneg a’r villanelle; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys: cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi. Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a lefel 3; bydd y cynnwys yr un fath I’r ddwy lefel ond bydd natur y cwestiwn traethawd yn wahanol.
  • CXC-2202: Athroniaeth a Llenyddiaeth (20) (Semester 1)
    Mae’r modiwl yn dechrau drwy gyflwyno’r anghydfod sy’n codi rhwng Plato ac Aristoteles ynghylch a yw’n bosibl cynrychioli’r gwir (y mae’r ddadl hon yn ganolog i’r holl ystyriaethau diweddarach o berthynas Athroniaeth a llenyddiaeth). Trafodir y shifft hanesyddol o lafaredd i lythrennedd, a goblygiadau cysyniadol y newid hwnnw yn ‘nhechnoleg y gair’ (hynny yw, y cwestiwn a yw ysgrifennu yn caniatáu – neu yn gorfodi – newidiadau yn y meddwl ac ym mherthynas yr unigolyn a’r byd). Wedyn, ystyrir yn fanwl gyfres o gysyniadau canolog Athroniaeth Llenyddiaeth (e.e., natur ‘ffuglen’; y ‘gwir’ mewn llenyddiaeth; yr ymateb emosiynol i ffuglen; iaith drosiadol; llenyddiaeth a chelfyddyd). Yn ogystal â darllen gweithiau athronyddol a damcaniaethol, byddwn yn darllen a thrafod nifer ddethol o weithiau llenyddol. Gwnawn hyn er mwyn ymarfer sgiliau analytig wrth ddehongli a deall llenyddiaeth, a hefyd i ystyried yr hyn y gall llenyddiaeth ei hun – yn ei ffordd ei hun – ei gyfrannu i’r ddadl athronyddol. Wedi’r cyfan, meddai Aristoteles mai yn llenyddiaeth y ceir y gwirioneddau pwysicaf.
  • CXC-2203: Blas ar y Wyddeleg (20) (Semester 2)

40 credyd allan o:

  • UXC-2046: Y Ffilm ddogfen:Theori (20) (Semester 1)
    Bydd y cwrs hwn yn edrych ar ddatblygiad ffilmiau dogfen gan geisio gosod datblygiadau pwysig mewn cyd-destun damcaniaethol. Caiff hanes y ffilm ddogfen ei drafod yng nghyd-destun y cwestiynnau syniadaethol a ddilynodd o esblygiad gwahanol fathau o ffilmiau dogfen. Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn edrych ar amrediad o ffilmiau, o'r 1920au hyd heddiw, ond bydd mwyafrif y ffilmiau a fydd yn cael eu harchwilio yn rhai cyfoes. Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddadansoddi'r ffilmiau, gan gyfeirio at theori dogfen wedi ei ysgrifennu gan amrywiaeth o awduron, gan gynnwys: John Grierson, Dziga Vertov, Paul Rotha, Bill Nichols, Stella Bruzzi, John Corner, a Paul Wells, ymhlith eraill.
    neu
    UXS-2059: Understanding Documentary (20) (Semester 1)
    This course will look at the development of documentary film, attempting to place important developments within a theoretical context. The course will begin by looking at the way in which the early pioneers of documentary film emerged in the 1920s, and seek to understand the contributions of John Grierson, Robert Flaherty and Dziga Vertov, and the relationship between their work. This will be followed by an examination of the emergence of Direct Cinema and Cinema Verité during the 1960s, and the challenges faced by those attempting to work within observational documentary. The rejection of the purely observational mode of documentary, and the rise of the participatory film-maker will follow, leading on to an examination of reflexive documentaries, the role of dramatisation within documentary film, drama-documentary and docudrama. The final part of the course will look at the influence of new technology upon documentary film, analysing the influence of both computer generated imagery and animation upon documentary film. Specific attention will be paid to the work of film-makers such as Albert and David Maysles, DA Pennebaker, Nick Broomfield, Molly Dineen, Errol Morris, and Kevin MacDonald among others.
  • UXC-2052: Radio Theori ac Ymarfer (20) (Semester 1)
    Bydd y darlithoedd yn canolbwyntio yn gyntaf ar hanes radio fel cyfrwng penodol, gyda sylw arbennig i Gymru a’r Deyrnas Unedig, yn ogystal â phersbectif rhyngwladol ehangach. Nesaf, fe archwilir amryw o ddulliau cynhyrchu radio, ac yna gwahanol fathau o raglenni radio, gan ddadansoddi enghreifftiau penodol. Bydd agweddau damcaniaethol y modiwl yn cael eu crynhoi yn derfynol gydag arolwg cysyniadol eang o natur y cyfrwng a sut mae hyn yn newid yn yr oes ddigidol. Bydd y gweithdai ymarferol yn cyd-redeg â’r darlithoedd, gyda’r myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau cynhyrchu cyffredinol cyn iddynt gynllunio, ymchwilio a chreu cynyrchiadau unigol. Bydd yr astudiaeth o ddulliau cynhyrchu, mathau o raglenni a rhaglenni penodol yn y darlithoedd o gymorth i’r myfyrwyr gyda’r gwaith ymarferol.
    neu
    UXS-2052: Radio: Theory and Practice (20) (Semester 1)
    The lectures will initially focus on the history of radio as a specific medium, with a particular focus on Wales and the UK, as well as a broader international perspective. Different radio production methods will then be examined, and subsequently different programme genres, with specific examples being studied. The theoretical aspects of the module culminate in a broad conceptual review of the nature of the medium and how this is changing in the digital age. The practical workshops will run concurrently, with the students revising and developing generic production skills at the beginning of the course, before planning, researching and producing their own individual productions. These will be informed by the study of production methods, genres and programmes introduced in the lectures.
  • UXC-2057: Cynhyrchu'r Ffilm Ddogfen (20) (Semester 2)
    Yn ystod hanner cyntaf y modiwl, caiff myfyrwyr hyfforddiant ffurfiol ar theori rhaglenni dogfen ac ymarfer y cyfryngau. Bydd y rhan hwn o'r modiwl yn edrych ar sut mae safbwyntiau damcaniaethol yn dylanwadu ar waith ymarferwyr. Bydd hefyd yn rhoi hyfforddiant i fyfyrwyr ar dechnegau cynhyrchu uwch, gan adeiladu ar y technegau a ddysgwyd fel rhan o'r modiwl UXS 1038 Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau. Yn ogystal â hyn, bydd y sesiynau gweithdy a gynhelir yn ystod rhan gyntaf y cwrs yn caniatáu i fyfyrwyr wneud gwaith cyn-cynhyrchu ar eu projectau terfynol, gan ymgynghori â'r tiwtoriaid. Yn ystod ail hanner y semester, ni fydd disgwyl i fyfyrwyr fynd i sesiynau wythnosol wedi eu hamserlennu. Bydd myfyrwyr yn astudio'n annibynnol yn ystod y cyfnod hwn, gan ddefnyddio'r amser i ddatblygu a chynhyrchu eu project cynhyrchu terfynol. Bydd y tiwtoriaid yn rhoi cefnogaeth, trwy apwyntiad.
    neu
    UXS-2057: Documentary Filmmaking (20) (Semester 2)
    During the first half of the module students will be given formal instruction in both documentary theory and media practice. This part of the module will examine the ways in which theoretical viewpoints influence the work of practitioners. It will also give students instruction in advanced production techniques, building upon the techniques learnt as part of UXS 1038 Introduction to Media Practice. In addition, the workshop sessions held during the first part of the course will allow students to undertake pre-production work on their final projects, in consultation with the tutors. During the second half of the semester, students will not be expected to attend weekly timetabled sessions. Students will undertake independent study during this period, using the time to develop and produce their final production project. Tutors will provide support, by appointment.
  • UXB-2400: Ymarfer Theatr Cyfoes (20) (Semester 2)
    Introduce theoretical and practical research in Contemporary Theatre Practice Explore advance theatre making methods to create original creative work Practice Workshop delivery and how to evaluate practice
    neu
    UXS-2400: Contemporary Theatre Practice (20) (Semester 2)

Modiwlau Blwyddyn 3

Modiwlau Gorfodol

Semester 1

  • CXC-3009: Traethawd Estynedig (20)
    Bwriedir i’r modiwl hwn roi cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol, ond dan gyfarwyddyd personol. Mewn ymgynghoriad â’r tiwtor, dewisir pwnc priodol ym maes iaith a llenyddiaeth Gymraeg, neu astudiaethau cymharol. Bydd y myfyrwyr yn casglu defnyddiau ac yn dethol ohonynt yn briodol, ac yn cyflwyno traethawd 8,000 o eiriau o hyd. Byddant hefyd yn cyflwyno tasg ragarweiniol a fydd yn profi sgiliau technegol (er enghraifft, llunio llyfryddiaeth fanwl). Disgwylir i fyfyrwyr baratoi cyflwyniad llafar a fydd yn seiliedig ar gynnwys eu traethawd.
  • CXD-3024: Y Theatr Gymraeg Fodern (20)
    Mae hwn yn un o fodiwlau gorfodol Cymraeg ac Astudiaethau Theatr a’r Cyfrynau, ond bydd ei gynnwys hefyd yn berthnasol i amryw raglenni gradd eraill a gynigir gan Ysgol y Gymraeg gan ei fod yn cwmpasu gwaith rhai o lenorion amlycaf yr iaith. Ei bwrpas yw rhoi cyflwyniad cryno i hanes y theatr Gymraeg hyd at y 1920au cyn mynd ati i ganolbwyntio ar ei hoes aur yn ystod gweddill yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Bydd prif bwyslais y modiwl ar waith detholiad o ddramodwyr sy wedi pennu a llywio cwrs y ddrama Gymraeg fodern. Trwy gyfrwng astudiaeth benodol o theatr Saunders Lewis, John Gwilym Jones, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams rhoir sylw i faterion fel y ddrama hanesyddol a chwedlonol, y ddrama fydryddol, a Theatr yr Abswrd yn ogystal â chysyniadau dylanwadol fel Naturiolaeth ar Ôl-foderniaeth. Ar hyd y modiwl, cyfeirir yn gyson at y cyd-destun cymharol a’r modd y dylanwadwyd ar y theatr Gymraeg fodern gan ddramodwyr eraill o Gymru a thu hwnt.

Semester 2

  • CXC-3009: Traethawd Estynedig
    Bwriedir i’r modiwl hwn roi cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol, ond dan gyfarwyddyd personol. Mewn ymgynghoriad â’r tiwtor, dewisir pwnc priodol ym maes iaith a llenyddiaeth Gymraeg, neu astudiaethau cymharol. Bydd y myfyrwyr yn casglu defnyddiau ac yn dethol ohonynt yn briodol, ac yn cyflwyno traethawd 8,000 o eiriau o hyd. Byddant hefyd yn cyflwyno tasg ragarweiniol a fydd yn profi sgiliau technegol (er enghraifft, llunio llyfryddiaeth fanwl). Disgwylir i fyfyrwyr baratoi cyflwyniad llafar a fydd yn seiliedig ar gynnwys eu traethawd.

Modiwlau Opsiynol

40 credyd allan o:

  • CXC-3016: Medrau Cyfieithu (20) (Semester 2)
    Bydd y modiwl yn rhoi hyfforddiant i gyfieithu gwahanol fathau o destunau, yn bennaf o’r Saesneg i’r Gymraeg. Canolbwyntir ar gyfieithu darnau o ryddiaith ffeithiol: rhestrau o gyfarwyddiadau, erthyglau papur newydd, cofnodion cyfarfodydd ac ati. Rhoddir sylw arbennig i gyfieithu dogfennau swyddogol o bob math, gan roi sylw i ofynion proffesiynol y grefft.
  • CXC-3018: Gweithdy Barddoniaeth (20) (Semester 2)
    Fel Ysgrifennu Rhyddiaith (lefel 2 a 3) a Gweithdy Creadigol (lefel 1), dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig - cyfeirir yn gyson at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl a ddilyno’r modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw I’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema I’r modiwl hwn: deunyddiau: delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau: yr haicw a’r hen bennill; vers libre; y delyneg a’r villanelle; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys: cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi.
  • CXC-3026: Llên a Chymdeithas 1500 - 1740 (20) (Semester 1)
    Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng 1500 a 1740. Rhoddir sylw i gyd-destun cymdeithasol llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, gan drafod effaith datblygiadau ym myd crefydd, addysg a thechnoleg ar draddodiad llenyddol Cymru. Edrychir ar y berthynas rhwng trosglwyddiad llafar, y llawysgrif a’r llyfr gan drafod effaith y gwahanol gyfryngau hyn ar hanes llên. Ystyrir y modd y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod gan roi sylw arbennig i’r dadleuon ynghylch (ffug) hanes y Cymry. Trwy drafod mudiadau megis Dyneiddiaeth a Phrotestaniaeth ceir archwilio’r berthynas rhwng diwylliant Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill. Canolbwyntir ar nifer o feirdd a llenorion unigol, gan gynnwys Morgan Llwyd ac Ellis Wynne.
  • CXC-3033: Datblygiad yr Iaith (20) (Semester 2)
    Bydd tair rhan i'r cwrs: Rhan I Yn y rhan gyntaf edrychir ar hanes cynnar y Gymraeg gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Celtiaid a'r Ieithoedd Celtaidd; 2. Y Frythoneg a'r Gymraeg; 3. Ffynonellau cynharaf yr iaith. Rhan II Yn yr ail ran cynigir arolwg o'r berthynas rhwng cyweiriau llafar a llenyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Tafodieithoedd y Gymraeg; 2. memrwn, argraffwasg ac orgraff: datblygiad yr iaith lenyddol; 3. John Morris-Jones a Jônsi: cyweiriau'r Gymraeg yn y byd modern. Rhan III Yn y drydedd ran archwilir cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol yr iaith, gan roi sylw penodol i'r materion a ganlyn: 1. Y Tuduriaid: achubwyr iaith? 2. Y Gymraeg a'r Chwyldro Diwydiannol; 3. Yr 20g.: Canrif Colli ac Adfer Iaith. Bydd y modiwl hwn yn olrhain amryfal agweddau ar hanes y Gymraeg o’i chyfnodau cynharaf hyd at ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ystod ail hanner yr 20g. Cyflwynir y myfyrwyr i’r ymchwil diweddaraf sy’n ymwneud â datblygiad y Gymraeg yn y cyfnod ôl-Rufeinig a;i pherthynas â’r ieithoedd Celtaidd; trafodir hefyd y ffynonellau cynharaf sy’n tystio i fodolaeth yr iaith. Cynigir arolwg o’r berthynas rhwng tafodieithoedd y Gymraeg a’i chyweiriau ysgrifenedig, ac anelir hefyd at amlinellu’r grymoedd cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd a bennodd hynt y Gymraeg, yn enwedig o’r 16g hyd at y presennol.
  • CXC-3102: Dafydd ap Gwilym (20) (Semester 2)
    Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
  • CXC-3202: Athroniaeth a Llenyddiaeth (20) (Semester 1)
    Mae’r modiwl yn dechrau drwy gyflwyno’r anghydfod sy’n codi rhwng Plato ac Aristoteles ynghylch a yw’n bosibl cynrychioli’r gwir: y mae’r ddadl hon yn ganolog i’r holl ystyriaethau diweddarach o berthynas Athroniaeth a llenyddiaeth. Trafodir y shifft hanesyddol o lafaredd i lythrennedd, a goblygiadau cysyniadol y newid hwnnw yn ‘nhechnoleg y gair’ (hynny yw, y cwestiwn a yw ysgrifennu yn caniatáu – neu yn gorfodi – newidiadau yn y meddwl ac ym mherthynas yr unigolyn a’r byd). Wedyn, ystyrir yn fanwl gyfres o gysyniadau canolog Athroniaeth Llenyddiaeth: e.e., natur ‘ffuglen’; y ‘gwir’ mewn llenyddiaeth; yr ymateb emosiynol i ffuglen; iaith drosiadol; llenyddiaeth a chelfyddyd. Yn ogystal â darllen gweithiau athronyddol a damcaniaethol, byddwn yn darllen a thrafod nifer ddethol o weithiau llenyddol. Gwnawn hyn er mwyn ymarfer sgiliau analytig wrth ddehongli a deall llenyddiaeth, a hefyd i ystyried yr hyn y gall llenyddiaeth ei hun – yn ei ffordd ei hun – ei gyfrannu i’r ddadl athronyddol. Wedi’r cyfan, meddai Aristoteles mai yn llenyddiaeth y ceir y gwirioneddau pwysicaf.
  • CXC-3203: Blas ar y Wyddeleg (20) (Semester 2)

40 credyd allan o:

  • UXC-3074: Cynhyrchu'r ffilm fer (20) (Semester 2)
    Bydd rhan hyfforddedig y cwrs yn rhoi uwch gyfarwyddiadau i fyfyrwyr am bedair elfen o gynhyrchu ffilm fer  Recordio fideo  Recordio sain  Golygu fideo  Golygu sain a dybio Bydd y sesiynau dan oruchwyliaeth yn cael eu teilwra at anghenion unigol pob grŵp a byddant wedi eu rhestru ar ddechrau'r modiwl, mewn ymgynghoriad â goruchwyliwr unigol pob grŵp. Bydd goruchwylwyr yn rhoi adborth cyson i fyfyrwyr am eu gwaith, ac yn cydweithio gyda hwy i ddynodi meysydd sydd angen eu datblygu, yn rhoi canllawiau am sut y gall pob grŵp, a phob myfyriwr unigol, wella eu gwaith trwy gael arweiniad tiwtor a dysgu dan arweiniad myfyrwyr.
    neu
    UXS-3074: Short film production (20) (Semester 2)
    The taught element of this course will provide students with advanced instruction in four elements of short film production  Video recording  Sound recording  Video editing  Sound editing and dubbing Supervisory sessions will be tailored to each group's individual needs, and will be mapped out at the beginning of the module, in consultation with each group's individual supervisor. Supervisors will provide students with consistent feedback on their work, and will co-operate with them to identify areas where there is a need for development, providing guidance on how each group, and each individual student, can improve their work through both guided tutoring and student-led learning.
  • UXB-3400: Ymarfer Theatr Cyfoes (20) (Semester 2)
    Introduce theoretical and practical research in Contemporary Theatre Practice Explore advance theatre making methods to create original creative work Practice Workshop delivery and how to evaluate practice
    neu
    UXS-3400: Contemporary Theatre Practice (20) (Semester 2)