Modiwl CXC-1002:
Llên y Cyfnod Modern Cynnar
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Aled Llion Jones
Amcanion cyffredinol
- astudio llenyddiaeth Gymraeg y Cyfnod Modern Cynnar
- ystyried y berthynas rhwng llenyddiaeth a’i chyd-destun(au) hanesyddol a chymdeithasol
- asesu gwahanol ffyrdd o drafod hanes llenyddol
- ystyried y berthynas rhwng llenyddiaeth Gymraeg a hunaniaeth Gymreig
- meithrin sgiliau sy’n galluogi’r myfyriwr i ddarllen a dadansoddi testunau llenyddol o wahanol gyfnodau hanesyddol.
Cynnwys cwrs
Ceir yn y modiwl hwn gyflwyniad i gyffro llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod modern cynnar – cyfnod a nodweddid gan drawsnewidiadau gwleidyddol, technolegol a chrefyddol. Ystyrir y modd yr aeth beirdd ac awduron Cymraeg ati i wynebu her yr oes. Yn ogystal â thrafod
nifer o ‘drobwyntiau’ llenyddol sy’n enghreifftio newydd-deb y cyfnod, ceir cyfle i
ystyried parhad gwahanol agweddau traddodiadol. Bydd y cyfan yn fodd i asesu gwerth ac ystyr cysyniadau megis ‘trobwynt’, ‘gwrthbwynt’, ‘traddodiad’ a ‘gwreiddioldeb’.
Meini Prawf
trothwy
(D-): Trothwy: 1. dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith 2. dangos gwybodaeth am rychwant o destunau Cymraeg o’r Cyfnod Modern Cynnar 3. dangos gallu i ddadansoddi testunau llenyddol 4. dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol 5. dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill 6. dangos gafael ar gystrawen a theithi’r Gymraeg
da
(B): Da 1. dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith 2. dangos gwybodaeth dda am rychwant o destunau Cymraeg o’r Cyfnod Modern Cynar 3. dangos gallu da i ddadansoddi testunau llenyddol 4. dangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol 5. dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill 6. dangos gafael dda ar gystrawen a theithi’r Gymraeg
ardderchog
(A): Rhagorol 1. dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith 2. dangos gwybodaeth sicr am rychwant o destunau Cymraeg Cyfnod Modern Cynnar a phrofi dealltwriaeth ohonynt 3. dangos gallu sicr i ddadansoddi testunau llenyddol 4. dangos gallu sicr i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol 5. dangos gallu sicr i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill 6. dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi’r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
gwybod sut i ymateb yn feirniadol i lenyddiaeth sy’n perthyn i wahanol gyfnodau hanesyddol
-
amgyffred nifer o agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg y Cyfnod Modern Cynnar
-
dadansoddi’r berthynas rhwng testun llenyddol a’i gyd-destun(au) hanesyddol a chymdeithasol
-
ystyried perthnasedd rhai cysyniadau megis ‘trobwynt’, ‘traddodiad’, a ‘canon’.
-
bwrw trawsolwg eang ar yr hyn a drafodir gan ddwyn i mewn ystyriaethau cymharol lle y bo’n briodol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Gwaith ysgrifenedig (e.e. traethawd neu arall) | 30.00 | ||
Traethawd terfynol | 50.00 | ||
Cyfraniad i drafodaethau (e.e. seminarau) | 20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 20 o ddarlithoedd yn cyflwyno: (a) cysyniadau creiddiol, (b) hanes llenyddol, (c) darlleniadau/dehongliadau testunol enghreifftiol. |
20 |
Private study | Astudio unigol, gan gynnwys paratoi ar gyfer darlithoedd, myfyrio ar gynnwys darlithoedd, paratoi ar gyfer seminarau, ymchwilio i ac ysgrifennu traethawd, ac adolygu ar gyfer arholiad. |
70 |
Seminar | 4 seminar sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr wneud eu gwaith darllen/dehongli testunol eu hunain, yn canolbwyntio ar ddetholiad o destunau creiddiol. |
4 |
Tutorial | Cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb â thiwtor yn ystod oriau swyddfa neu ar adeg arall a drefnir, i drafod agweddau ar waith y modiwl y mae ar y myfyriwr/wyr eisiau eu hystyried ymhellach. |
6 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Dim byd yn anorfod (darperir yr holl adnoddau drwy'r llyfrgell), ond bydd myfyrwyr yn aml yn dewis prynu copiau o'r llyfrau craidd ar gyfer eu llyfrgelloedd eu hunain.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/cxc-1002.htmlRhestr ddarllen
Gw. Rhestr ddarllen Talis.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 1 (BA/ABCH)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 1 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 1 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 1 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 1 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 1 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 1 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 1 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 1 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 1 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 1 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 1 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 1 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 1 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 1 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 1 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 1 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 1 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 1 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 1 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 1 (BA/WS)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- QW5H: Cymraeg Creadigol gyda Cherddoriaeth Boblogaidd year 1 (BA/CCYCB)
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 1 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 1 (LLB/LW)