Modiwl CXC-1034:
Cymraeg Llafar Dwys 1
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
50.000 Credyd neu 25.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Ms Bethan Glyn
Amcanion cyffredinol
Mae Cymraeg Llafar Dwys 1 yn un o dri modiwl sy'n ymffurfio'n flwyddyn sylfaen Cymraeg (i Ddechreuwyr) a baratoir gan Ysgol y Gymraeg a'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno holl batrymau sylfaenol yr iaith lafar i’r myfyriwr, gan roi cyfle iddo/iddi eu hymarfer yn gyson mewn gweithgareddau ymarferol. Erbyn diwedd y modiwl, disgwylir y bydd y myfyriwr yn medru sgwrsio’n rhydd a hyderus am arferion a phrofiadau pob dydd.
Cynnwys cwrs
Mae Cymraeg Llafar Dwys 1 yn un o dri modiwl sy'n ymffurfio'n flwyddyn sylfaen Cymraeg (i Ddechreuwyr) a baratoir gan Ysgol y Gymraeg a'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Bydd y cwrs yn cyflwyno prif batrymau’r iaith lafar ac yn darparu cyfleoedd i’r myfyriwr eu rhoi ar waith trwy gyfrwng gweithgareddau cyfathrebol amrywiol. Bydd sylw cyson yn cael ei roi i ynganu cywir, trefn geiriau, treigladau, ac ati, a bydd pob un o brif amserau’r ferf –presennol, amherffaith, perffaith, gorffennol syml, dyfodol, amodol, gorchmynion – yn cael ei ymarfer. Rhoddir sylw priodol hefyd i ddatblygu sgiliau gwrando, darllen ac ysgrifennu sylfaenol.
Meini Prawf
da
Da: 60% Ynganu a goslefu’n gywir. Llwyddo i gyfathrebu ar lafar, gan ddefnyddio ystod o batrymau sylfaenol yn gywir ar y cyfan. Deall sgyrsiau a thestunau sylfaenol yn dda. Ysgrifennu’n gywir ar y cyfan, gan ddangos ymwybyddiaeth dda o deithi’r iaith.
trothwy
Trothwy: 40% Ynganu a goslefu lled-gywir Llwyddo i gyfathrebu ar lafar, gan ddefnyddio ystod cyfyng o batrymau sylfaenol ac heb fod gwallau’n ymyrryd yn ormodol. Deall rhediad sgyrsiau a thestunau sylfaenol. Ysgrifennu’n ddealladwy ar y cyfan, gan ddangos peth ymwybyddiaeth o deithi’r iaith.
ardderchog
Rhagorol: 90% Ynganu’n gywir gydag acen dda, a goslefu’n naturiol. Cyfathrebu’n hyderus ar lafar, gan ddefnyddio ystod o batrymau‘n gywir. Deall sgyrsiau a thestunau sylfaenol yn ddidrafferth. Ysgrifennu’n gywir iawn, gan ddangos ymwybyddiaeth gadarn o deithi’r iaith.
Canlyniad dysgu
-
Medru deall rhediad testunau llafar ac ysgrifenedig sy’n ymdrin ag arferion a phrofiadau pob dydd.
-
Deall teithi’r iaith Gymraeg lafar, o ran trefn geiriau, rhediadau berfau ac arddodiaid, treigladau, cymharu ansoddeiriau, cymalau, berfau gweithredol a goddefol, ac ati.
-
Medru ysgrifennu darnau ymarferol byrion mewn cywair anffurfiol (e.e. negeseuon e-bost, deialogau, portreadau)
-
Medru sgwrsio’n rhydd am arferion a phrofiadau pob dydd, gan ddefnyddio patrymau iaith cywir ac amrywio amserau’r ferf yn briodol.
-
Ynganu a goslefu’r Gymraeg yn briodol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Ysgrifenedig | 40.00 | ||
Llafar | 40.00 | ||
Gwrando | 20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 23 awr o ddosbarthiadau bob wythnos, lle bydd y pwyslais ar ddysgu ac ymarfer patrymau’r iaith lafar trwy gyfrwng gweithgareddau rhyngweithiol. Rhoddir sylw hefyd i feithrin sgiliau gwrando, yn ogystal â sgiliau darllen ac ysgrifennu sylfaenol. |
230 |
Private study | 270 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
(1) Gwerslyfr Cwrs Wlpan y Gogledd. (2) 5 cryno-ddisg Cwrs Wlpan y Gogledd
Rhagofynion a Chydofynion
Cydofynion
Cydofynnol ar gyfer:
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 1 (BA/CYMPR4)