
Modiwl XAC-1070:
Llythrennedd am Oes
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Education and Human Development
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Fliss Kyffin
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl hwn yn ymwneud yn bennaf ag elfen addysg y BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ac mae hefyd yn ystyried agweddau cymdeithasol a seicolegol ar ddatblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd yn unol ag ethos cyfannol y cwrs. Nod y modiwl yw rhoi cyflwyniad defnyddiol i'r maes hynod ddiddorol hwn i'r rhai sydd eisiau gweithio gyda phlant. Mae'n cynnwys syniadau ymarferol yn ogystal â syniadau damcaniaethol gyda lleoliad byr lle anogir profiad ymarferol o weithgareddau iaith a llythrennedd gyda phlant. Bydd y rhai sy'n astudio'r modiwl hwn yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth hanfodol o sut y gellir cyfuno bywyd cartref, profiadau amrywiol ac eang a defnyddio llwyfannau digidol i ddatblygu sgiliau cyfathrebu creadigol a llythrennedd sy'n paratoi plant at ddysgu gydol oes.
Cynnwys cwrs
- Cyfraniad y teulu at ddatblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd o Cydnabod teuluoedd fel athrawon cyntaf y plentyn a'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. o Cefnogi datblygiad iaith a llythrennedd plant dwyieithog ac amlieithog o Defnyddio straeon, teganau a gemau i ddatblygu iaith a llythrennedd cynnar. o Ymchwilio i ymyriadau cynnar sy'n cefnogi plant ag ADY/oedi cyfathrebu
- Cyfraniad yr ysgol at ddatblygu cyfathrebu, iaith a llythrennedd o Lleoliad ysgol 6 awr yn arsylwi ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cyfathrebu, iaith a llythrennedd o Ymgorffori sgiliau cyfathrebu, iaith a llythrennedd ar draws y cwricwlwm o Defnyddio llenyddiaeth plant yn greadigol i ddatblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu o Defnyddio llwyfannau digidol i gefnogi a gwella dysgu llythrennedd plant o Trafod disgwyliadau cymdeithasol ac addysgol ym maes datblygiad iaith a llythrennedd sy'n gysylltiedig â rhyw a diwylliant
Meini Prawf
trothwy
Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o gyfraniad teuluoedd ac ysgolion at ddatblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant. Rhoi gwerthusiad digonol o'r cyfleoedd trawsgwricwlaidd i ddatblygu cyfathrebu, iaith a llythrennedd mewn lle o ddiddordeb sy'n addas i ymweliad gan deulu neu ysgol. Gwneud ymgais resymol i gyflwyno stori syml i blant gan ddefnyddio propiau ac adnoddau (yn cynnwys adnoddau digidol) sy'n briodol i oedran a chyfnod datblygol y gynulleidfa. Rhywfaint o wahaniaethu wrth nodi sut y gellid addasu cyflwyniad llafar o stori syml i blant â sgiliau iaith gwahanol fel plant dwyieithog/amlieithog neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
da
Rhai elfennau da yn y wybodaeth a dealltwriaeth o gyfraniad teuluoedd ac ysgolion at ddatblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant, gyda rhywfaint o feddwl yn feirniadol. Rhoi gwerthusiad trylwyr o'r cyfleoedd trawsgwricwlaidd i ddatblygu cyfathrebu, iaith a llythrennedd mewn lle o ddiddordeb sy'n addas i ymweliad gan deulu neu ysgol. Gwneud ymgais hyderus i gyflwyno stori syml i blant gan ddefnyddio propiau ac adnoddau (yn cynnwys adnoddau digidol) sy'n briodol i oedran a chyfnod datblygol y gynulleidfa. Defnyddio amrywiaeth o strategaethau i gefnogi gwahaniaethu wrth nodi sut y gellid addasu cyflwyniad llafar o stori syml i blant â sgiliau iaith gwahanol fel plant dwyieithog/amlieithog neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
ardderchog
Lefel ragorol o wybodaeth a dealltwriaeth o gyfraniad teuluoedd ac ysgolion at ddatblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant, gyda llawer o feddwl yn feirniadol. Rhoi gwerthusiad llawn o'r cyfleoedd trawsgwricwlaidd i ddatblygu cyfathrebu, iaith a llythrennedd mewn lle o ddiddordeb sy'n addas i ymweliad gan deulu neu ysgol. Gwneud ymgais hyderus a chywir i gyflwyno stori syml i blant gan ddefnyddio propiau ac adnoddau (yn cynnwys adnoddau digidol) sy'n briodol i oedran a chyfnod datblygol y gynulleidfa. Defnyddio amrywiaeth eang o strategaethau i gefnogi gwahaniaethu wrth nodi sut y gellid addasu cyflwyniad llafar o stori syml i blant â sgiliau iaith gwahanol fel plant dwyieithog/amlieithog neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Canlyniad dysgu
-
Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o gyfraniad teuluoedd ac ysgolion at ddatblygiad cyfathrebu, iaith a llythrennedd plant.
-
Gwerthuso sut y gellid addasu cyflwyniad llafar o stori syml i blant â sgiliau iaith gwahanol fel plant dwyieithog/amlieithog neu blant ag anghenion dysgu ychwanegol.
-
Cyflwyno stori syml i blant yn hyderus ac yn gywir gan ddefnyddio propiau ac adnoddau (yn cynnwys adnoddau digidol) sy'n briodol i oedran a chyfnod datblygol y gynulleidfa.
-
Rhoi gwerthusiad beirniadol o'r cyfleoedd trawsgwricwlaidd i ddatblygu cyfathrebu, iaith a llythrennedd mewn lle o ddiddordeb sy'n addas i ymweliad gan deulu neu ysgol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
ADDRODDIAD | Assignment 1 Report | Yn dilyn ymweliad â lle o ddiddordeb sy'n addas i ymweliad gan deulu neu ysgol, gwerthuswch yn feirniadol y cyfleoedd trawsgwricwlaidd i ddatblygu cyfathrebu, iaith a llythrennedd. Esboniwch gyfraniad posib teuluoedd ac ysgolion at y broses hon. |
50 |
CYFLWYNIAD UNIGOL | Assignment 2 Presentation | Dewiswch lyfr stori byr i blant bach a'i gyflwyno fel petaech yn darllen i blant 3-5 oed. Defnyddiwch adnoddau (gan gynnwys adnoddau digidol) i ddod â'r stori'n fyw i'r plant. Byddwch yn ffilmio eich cyflwyniad a'i uwch lwytho i Panopto. |
25 |
TRAETHAWD | Assignment 3 Essay | Nodwch y meini prawf oedd yn sail i sut gwnaethoch ddewis cyflwyno eich stori ac esboniwch sut byddech yn gwahaniaethu er mwyn gwneud y stori'n fwy addas i grŵp arall o blant, gan ddefnyddio llenyddiaeth i gefnogi eich syniadau. Gallwch naill ai ddewis wahaniaethu i blant dwyieithog/amlieithog, NEU i blant ag oedi cyfathrebu/ADY. |
25 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 20 | |
Private study | 180 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- X314: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid year 1 (BA/API)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 1 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 1 (BA/APIPC)
- X320: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg year 1 (BA/APIS)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 1 (BA/PIC)