Modiwl CXC-2002:
Dafydd ap Gwilym
Dafydd ap Gwilym 2023-24
CXC-2002
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Jason Davies
Overview
Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym er mwyn i'r myfyriwr fedru deall a gwerthfawrogi nid yn unig werthoedd esthetaidd y llenyddiaeth ond hefyd ei lleoliad yn hanes diwylliannol Cymru ac Ewrop. Edrychir hefyd ar agweddau ar hanes cymdeithasol cyfnod Dafydd i gael cyfoethogi dealltwriaeth o gyd-destunau'r canu unigryw hwn.
Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
Assessment Strategy
Da (B) Dangos adnabyddiaeth dda o brif nodweddion barddoniaeth Dafydd ap Gwilym Dangos dealltwriaeth da o ddetholiad o destunau allan o olygiad Thomas Parry Dangos adnabyddiaeth dda o brif themâu ei gerddi Dangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
Rhagorol (A) Dangos adnabyddiaeth gadarn o brif nodweddion barddoniaeth Dafydd ap Gwilym Dangos dealltwriaeth cadarn o ddetholiad o destunau allan o olygiad Thomas Parry Dangos adnabyddiaeth gadarn o brif themâu ei gerddi Dangos gallu cadarn i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu cadarn i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael gadarn ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
Trothwy (D) Dangos adnabyddiaeth o brif nodweddion barddoniaeth Dafydd ap Gwilym Dangos dealltwriaeth o ddetholiad o destunau allan o olygiad Thomas Parry Dangos adnabyddiaeth o brif themâu ei ganu Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
Learning Outcomes
- Dangos adnabyddiaeth o brif nodweddion barddoniaeth Dafydd ap Gwilym.
- Darllen ei gerddi yn ngolygiad safonol y wefan www.dafyddapgwilym.net.
- Traethu'n olau am rai o brif themâu ei gerddi.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd
Weighting
50%
Due date
01/12/2023
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad diwedd blwyddyn.
Weighting
50%
Due date
19/01/2024