Modiwl UXC-2046:
Y Ffilm ddogfen:Theori

Ffeithiau’r Modiwl

Rhedir gan School of Music and Media

20 Credyd neu 10 Credyd ECTS

Semester 1

Trefnydd: Dr Dyfrig Jones

Amcanion cyffredinol

Bydd y modiwl hwn yn rhoi trosolwg cyffredinol i fyfyrwyr o esblygiad y ffilm ddogfen, o'i tharddiad yn y 1900au hyd heddiw. Byddwn yn astudio hanes ffilmiau dogfen yng nghyd-destun theori a bydd hyn yn galluogi'r myfyrwyr i ddeall sut mae ffilmiau dogfen wedi datblygu dros amser. Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar gwestiynnau theoretaidd, gan edrych yn fanwl ar waith nifer o awduron sydd wedi ysgrifennu am y ffilm ddogfen.

Cynnwys cwrs

Bydd y cwrs hwn yn edrych ar ddatblygiad ffilmiau dogfen gan geisio gosod datblygiadau pwysig mewn cyd-destun damcaniaethol. Caiff hanes y ffilm ddogfen ei drafod yng nghyd-destun y cwestiynnau syniadaethol a ddilynodd o esblygiad gwahanol fathau o ffilmiau dogfen. Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn edrych ar amrediad o ffilmiau, o'r 1920au hyd heddiw, ond bydd mwyafrif y ffilmiau a fydd yn cael eu harchwilio yn rhai cyfoes. Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddadansoddi'r ffilmiau, gan gyfeirio at theori dogfen wedi ei ysgrifennu gan amrywiaeth o awduron, gan gynnwys: John Grierson, Dziga Vertov, Paul Rotha, Bill Nichols, Stella Bruzzi, John Corner, a Paul Wells, ymhlith eraill.

Meini Prawf

trothwy

Trothwy (40%+)

Mae'r gwaith a gyflwynwyd yn foddhaol ac yn dangos lefel dderbyniol o allu fel a ganlyn:

  • Cywir ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac elfennau wedi eu hepgor.
  • Yn gwneud honiadau heb dystiolaeth na rhesymu cefnogol eglur.
  • Yn strwythuredig ond yn aneglur ac felly'n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a rhagdybiaethau.
  • Yn defnyddio ystod gymharol gyfyng o ddeunydd.

da

Da (50%+)

Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw ac o bryd i'w gilydd gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos:

  • Strwythur da a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol.
  • Mae'n defnyddio'n rhannol, o leiaf, ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.
  • Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.
  • Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.

Da iawn (60%+)

Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw a gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos:

  • Strwythur da iawn a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol.
  • Mae'n defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.
  • Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.
  • Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.

ardderchog

Rhagorol (70%+)

Mae'r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol ac yn rhagorol mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:

  • Mynegiant gwreiddiol a syniadau'r myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg.
  • Yn rhoi tystiolaeth eglur o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol.
  • Cyflwynir dadleuon yn eglur gan alluogi'r darllenydd i ystyried fesul cam er mwyn dod i gasgliadau.

Canlyniad dysgu

  1. Dynodi cerrig milltir pwysig yn natblygiad diweddar ffilmiau dogfen

  2. Gwerthuso ffurf a chynnwys ffilm ddogfen yn feirniadol

  3. Cymhwyso theori ffilm wrth werthuso testunau ffilm yn feirniadol

  4. Dynodi a disgrifio prif theorïau ffilm ddogfen

  5. Dynodi a dadansoddi gwaith nifer o wneuthurwyr ffilm dogfen yn feirniadol

Dulliau asesu

Math Enw Disgrifiad Pwysau
Llyfryddiaeth gyda nodiadau 50
Traethawd / traethawd Fideo 50

Strategaeth addysgu a dysgu

Oriau
Private study 178
Seminar

Seminar 1 awr yr wythnos

11
Lecture

Darlith cyfrwng Saesneg, awr yr wythnos

11

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
  • Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
  • Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
  • Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
  • Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
  • Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
  • Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
  • Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.

Rhagofynion a Chydofynion

Rhagofynnol ar gyfer:

Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn

Gorfodol mewn cyrsiau:

Opsiynol mewn cyrsiau: