
Modiwl CXD-3118:
Y Sgrin Fach Gymraeg
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Manon Williams
Amcanion cyffredinol
Dylai myfyrwyr sy’n dilyn y modiwl hwn feddu ar y gallu i:
- gywain gwybodaeth berthnasol am ddatblygiad y ddrama deledu yng Nghymru;
- ddadansoddi’r technegau gweledol a ddefnyddir gan gyfarwyddwyr i ddehongli elfennau dramatig mewn sgript;
- ddadansoddi a chymharu dramâu teledu mewn modd deallus a dychmygus;
- weithio’n annibynnol ac mewn grwpiau a chyflwyno’r syniadau’n raenus ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Cynnwys cwrs
Yn y modiwl hwn astudir nodweddion y gyfres ddrama a’r ddrama gyfres fel cyfryngau dramatig ac olrheinir datblygiad y cyfryngau yng Nghymru rhwng diwedd y 1970au a’r cyfnod presennol. Canolbwyntir ar ddadansoddi themâu a chynnwys gan archwilio’r berthynas rhwng cymeriadau a’r modd y caiff Cymru (a’r gwahanol ardaloedd o fewn y wlad) a’i phobl eu portreadu ar y sgrin deledu Gymraeg. Astudir y technegau a ddefnyddir mewn cyfresi drama a dramâu cyfres i ddenu gwylwyr a chyfleu tensiwn. Canolbwyntir ar drawstoriad eang o weithiau (9 cyfres) o wahanol gyfnodau ac o wahanol ardaloedd gan gynnwys gweithiau gan ddramodwyr megis Meic Povey a Siwan Jones.
Yn gyfochrog ag astudio'r 9 cyfres uchod, bydd y modiwl hefyd yn canolbwyntio ar astudio un gyfres gyflawn, sef Pen Talar.
Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a 3. Bydd y cynnwys yr un fath ond bydd natur y tasgau’n wahanol.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+
Dylai'r traethawd a'r drafodaeth ddadansoddol ddangos cynefindra â'r prif ffynonellau gwybodaeth eraill ynghyd â'r gallu i gywain, dadansoddi a mynegi barn bersonol ar ddadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael ar gystrawen a theithi'r iaith Gymraeg.
da
B- i B+
Dylai'r traethawd a'r drafodaeth ddadansoddol ddangos gwybodaeth dda o'r ffynonellau cynradd ac eilradd safonol ynghyd â'r gallu i gywain a chrynhoi'n ddeallus wybodaeth berthnasol a dibynadwy o nifer sylweddol o ffynonellau eraill, boed y rheini'n rhai ysgrifenedig, electronig neu'n rhai llafar. Dylid hefyd ddangos parodrwydd i fynegi barn bersonol a gallu i ddadansoddi a beirniadu, mewn modd cytbwys a chlir, ddadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
ardderchog
A- i A*
Dylai'r traethawd a'r drafodaeth ddadansoddol ddangos gwybodaeth dda o'r ffynonellau cynradd ac eilradd safonol ynghyd â'r gallu i gywain a chrynhoi'n ddeallus wybodaeth berthnasol a dibynadwy o nifer sylweddol o ffynonellau eraill, boed y rheini'n rhai ysgrifenedig, electronig neu'n rhai llafar. Dylid hefyd ddangos parodrwydd i fynegi barn bersonol a gallu i ddadansoddi a beirniadu, mewn modd cytbwys a chlir, ddadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
y gallu i gymharu testunau o ran cynnwys, arddull, themâu a chymeriadau
-
creu dadansoddiad o themâu a’r berthynas rhwng cymeriadau
-
dangos gwybodaeth fanwl am ddatblygiad y gyfres ddrama a’r ddrama gyfres yng Nghymru
-
cymhwyso’r hyn a ddysgwyd at gyd-destunau newydd a phenodol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
TRAETHAWD | Traethawd | 60.00 | |
CYFLWYNIAD GRWP | Cyflwyniad llafar mewn parau | 40.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 3 awr am 11 wythnosau |
33 |
Private study | 167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/cxd-3118.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 3 (BA/CTC)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 3 (BA/ABCH)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 4 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 3 (BA/CN)
- Q562: BA Cymraeg year 3 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 4 (BA/CYM4)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 3 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 4 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 3 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 3 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 4 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 3 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 3 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 3 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 3 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 4 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 4 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 3 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 3 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 3 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 3 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 3 (BA/WS)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 3 (LLB/LW)