Modiwl XCC-3060:
Cymraeg mewn Blwyddyn I
Cymraeg Mewn Blwyddyn: Cymraeg i Ymarferwyr Addysg yn y sector cynradd cyfrwng Saesneg (Rhan 1) 2024-25
XCC-3060
2024-25
School Of Educational Sciences
Module - Semester 1
40 credits
Module Organiser:
Eryl Jones
Overview
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r Gymraeg o’r newydd gan ganolbwyntio ar gyflwyno patrymau, geirfa a thermau sylfaenol a fydd yn galluogi’r ymarferwyr i’w defnyddio wrth gynllunio a chyflwyno gwersi thematig a thrawsgwricwlaidd ac wrth baratoi adnoddau addysgu. Gwneir hyn drwy ddatblygu sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu’r ymarferwyr.
Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i’r ymarferwyr gymhwyso’r wybodaeth er mwyn defnyddio’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn fwy hyderus mewn amrywiaeth o gyd-destunau proffesiynol perthnasol.
Bydd y modiwl yn cyflwyno dulliau a methodolegau addysgu’r iaith Gymraeg ac yn rhoi cyfle i’r ymarferwyr roi’r dulliau hyn ar waith drwy gyflwyno'r gwersi micro.
Defnyddir amrywiaeth o ddysgu ffurfiol, gweithdai ymarferol, ymwelwyr â’r dosbarth, ymweliadau allanol ynghyd ag astudiaeth annibynnol dan arweiniad er mwyn cyflwyno gofynion addysgu’r iaith Gymraeg o’r newydd i ymarferwyr addysg.
Bydd ymarferwyr yn cael cyfleoedd i ymarfer eu sgiliau ysgrifennu, gwrando a chyflwyno ar lafar. Defnyddir ystod o adnoddau iaith ac addysgol i hybu dealltwriaeth a chymhwyso sgiliau yr ymarferwyr.
Yn ogystal defnyddir astudiaethau achos, cyflwyniadau ac ymweliadau er mwyn datblygu dealltwriaeth o’r technegau sy’n nodweddu arfer da a’u cymhwyso.
Learning Outcomes
- Datblygu deunyddiau ac adnoddau addysgu gwahaniaethol ar gyfer cyfnodau allweddol y sector cynradd gan ddefnyddio patrymau addas a geirfa berthnasol.
- Deall rhai o brif reolau a phatrymau gramadegol y Gymraeg a’u cymhwyso ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Defnyddio methodolegau addysgu’r iaith Gymraeg yn eu gwersi thematig a thrawsgwricwlaidd ac wrth baratoi adnoddau er mwyn datblygu iaith disgyblion.
- Gwerthuso eu sesiynau addysgu a’u hadnoddau addysgu.
- Mynegi eu hunain ar lafar yn hyderus gan ddefnyddio patrymau addas wrth gyflwyno gwersi trawsgwricwlaidd a thematig ar gyfer y sector cynradd cyfrwng Saesneg.
- Mynegi eu hunain yn ysgrifenedig gan ddefnyddio patrymau addas a geirfa sy’n berthnasol i’w cyd-destun a’u sefyllfaoedd proffesiynol.
Assessment type
Summative
Weighting
0%
Assessment type
Summative
Weighting
10%
Assessment type
Summative
Weighting
25%
Assessment type
Summative
Weighting
25%
Assessment type
Summative
Weighting
4%
Assessment type
Summative
Weighting
12%
Assessment type
Summative
Weighting
12%
Assessment type
Summative
Weighting
6%
Assessment type
Summative
Weighting
6%