Modiwl CXC-4012:
Astudiaeth Unigol: 1
Astudiaeth Unigol: 1 2023-24
CXC-4012
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
40 credits
Module Organiser:
Gerwyn Wiliams
Overview
Mae 'Astudiaeth Unigol: 1' yn un o fodiwlau craidd MA: Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg. Bydd union gynnwys a chyfeiriad y modiwl yn dibynnu ar raglen unigol y myfyriwr. Bydd y tri modiwl `Astudiaeth Unigol' sy'n 40 credyd yr un yn ymffurfio rhyngddynt yn rhaglen gydlynus a chydgysylltiol a fydd yn paratoi'r myfyriwr ar gyfer y traethawd hir 60 credyd dilynol. Rhoddir sylw i hyfforddiant ymchwil o fewn y modiwlau unigol. At hynny, mewn cyfres o seminarau pwnc-benodol, trafodir amryw faterion sy'n berthnasol i'r broses o ymchwilio ar gyfer gwaith ôl-radd, e.e. cywair priodol ar gyfer traethodau academaidd, llên-ladrad, cywain ffynonellau, trefnu nodiadau, sefydlu llyfryddiaethau. Trwy gyfrwng ymweliadau â llyfrgelloedd ac archifdy PCB, tynnir sylw at yr ystod o gronfeydd gwybodaeth sydd ar gael a'u defnyddioldeb i'r ymchwilydd unigol. Yn ogystal â sylw i'r agweddau ymarferol a thechnegol hyn ar weithgaredd ymchwil, bydd cyfle mewn seminarau i gyfranogi o amgylchedd ymchwil Ysgol y Gymraeg ac elwa ar y cyfle i drafod rhaglenni unigol yng nghwmni myfyrwyr ôl-radd ac ymchwil eraill.
Learning Outcomes
- Gallu cwblhau traethawd academaidd yn unol â'r confensiynau academaidd addas.
- Gallu cywain deunyddiau perthnasol ar gyfer maes llenyddol neu/ac ieithyddol penodol
- Gallu pwyso a mesur deunyddiau o wahanol ffynonellau'n feirniadol
- Gallu trin a thrafod deunyddiau perthnasol mewn modd academaidd priodol
Assessment type
Summative
Weighting
100%