Modiwl CXC-3203:
Blas ar yr Wyddeleg: Gwyddeleg Modern i ddechreuwyr
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Aled Llion Jones
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno’r iaith Wyddeleg modern, fel y’i siaredir a’i hysgrifennir heddiw, i rai heb wybodaeth flaenorol o’r iaith honno. Gwneir hyn drwy osod sylfeini ar gyfer dysgu pellach i'r sawl a fynno barhau â'u hastudiaethau.
Ar sgiliau ymarferol (medru darllen, siarad a deall yr iaith) y mae’r ffocws yn bennaf ond bydd myfyrwyr hefyd yn cael y cyfle i fyfyrio ar berthynas yr Wyddeleg a'r Gymraeg, gan gynnwys elfen o gymhariaeth ddiwylliannol.
Rhaid i fyfyrwyr nodi bod angen ymarfer cyson wrth ddysgu iaith, a bydd angen ymrwymiad wythnosol i ddysgu geirfa a strwythurau gramadegol. Bydd asesu parhaol yn caniatau i fyfyrwyr ennill credyd am wneud y gwaith hollbwysig hwn..
Cynnwys cwrs
- Medru ynganu'r Wyddeleg yn gywir, a darllen testunau syml
- Medru cynnal sgwrs syml yn y Wyddeleg
- Deall hanfodion nifer o bwyntiau gramadegol sylfaenol, e.e.:
cystrawen y ferf 'bod' Wyddeleg yn y presennol, gorffennol a
dyfodol,
Brawddegau cwmpasog (h.y. o'r fath 'byddaf yn gwneud hynny
yfory') yn yr amserau a nodir uchod.`
Hanfodion y berfau afreolaidd
y rhifolion
sylfeini system treigladau'r Wyddeleg
arddodiaid
y cyplad
ymwybyddiaeth gyffredinol o'r cyflyrau
- Dangos ymwybyddiaeth gymharol o hanes/diwylliant y Wyddeleg a'r Gymraeg
Meini Prawf
da
**-C>Bydd myfyrwyr sy’n ennill graddau uwch ar y modiwl hwn yn deall mwy na sylfaen yr hyn a astudiwyd, ond hefyd yn dechrau ymwneud â chymhlethdodau’r iaith (e.e. dealltwriaeth dda o’r treigladau, ac ymwybyddiaeth o ffurfiau lluosog a ffurfiau’r genidol, yn ogystal â ffurfiau cysefin geiriau). Byddant yn medru mynegi eu hunain yn ysgrifenedig ac ar lafar mewn sefyllfaoedd penodol, mewn dull sydd ar y cyfan yn gywir ac yn strwythuredig. Byddant yn dangos ymwybyddiaeth o ffoneteg ac ynganiad yr iaith. Byddant hefyd yn deall, ac ym medru esbonio, y berthynas rhwng y Gymraeg a’r Wyddeleg (a’r ieithoedd Celtaidd eraill)
ardderchog
*-A>Bydd myfyrwyr ardderchog yn arddangos y galluoedd sicr hyn ar draws y meini prawf, yn ogystal â manylder yn eu gwybodaeth o’r meysydd gramadegol a astudiwyd. Mewn sefyllfaoedd penodol, byddant yn gallu mynegi eu hunain yn gywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio’r holl rychwant o strwythurau a geirfa a gyflwynwyd. Bydd ganddynt ddealltwriaeth ddatblygedig o’r ffordd y mae strwythurau sylfaenol yr iaith Wyddeleg i’w cymharu ag eiddo’r Gymraeg (a’r ieithoedd Celtaidd eraill).
trothwy
-D> Er mwyn llwyddo yn y cwrs, bydd myfyrwyr yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r gwaith a astudiwyd, gan ddangos peth dealltwriaeth o’r ffynonellau ysgrifenedig a llafar, a chan fynegi syniadau syml ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddant yn dangos ymwybyddiaeth o’r berthynas rhwng iaith a diwylliant y Gymraeg a’r Wyddeleg.
Canlyniad dysgu
-
Bydd myfyrwyr yn deall ac yn gallu trafod yn olau agweddau ar ddiwylliant a hanes Iwerddon, yn enwedig rhai a chanddynt gysylltiad amlwg â’r iaith.
-
Bydd myfyrwyr yn medru darllen a deall Gwyddeleg ysgrifenedig seml.
-
Bydd myfyrwyr yn medru ysgrifennu yn y Wyddeleg am bynciau syml, gan ddefnyddio strwythurau gramadegol sylfaenol.
-
Bydd myfyrwyr yn gallu deall a thrafod yn olau nodweddion gramadegol sylfaenol yr iaith Wyddeleg.
-
Bydd myfyrwyr yn gallu sgwrsio mewn Gwyddeleg sylfaenol am bynciau syml, penodedig, gan ddeall iaith lafar seml ac ymateb iddi yn ddealladwy.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
PRAWF GRAMADEG | Asesiadau Parhaol | Profion wythnosol/pythefnosol i roi credyd am y gaith parhaol o ddysgu geirfa a gramadeg. |
30.00 |
GWAITH CWRS | Ymarferion ysgrifenedig | Ymarferion ysgrifenedig: i'w cwblhau yn y dosbarth a/neu fel gwaith cartref. |
15.00 |
ARHOLIAD | Arholiad terfynol | Arholiad terfynol, dwy awr o hyd. |
35.00 |
CYFRANOGIAD DOSBARTH | Cyfraniad i weithgareddau'r dosbarth | Credyd am gymryd rhan yn amryw weithgareddau'r dosbarth, yn enwedig ymarferion llafar. |
20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Practical classes and workshops | Seminarau’r modiwl: 33 awr. Fel rheol, ceir 1x2 ac 1x1 awr yn wythnosol. Bydd y rhain fel arfer yn gyfarfodydd ymarferol / ar batrwm labordy iaith, er mwyn ymarfer yr iaith lafar, trafod patrymau gramadegol ac ymwneud â thestunau. Trafodir hefyd o bryd i'w gilydd agweddau hanesyddol a diwylliannol. |
33 |
Private study | Rhagwelir y bydd angen i fyfyrwyr dreulio rhyw awr yn paratoi ar gyfer pob awr gyswllt (yn enwedig er mwyn dysgu geirfa a phwyntiau gramadegol). Bydd hefyd angen adolygu cyson, yn ogystal â gwaith cwrs a gwaith paratoi ar gyfer yr arholiad. Nid yw nifer yr oriau astudio preifat yn anarferol yn achos y modiwl 20 credyd hwn, ond dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol bod y modd y dosberthir yr oriau hynny ar hyd y seminar efallai'n wahanol i ofynion rhai modiwlau eraill. |
167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
Cyfeirir at Feincnodau pwnc Ieithoedd Modern.
Cyfathrebu: llafar Bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddeall Gwyddeleg llafar seml ac i ymateb yn hyderus mewn sgyrsiau ar ystod o bynciau sylfaenol.
Cyfathrebu llafar effeithiol, a sgiliau cyflwyno yn yr iaith darged, drwy gyfrwng ymson a/neu sgyrsiau mewn grŵp. (Meincnod 5.3, 5.4)
Datblygu sgiliau yn ymwneud â deall yr iaith lafar, a hynny’n cael ei ategu gan ystod o ddeunyddiau priodol mewn amryw gyfryngau. (Meincnod 5.3, 5.4)
Cyfathrebu: ysgrifenedig Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i ddarllen a deall testunau syml yn yr iaith Wyddeleg, a byddant hefyd yn medru cyfathrebu eu syniadau eu hunain drwy ysgrifennu Gwyddeleg seml.
Y gallu i ddefnyddio’r iaith darged yn greadigol ac yn fanwl mewn aseiniadau ysgrifenedig byrion yn yr iaith darged. (Meincnod 5.14)
Y gallu i gyfieithu darnau byrion o’r iaith darged ac iddi. (Meincnod 5.3, 5.4)
Rhyngbersonol a rhyngddiwylliannol Bydd y modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr fedru deall sefyllfa’r Wyddeleg yn Iwerddon heddiw, yn ogystal ag adfyfyrio ar berthynas yr Wyddeleg â’r Gymraeg; bydd yn datblygu sgiliau o gydweithio, cyfathrebu a chyflwyno.
Astudio’r wlad neu’r rhanbarthau lle y defnyddir yr iaith darged, gan gynnwys agweddau ar eu llenyddiaethau, diwylliannau, cyd-destunau diwylliannol, hanes, gweleidyddol, daearyddiaeth a strwythurau diwylliannol neu economaidd. (Meincnod 5.10)
Dysgu sut i ddysgu / hunan-ddatblygu Mae strwythur y modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr ymwneud ag amrywiaeth o ffynonellau Gwyddeleg (er bod y ffocws, yn naturiol ar lefel ddechreuol fel hyn, ar y cwrs lyfrau). Byddant yn treulio tipyn o amser yn astudio ar eu pennau eu hunain (dysgu geirfa a strwythurau; gwneud ymarferion gyda thestunau) gan ymarfer sgiliau trosglwyddadwy. Byddant hefyd yn ymchwilio i agweddau diwylliannol/hanesyddol.
Pwnc-benodol (e.e. sgiliau ymarferol)
Bydd y modiwl yn galluogi i’r myfyrwyr ddechrau dod yn ymwybodol o’r iaith Wyddeleg. Byddant yn meithrin geirfa a gwybodaeth o strwythurau gramadegol, gan ddechrau deall ac ymateb i’r iaith Wyddeleg, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Y gallu i gael gwybodaeth o ffynonellau ysgrifenedig a llafar yn yr iaith darged, ac i grynhoi’r wybodaeth honno. (Meincnod 5.3, 5.4, 5.14)
Ymwybyddiaeth o ramadeg a chystrawen yr iaith darged (gan gynnwys y gallu i ddadansoddi’r rhain), yn ogystal â morffoleg a ffonoleg sylfaenol. (Meincnod 5.8, 5.9)
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Fe all myfyrwyr benderfynu prynu ambell lyfr oddi ar y rhestr ddarllen, ond dylai'r cyfan hefyd fod ar gael yn y llyfrgell.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/cxc-3203.htmlRhestr ddarllen
Gweler Talis ('Blas ar yr Wyddeleg').
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 3 (BA/ABCH)
- QW5H: Cymraeg Creadigol gyda Cherddoriaeth Boblogaidd year 3 (BA/CCYCB)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 4 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 3 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 3 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 3 (BA/CYM)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 3 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 4 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 3 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 3 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 4 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 3 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 3 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 3 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 3 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 4 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 4 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 3 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 3 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 3 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 3 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 3 (BA/WS)