Modiwl CXC-2203:
Blas ar yr Wyddeleg
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Aled Llion Jones
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r iaith Wyddeleg modern, fel y’i siaredir a’i hysgrifennir heddiw, i rai heb wybodaeth flaenorol o’r iaith honno. Gwneir hyn drwy osod sylfeini ar gyfer dysgu pellach i'r sawl a fynno barhau â'u hastudiaethau.
Ar sgiliau ymarferol (medru darllen, siarad a deall yr iaith) y mae’r ffocws yn bennaf ond bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i fyfyrio ar berthynas yr Wyddeleg a'r Gymraeg.
Rhaid i fyfyrwyr nodi bod angen ymarfer cyson wrth ddysgu iaith, a bydd angen ymrwymiad wythnosol i ddysgu geirfa a strwythurau gramadegol. Bydd asesu parhaol yn caniatau i fyfyrwyr ennill credyd am wneud y gwaith hollbwysig hwn..
Cynnwys cwrs
- Medru ynganu'r Wyddeleg yn gywir, a darllen testunau syml
- Medru cynnal sgwrs syml yn y Wyddeleg
- Deall hanfodion nifer o bwyntiau gramadegol sylfaenol, e.e.:
cystrawen y ferf 'bod' Wyddeleg yn y presennol, gorffennol a
dyfodol,
Brawddegau cwmpasog (h.y. o'r fath 'byddaf yn gwneud hynny
yfory') yn yr amserau a nodir uchod.`
Hanfodion y berfau afreolaidd
y rhifolion
sylfeini system treigladau'r Wyddeleg
arddodiaid
y cyplad
ymwybyddiaeth gyffredinol o'r cyflyrau
Meini Prawf
trothwy
Trothwy
Er mwyn llwyddo yn y cwrs, bydd myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r gwaith a astudiwyd, gan ddangos peth dealltwriaeth o’r ffynonellau ysgrifenedig a llafar, a chan fynegi syniadau syml ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddant yn ymwybodol o rai o’r cysylltiadau rhwng y Gymraeg a’r Wyddeleg.
da
Bydd myfyrwyr sy’n ennill graddau uwch ar y modiwl hwn yn deall mwy na sylfaen yr hyn a astudiwyd, ond hefyd yn dechrau ymwneud â chymhlethdodau’r iaith (e.e. dealltwriaeth dda o’r treigladau, ac ymwybyddiaeth o ffurfiau lluosog a ffurfiau’r genidol, yn ogystal â ffurfiau cysefin geiriau). Byddant yn medru mynegi eu hunain yn ysgrifenedig ac ar lafar mewn sefyllfaoedd penodol, mewn dull sydd ar y cyfan yn gywir ac yn strwythuredig. Byddant yn dangos ymwybyddiaeth o ffoneteg ac ynganiad yr iaith. Byddant hefyd yn deall sylfaen y berthynas rhwng y Gymraeg a’r Wyddeleg (a’r ieithoedd Celtaidd eraill).
ardderchog
Bydd myfyrwyr ardderchog yn arddangos y galluoedd sicr hyn ar draws y meini prawf, yn ogystal â manylder yn eu gwybodaeth o’r meysydd gramadegol a astudiwyd. Mewn sefyllfaoedd penodol, byddant yn gallu mynegi eu hunain yn gywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio’r holl rychwant o strwythurau a geirfa a gyflwynwyd. Bydd ganddynt ddealltwriaeth o’r ffordd y mae strwythurau sylfaenol yr iaith Wyddeleg i’w cymharu ag eiddo’r Gymraeg (a’r ieithoedd Celtaidd eraill).
Canlyniad dysgu
-
Bydd myfyrwyr yn medru darllen a deall Gwyddeleg ysgrifenedig seml.
-
Bydd myfyrwyr yn medru ysgrifennu yn y Wyddeleg am bynciau syml, gan ddefnyddio strwythurau gramadegol sylfaenol.
-
Bydd myfyrwyr yn gallu sgwrsio yn Wyddeleg sylfaenol am bynciau syml, penodedig, gan ddeall iaith lafar seml ac ymateb iddi yn ddealladwy.
-
Bydd myfyrwyr yn deall nodweddion gramadegol sylfaenol yr iaith Wyddeleg.
-
Bydd myfyrwyr yn deall agweddau o ddiwylliant a hanes Iwerddon, yn enwedig y rhai a chanddynt gysylltiad amlwg â'r iaith.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Profion Wythnosol | 50.00 | ||
Arholiad | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Fe all myfyrwyr benderfynu prynu ambell lyfr oddi ar y rhestr ddarllen, ond dylai'r cyfan hefyd fod ar gael yn y llyfrgell.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/cxc-2203.htmlRhestr ddarllen
Gweler Talis ('Blas ar yr Wyddeleg').
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 2 (BA/ABCH)
- 3Q5Q: BA Cymraeg and English Literature year 2 (BA/CEL)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 2 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 2 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 2 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 2 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 3 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 2 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 2 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 2 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 2 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 2 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 2 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 2 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 2 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 2 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 2 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 2 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 2 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 2 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 2 (BA/WS)