Modiwl CXC-1035:
Cymraeg Llafar Dwys 2
Cymraeg Llafar Dwys 2 2024-25
CXC-1035
2024-25
Ysgol y Gymraeg
Modiwl - Semester 2
40 credits
Module Organiser:
Aled Llion Jones
Overview
Mae Cymraeg Llafar Dwys 2 yn un o'r tri modiwl sy'n ymffurfio'n flwyddyn sylfaen Cymraeg (i Ddechreuwyr) a baratoir ar y cyd gan Ysgol y Gymraeg a'r Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Bydd y cwrs yn cadarnhau ac ymestyn prif batrymau’r iaith lafar ac yn darparu cyfleoedd i’r myfyriwr eu rhoi ar waith trwy gyfrwng gweithgareddau cyfathrebol amrywiol. Bydd sylw cyson yn cael ei roi i ynganu cywir, trefn geiriau, treigladau, datblygu geirfa, ac ati, a bydd pob un o brif amserau’r ferf –presennol, amherffaith, perffaith, gorffennol syml, dyfodol, amodol, gorchmynion – yn cael ei ymarfer. Rhoddir sylw priodol hefyd i ddatblygu sgiliau gwrando, darllen ac ysgrifennu mewn cyd-destunau amrywiol.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy: 40%Ynganu a goslefu lled-gywir Llwyddo i gyfathrebu ar lafar, gan ddefnyddio ystod o batrymau sylfaenol ac heb fod gwallau’n ymyrryd yn ormodol.Deall rhediad ystod o sgyrsiau a thestunau.Ysgrifennu’n ddealladwy ar y cyfan, gan ddangos peth ymwybyddiaeth o deithi’r iaith.
-good -Da: 50%Ynganu a goslefu’n gywir.Llwyddo i gyfathrebu ar lafar, gan ddefnyddio ystod o batrymau yn gywir ar y cyfan.Deall ystod o sgyrsiau a thestunau yn dda.Ysgrifennu’n gywir ar y cyfan, gan ddangos ymwybyddiaeth dda o deithi’r iaith.
-excellent -Rhagorol: (80%)Ynganu’n gywir gydag acen dda, a goslefu’n naturiol. Cyfathrebu’n hyderus ar lafar, gan ddefnyddio ystod eang o batrymau‘n gywir.Deall ystod eang o sgyrsiau a thestunau sylfaenol yn ddidrafferth.Ysgrifennu’n gywir iawn, gan ddangos ymwybyddiaeth gadarn o deithi’r iaith.
Learning Outcomes
- Deall teithi’r iaith Gymraeg lafar, o ran trefn geiriau, rhediadau berfau ac arddodiaid, treigladau, cymharu ansoddeiriau, cymalau, berfau gweithredol agoddefol, ac ati.
- Medru deall cynnwys testunau llafar ac ysgrifenedig sy’n ymdrin ag ystod o bynciau, megis profiadau personol, gwasanaethau, digwyddiadauhanesyddol, materion cyfoes, ac ati.
- Medru sgwrsio’n estynedig am arferion a phrofiadau pob dydd a mynegi barn am ystod o bynciau, gan ddefnyddio patrymau iaith cywir ac amrywioamserau’r ferf yn briodol.
- Medru ysgrifennu darnau ymarferol mewn cywair anffurfiol neu led-ffurfiol (e.e. negeseuon e-bost, llythyrau, ffurflenni, portreadau).
- Ynganu a goslefu’r Gymraeg yn briodol.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Asesu parhaus a fydd yn monitro dealltwriaeth y myfyriwr o ddarnau llafar ac ysgrifenedig amrywiol a gyflwynir yn rheolaidd yn ystod y dosbarthiadau, ynghyd ag arholiad ar ddiwedd y modiwl, lle bydd disgwyl i'r myfyriwr ateb cwestiynau a fydd yn profi ei allu i ddehongli darnau gwrando a darllen penodol.
Weighting
20%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Asesu parhaus a fydd yn monitro cywirdeb iaithy myfyriwr mewn gweithgareddau cyfathrebol ,ynghyd ag arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd ymodiwl, a fydd yn cynnwys tasgau llenwibylchau, holi ac ateb a chyfieithu, er mwynasesu ymwybyddiaeth y myfyriwr o deithi’r iaith
Weighting
20%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniadau ysgrifenedig rheolaidd ynghyd agarholiad ysgrifenedig ar ddiwedd y modiwl llebydd disgwyl i’r myfyriwr roi atebion byr igwestiynau penodol a llunio darnau rhydd mwyestynedig mewn ymateb i sbardunau addas(e.e. ysgrifennu llythyr yn gwahodd siaradwr,llenwi holiadur yn mynegi barn am ansawddgwasanaeth).
Weighting
20%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Asesu parhaus a fydd yn monitro ynganiad agoslef y myfyriwr mewn gweithgareddaucyfathrebol, ynghyd â phrawf llafar ar ddiwedd ymodiwl, lle bydd disgwyl i’r myfyriwr ddarllentestun yn uchel a sgwrsio’n rhydd.
Weighting
20%
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Asesu parhaus a fydd yn monitro cywirdeb, llifac ystod cyfraniad y myfyriwr i weithgareddaucyfathrebol, ynghyd â phrawf llafar ar ddiwedd ymodiwl, lle bydd disgwyl i’r myfyriwr sgwrsio’nestynedig am faterion o ddiddordeb personoliddo a mynegi barn yn gryno am amrywiolbynciau trafod.
Weighting
20%