Modiwl CXC-1007:
Cymraeg Llafar
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Prof Jason Davies
Amcanion cyffredinol
- Datblygu sgiliau mynegiant llafar (siarad a gwrando) myfyrwyr ail iaith.
- Hoelio sylw ar y berthynas – y gwahaniaethau a’r tebygrwydd – rhwng yr iaith lafar a’r iaith ysgrifenedig, er mwyn dod i adnabod yn well safonau’r iaith lafar.
- Datblygu cywirdeb iaith mewn trafodaethau ar amryw o bynciau, er mwyn cynyddu hyder myfyrwyr yn seminarau’r cwrs gradd.
- Darparu cefnogaeth ymarferol i’r myfyrwyr wrth iddynt ddilyn cyrsiau ynghyd â myfyrwyr iaith gyntaf, drwy drafod agweddau o iaith, arddull a chyweiriau rhai o’r testunau a astudir ar y cyrsiau hynny.
- Datblygu geirfa a sgiliau cyfathrebu cyffredinol, er mwyn caniatáu i’r myfyrwyr gyfranogi’n ddwysach o’r diwylliant Cymraeg ehangach.
Cynnwys cwrs
Mae’r modiwl hwn yn datblygu sgiliau mynegiant llafar (siarad a gwrando). Rhoddir sylw i wahanol gyweiriau’r iaith, o’r tafodieithol i’r ffurfiol. Bydd hyfedredd yn cael ei feithrin trwy drafod materion cyfoes, gyda chyflwyniadau gan y myfyrwyr ar amrywiol bynciau. Fe’i dysgir mewn grwpiau trafod bychain a defnyddir deunydd cyfredol o’r teledu, radio a byd ffilm i gyflwyno pynciau ac i sbarduno trafodaeth. Datblygir felly wahanol sgiliau, gan gynnwys dadansoddi arddull, trawsgrifio cywir a sylwi ar y berthynas rhwng y ‘tafodieithol’ a’r ‘safonol’. Yn ogystal â’r clyweledol, trafodir gweithiau ysgrifenedig mewn amryw ffurfiau – e.e., papurau newydd, cylchgronau, blogiau, llenyddiaeth dafodieithol. Llunnir union gynnwys y modiwl yn unol ag anghenion ymarferol y myfyrwyr.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+
Trothwy Dangos gwybodaeth gyfyngedig o eirfa a gramadeg, a gallu cyfyngedig i ddefnyddio’r sgiliau a ddysgir yn y modiwl.
da
B- i B+
Da Dangos rhychwant geirfaol da, galluoedd gramadegol eang a’r gallu i fynegi eu hunain yn effeithiol a defnyddio’r holl sgiliau angenrheidiol.
ardderchog
A- i A*
Rhagorol Dangos sgiliau iaith sydd bron o safon iaith gyntaf, gan gyfathrebu’n hyderus ac yn fedrus ar draws rhychwant eang o bynciau; defnyddio’r sgiliau newydd mewn modd naturiol.
Canlyniad dysgu
-
Medru cyflwyno ac amddiffyn safbwynt soffistigedig ar lafar, gan arddangos cryn feistrolaeth ar arddull ac idiomau priodol.
-
Arddangos sgiliau clywedol uchel drwy fedru deall trafodaethau llafar mewn amryw o dafodieithoedd a chyweiriau.
-
Gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg mewn gwahanol gyweiriau iaith.
-
Gallu defnyddio geirfa estynedig yn Gymraeg mewn ffordd briodol a chywir mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Tasgau Wythnosol | 50.00 | ||
Arholiad llafar | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | Seminarau’r modiwl – 2 awr yr wythnos bob semester felly 2 x 22 = 44 awr |
44 |
Private study | 156 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 2 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 1 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 1 (BA/CYMPRO)