Modiwl CXC-1006:
Golwg ar Lenyddiaeth 1
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Prof Gerwyn Wiliams
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl hwn yn bwrw golwg ar rai o uchelfannau llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Ceir cyflwyniad byr i’r traddodiad barddol Cymraeg, ac astudir enghreifftiau o’r farddoniaeth Gymraeg gynharaf (Taliesin ac Aneirin) ynghyd â chywyddau gan Ddafydd ap Gwilym. Bydd cyfle hefyd i astudio’r gynghanedd, ac i ymgyfarwyddo â rhai o chwedlau’r Mabinogion.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl hwn yn bwrw golwg ar rai o uchelfannau llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Ceir cyflwyniad byr i’r traddodiad barddol Cymraeg, ac astudir enghreifftiau o’r farddoniaeth Gymraeg gynharaf (Taliesin ac Aneirin) ynghyd â chywyddau gan Ddafydd ap Gwilym. Bydd cyfle hefyd i astudio’r gynghanedd, ac i ymgyfarwyddo â rhai o chwedlau’r Mabinogion.
Meini Prawf
da
B- i B+:
Dangos adnabyddiaeth dda o wreiddiau'r canu mawl Cymraeg.
Dangos adnabyddiaeth dda o rai o gerddi Cymraeg enwog yr Oesoedd Canol.
Dangos dealltwriaeth dda o hanfodion y gynghanedd.
Dangos adnabyddiaeth dda o rai o chwedlau Cymraeg yr Oesoedd Canol.
Dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill
Dangos gafael cynyddol ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
ardderchog
A- i A*:
Dangos adnabyddiaeth gadarn o wreiddiau'r canu mawl Cymraeg.
Dangos adnabyddiaeth gadarn o rai o gerddi Cymraeg enwog yr Oesoedd Canol.
Dangos dealltwriaeth gadarn o hanfodion y gynghanedd.
Dangos adnabyddiaeth gadarn o rai o chwedlau Cymraeg yr Oesoedd Canol.
Dangos gallu cadarn i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill.
Dangos gafael hyderus ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
trothwy
D- i D+:
Dangos adnabyddiaeth o wreiddiau'r canu mawl Cymraeg.
Dangos adnabyddiaeth o rai o gerddi Cymraeg enwog yr Oesoedd Canol.
Dangos dealltwriaeth o hanfodion y gynghanedd.
Dangos adnabyddiaeth o rai o chwedlau Cymraeg yr Oesoedd Canol.
Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill.
Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
Dangos ei fod yn gyfarwydd â rhai o chwedlau Cymraeg yr Oesoedd Canol.
-
Dangos adnabyddiaeth o rai o gerddi Cymraeg enwog yr Oesoedd Canol.
-
Deall hanfodion y gynghanedd.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd 800 - 1200 o eiriau | 35.00 | ||
Arholiad awr a hanner | 35.00 | ||
Cyfraniadau i drafodaethau seminar | 15.00 | ||
Profion geiriau wythnosol | 15.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 2 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 1 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 1 (BA/CYMPRO)