Modiwl HTC-2156:
Rhyfel Cartref America
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Nia Jones
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl yma yn ffocysu ar Rhyfel Cartref America, un o ddigwyddiadau ffurfiannol yr Unol Daleithiau sydd dal a’i effaith i deimlo heddiw. Mae’r themau a drafodir yn cynnwys caethwasiaeth, cenedlaetholdeb, hanes filwrol, personoliaeth a dylanwad Lincoln, a dylanwad y rhyfel ar y Cymry Cymraeg. Bydd y cwrs felly yn trafod amryw o agweddau ar y Rhyfel Cartref, a cefnogi hwn gyda thrafodaeth o ffynonellau cynradd. Gan ddechrau yn yr 1850au a cynnig amilnelliad o wlad a gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau, bydd y cwrs yn symud ymlaen i drafod gwahaniaethau rhwng y Gogledd a’r De a’r rhesymau am ddechreuad y rhyfel. Ar ol trafod ystod eang o themau a hanes milwrol y rhyfel, daw’r cwrs i ben wrth amlinellu effeithiau’r rhyfel a’r Adluniad (Reconstruction). Bydd profiad pobol Duon, yn cynnwys caethwasiaeth a’u profiad nhw o’r rhyfel, yn thema ganolog trwy gydol y cwrs. Byddwn hefyd yn ystyried yn agos profiad y Cymry o’r rhyfel, yn adeiladu ar waith Jerry Hunter a Gethin Matthews a chymryd mantais o’r dewis eang o ffynonellau cynradd sydd ar gael yn y Gymraeg. Felly ynghyd a chynnig styriaeth ddwfn o un o ddigwyddiadau pwysicaf hanes America, bydd y cwrs hefyd yn annog ystyriaeth o’r hanes yma o safbwynt Cymraeg a Chymreig.
Cynnwys cwrs
Y Gogledd a’r De Gwleidyddiaeth yr 1850au Caethwasiaeth Achosion y Rhyfel a’r Argyfwng Arwahanu Ymladd y Rhyfel Abraham Lincoln Y Cymry a’r Rhyfel Y Rhyfel a’r Gorllewin Rhyddhau’r Caethweision Ennill y Rhyfel Adluniad a’i Fethiant
Meini Prawf
ardderchog
Rhagorol Bydd myfyrwyr rhagorol (A-, A, A+, A* [70au ac uwch]) yn dangos y cyrhaeddiad cadarn hwn ar draws yr holl feini prawf ynghyd â dyfnder gwybodaeth drawiadol iawn a/neu allu dadansoddol eithriadol graff. Yn yr arholiad bydd dadlau perthnasol a chlir ynghyd a defnydd trawiadol o dystiolaeth. Yn y traethawd, bydd angen tystiolaeth o gwreiddioldeb neu allu dadansoddol trawiadol ynghyd a sgiliau ymchwil cadarn.
trothwy
Trothwy Bydd myfyrwyr trothwy (40au is/D-) yn dangos ystod neu ddyfnder gwybodaeth addas ar gyfer rhannau o'r maes perthnasol o leiaf, ac yn gwneud ymgeisiadau rhannol lwyddiannus i saernio dadl sy'n ymgymryd a dadleuon hanesyddol. Bydd angen i’r arholiad ddangos gwybodaeth addas o’r pwnc. Bydd angen tystiolaeth o beth gallu dadansoddol neu sgiliau ymchwil yn y traethawd.
da
Da Bydd myfyrwyr da (C-, C, C+ [50au]) yn dangos lefel uwch o wybodaeth, a’r gallu i gyflwyno dadl gydlynol sy’n cael ei chynnal gan dystiolaeth addas am nifer o agweddau ar y testun. Bydd myfyrwyr da iawn (B-, B, B+ [60au]) yn dangos lefel gadarn o gyrhaeddiad yn yr holl feini prawf a restrwyd yn y paragraffau uchod. Am y ddau, yn yr arholiad bydd angen am dadl berthnasol a chlir, ac yn y traethawd, bydd angen tystiolaeth o sgiliau ymchwil cadarn.
Canlyniad dysgu
-
llunio dadleuon hanesyddol a’u hatgyfnerthu gyda thystiolaeth o dan amodau arholiad.
-
cyflwyno dadleuon hanesyddol eglur am agweddau ar hanes Rhyfel Cartref America mewn ffurf traethawd gradd, a chefnogi'r dadleuon gyda thystiolaeth berthnasol.
-
barnu dehongliadau hanesyddiaethol o'r pwnc, yn cynnwys barnau hanesyddiaethol presennol.
-
dangos gwybodaeth fanylach o agweddau penodol o hanes America yn y cyfnod
-
dangos gwybodaeth eang o hanes Rhyfel Cartref America, ei achosion a’i ganlyniadau
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture |
|
10 |
Seminar | Seminar wythnosol |
10 |
Private study | 180 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach