Modiwl CXC-1004:
Defnyddio'r Gymraeg
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Prof Peredur Lynch
Amcanion cyffredinol
Sicrhau'r canlyniadau dysgu. Fel cefndir i’r astudiaeth o’r iaith lenyddol, trafodir gwahanol agweddau ar hanes yr iaith Gymraeg yn ystod rhan gyntaf y modiwl.
Cynnwys cwrs
Bwriedir y modiwl hwn fel rhagarweiniad i’r modd y mae gramadeg yn gweithio yn yr iaith fyw. Ceir trafodaeth ar gategorïau a ffurfiau safonol a cheisir gweld sut y defnyddir hwy mewn detholiad o destunau, mewn sawl cywair. Bydd y dosbarth yn cael ei rannu’n grwpiau, a fydd yn cwrdd bob yn ail â’r dosbarth llawn. Ceir amrywio felly rhwng trafodaeth mewn grwpiau bach a dysgu mwy ffurfiol yn y dosbarth cyfan. Bydd y cyflwyniad cefndirol i agweddau ar hanes y Gymraeg yn digwydd ar ffurf darlithoedd yn ystod wythnoasau 1-6.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+: Bydd y myfyriwr yn dangos dealltwriaeth o brif gategorïau gramadeg, ac yn dangos gallu i gywiro a phwyso a mesur darnau ysgrifenedig yn unol â'r ddealltwriaeth hon. Bydd yn gallu defnyddio ffurfiau'r iaith yn bur gywir mewn ymarferion ac mewn darnau estynedig. Bydd hefyd yn dangos ymwybyddiaeth o gyweiriau iaith.
da
B- i B+: Bydd y myfyriwr yn dangos dealltwriaeth dda o brif gategorïau gramadeg, ac yn dangos gallu da i gywiro a phwyso a mesur darnau ysgrifenedig yn unol â'r ddealltwriaeth hon. Bydd yn gallu defnyddio ffurfiau'r iaith yn gywir iawn at ei gilydd, mewn ymarferion ac mewn darnau estynedig. Bydd hefyd yn dangos ymwybyddiaeth dda o gyweiriau iaith.
ardderchog
A- i A*: Bydd y myfyriwr yn dangos dealltwriaeth dda o brif gategorïau gramadeg, ac yn dangos gallu da i gywiro a phwyso a mesur darnau ysgrifenedig yn unol â'r ddealltwriaeth hon. Bydd yn gallu defnyddio ffurfiau'r iaith yn gywir iawn at ei gilydd, mewn ymarferion ac mewn darnau estynedig. Bydd hefyd yn dangos ymwybyddiaeth soffistigedig o gyweiriau iaith.
Canlyniad dysgu
-
Deall ac adnabod rhannau ymadrodd a ffurfdroadau.
-
Trafod y defnydd a wneir o wahanol ffurfiau.
-
Cywiro ac egluro testunau gosodedig.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Prawf | 15.00 | ||
Arholiad 2 awr | 30.00 | ||
Ysgrifenedig | 15.00 | ||
Gwaith Cwrs | 40.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 1 (BA/ABCH)
- 3Q5Q: BA Cymraeg and English Literature year 1 (BA/CEL)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 1 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 1 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)
- R805: BA Modern Languages & Cymraeg year 1 (BA/MLCYM)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 1 (BA/PIC)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 1 (BA/WCW)
- QV51: BA Cymraeg/History year 1 (BA/WH)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 1 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 1 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 1 (BA/WS)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 1 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 1 (LLB/LW)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 2 (BA/CYM4)
- M100: LLB Law year 1 (LLB/L)
- M11B: LLB Law (4 year with Incorporated Foundation) year 1 (LLB/L1)
- M102: LLB Law (International Experience) year 1 (LLB/LI)
- M10P: LLB Law with Placement Year year 1 (LLB/LP)