Modiwl CXC-1018:
Gweithdy Creadigol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Gerwyn Wiliams
Amcanion cyffredinol
Un o fodiwlau craidd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw hwn, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhai sy’n dilyn y cynllun gradd hwnnw. Yn wir, nid oes raid wrth brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol er mwyn dilyn y modiwl, ond yn hytrach ddiddordeb gwirioneddol yn y maes a pharodrwydd i roi cynnig ar wahanol fathau o ysgrifennu creadigol. Defnyddir tri dull dysgu, sef seminarau, gweithdai a thiwtorialau. Mewn seminarau, trafodir enghreifftiau llwyddiannus o wahanol genres ffuglennol a barddol, dulliau a chonfensiynau llenyddol. Tynnir sylw at amryw fathau o ysgrifennu creadigol a’u cynnig yn ganllawiau i’r rhai sy’n dilyn y modiwl, modelau y gallen nhw eu hefelychu wrth fynd ati i gyfansoddi eu hunain. Mewn gweithdai, gosodir ymarferion penodol i’r myfyrwyr weithio arnynt er mwyn hybu creadigrwydd a datblygu syniadau newydd. Mewn cyfres o diwtorialau a gynhelir yn ystod y semester, rhoddir adborth i’r ymarferion dosbarth, trafodir syniadau’r myfyriwr unigol ar gyfer ei ffolio, a chynigir sylwadau ar unrhyw waith creadigol sydd ar y gweill.
Gellir cofrestru i ddilyn y modiwl hwn wyneb yn wyneb a/neu ar-lein, e.e. drwy Microsoft Teams neu Blackboard Collaborate.
Cynnwys cwrs

Meini Prawf
trothwy
D- i D+
- Dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith
- Dangos gallu i adnabod gwahanol genres llenyddol a deall eu priod nodweddion
- Dangos gallu i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau llenyddol
- Dangos gallu i ysgrifennu'n greadigol
- Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
da
B- i B+
- Dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith
- Dangos gallu da i adnabod gwahanol genres llenyddol a deall eu priod nodweddion
- Dangos gallu da i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau llenyddol
- Dangos gallu da i ysgrifennu'n greadigol
- Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
ardderchog
A- i A*
- Dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith
- Dangos gallu sicr i adnabod gwahanol genres llenyddol a deall eu priod nodweddion
- Dangos gallu sicr i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau llenyddol
- Dangos gallu sicr i ysgrifennu'n greadigol
- Dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
Ymateb i rym mynegiannol iaith lenyddol.
-
Adnabod priod nodweddion amryw genres llenyddol, e.e. stori fer, ymson, hen bennill, haicw.
-
Harneisio'r nodwedion hynny at eu hysgrifennu creadigol eu hunain.
-
Gwybod sut i ddatblygu deunydd er mwyn gwireddu ei botensial llenyddol.
-
Cynllunio casgliad o waith creadigol gwreiddiol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Ymarferion Byr | 50.00 | ||
Portffolio | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | Seminarau dosbarth |
12 |
Practical classes and workshops | Gweithdai creadigol ymarferol a gynhelir yn y dosbarth |
10 |
Tutorial | Tiwtorialau unigol, e.e. 4 x 15 munud ar wahanol adegau yn ystod y modiwl. |
1 |
Private study | Astudio a chyfansoddi unigol |
177 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Rhestr ddarllen
Cyfeirir yn gyson at ddeunyddiau perthnasol yn ystod y modiwl a gwneir defnydd rheolaidd o safle dysgu Blackboard.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 1 (BA/WCW)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 1 (BA/ABCH)
- 3Q5Q: BA Cymraeg and English Literature year 1 (BA/CEL)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 1 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 1 (BA/CN)
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 2 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 1 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 1 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 1 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 1 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 1 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 1 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 1 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 1 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 1 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 1 (BA/SWW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 1 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 1 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 1 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 1 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 1 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 1 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 1 (BA/WS)