Modiwl SCS-3010:
Hawliau Ieithyddol

Ffeithiau’r Modiwl

Rhedir gan School of History, Philosophy and Social Sciences

20 Credyd neu 10 Credyd ECTS

Semester 2

Trefnydd: Dr Cynog Prys

Amcanion cyffredinol

  1. Cyflwynir y ddadl ynghylch hawliau ieithyddol a chynnig cyd-destun polisi hanesyddol, trylwyr i'r maes.
  2. Rhoddir cyfle i bwyso a mesur hawliau'r unigolyn a hawliau grwp yn drylwyr a'r damcaniaethau allweddol ynghlwm wrthynt.
  3. Gosodir y ddadl ynghylch hawliau ieithyddol o fewn fframwaith hawliau dinasyddion a hawliau lleiafrifol cyffredinol rhyngwladol
  4. Cynhelir astudiaeth benodol o hawliau ieithyddol yr iaith Gymraeg yng Nghymru
  5. Gosodir prif elfennau maes hawliau ieithyddol o fewn cyd destun Ewropeaidd ac Americanaidd ehangach a'u cymhwyso at y sefyllfa yng Nghymru.

Cynnwys cwrs

Ceir ymdriniaeth drylwyr o faes hawliau ieithyddol yn ystod y modiwl hon. Mae'n cynnwys ymdrin â'r ddadl ynghylch hawliau ieithyddol a gosod yr hawliau hyn o fewn fframwaith polisi hanesyddol y maes ac yn ogystal o fewn cyd-destun ehangach hawliau lleiafrifol. Mae'r modiwl yn pwyso a mesur hawliau'r unigolyn a hawliau grwp a'r damcaniaethau allweddol sydd ynghlwm wrthynt. Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys trafodaeth ynglyn â sicrhau hawliau ieithyddol mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yng Nghymru, ac yn ogystal, yn tynnu ar ddatblygiadau ar lefel Ewropeaidd yn y maes.

Meini Prawf

trothwy

Trothwy Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o theorïau a phersbectifau cymdeithasegol. Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o rôl sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes.

da

Da Dangos dealltwriaeth dda o theoriau a phersbectifau cymdeithasegol. Dangos dealltwriaeth dda o rôl sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes

ardderchog

Rhagorol Medru ymdrin yn feirniadol â theoriau a phersbectifau cymdeithasegol. Medru dadansoddi ac egluro rôl sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes

Canlyniad dysgu

  1. Dangos dealltwriaeth ddatblygedig ac egluro yn allweddol gwreiddiau hawliau ieithyddol.
  2. Defnyddio cysyniadau priodol i drafod a dadansoddi maes hawliau ieithyddol penodol o fewn fframwaith polisi hawliau dinasyddion a hawliau lleiafrifol cyffredinol
  3. Dangos dealltwriaeth uwch a blaengar ynglyn â datblygiad y ddadl ynghylch hawliau'r unigolyn a hawliau grwp a chymhwyso damcaniaethau nodedig ac allweddol at y ddadl hon.
  4. Dangos dealltwriaeth ddwys a datblygedig amlwg o gynnydd yn hawliau ieithyddol a statws yr iaith Gymraeg yng Nghymru.
  5. Cymharu a dadansoddi'n feirniadol prif elfennau hawliau ieithyddol allweddol o fewn cyd-destun Ewropeaidd ac Americanaidd ehangach â'r sefyllfa yng Nghymru.

Dulliau asesu

Math Enw Disgrifiad Pwysau
Aseiniad 2,500-3000 o eiriau 50
Arholiad 2 awr 50

Strategaeth addysgu a dysgu

Oriau
 
  1. Darlithoedd - 1 awr yr wythnos am 12 wythnos

  2. Seminarau - 1 awr yr wythnos am 10 wythnos

Bydd gwaith darllen yn cael ei osod ar gyfer pob seminar. Mae disgwyl i bawb ddarllen y deunydd a pharatoi yn drylwyr ar gyfer trafod y gwaith.

200

Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn

Opsiynol mewn cyrsiau: