Modiwl LCE-3101:
Trin a Thrafod Cyfieithu
Trin a Thrafod Cyfieithu 2023-24
LCE-3101
2023-24
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
10 credits
Module Organiser:
Jonathan Lewis
Overview
Bwriad y modiwl hwn yw datblygu ac atgyfnerthu ymhellach sgiliau cyfieithu a enillwyd gan fyfyrwyr yn eu cyrsiau iaith. Trwy ystyried cyfieithu fel proses, mae'n craffu ar gyfieithu ar wahanol lefelau testunol, o lefel geiriau a gramadeg, i'r lefel destunol a phragmataidd sy'n ystyried cydlyniad, cywair a mathau o destun. Mae'n rhoi fframwaith i'r myfyrwyr i ystyried yr anawsterau cyfieithu yn y parau iaith a ddewiswyd ganddynt ac i ymchwilio i strategaethau a'u goblygiadau.
Darllen hanfodol
Baker, Mona. In Other Words: A Coursebook on Translation, 2nd edition (London: Routledge, 2011). Hatim, Basil and Munday, Jeremy. Translation: an Advanced Resource Book (London: Routledge, 2004).
Bydd gofyn hefyd i fyfyrwyr gael adnoddau ieithyddol penodol megis geiriaduron dwyieithog ac uniaith.
Assessment Strategy
-threshold -D- - D+:Cyfieithu:Mae dealltwriaeth o'r eirfa a'r gystrawen yn dangos rhai diffygion eithaf amlwg sydd yn ei gwneud yn anodd deall. Dealltwriaeth gyffredinol hynod sylfaenol o'r deunydd ffynhonnell. Saesneg lletchwith; mae cyfieithu llythrennol yn cuddio'r ystyr. Fawr ddim ymdrech i adlewyrchu nodweddion arddull y gwreiddiol.Y sylwebaeth (gan gynnwys yr aseiniad cyflwyno): Ymdriniaeth sylfaenol iawn. Mae'r syniadau'n ddi-drefn, mae'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o'r deunydd ffynhonnell a'r iaith darged yn annigonol. Cyflwyniad blêr o bosib a fawr ddim defnydd o'r adnoddau sydd ar gael. Fawr ddim enghreifftiau priodol o anawsterau ac atebion.
-good -C- - B+:Y cyfieithu:Dealltwriaeth lawn o'r deunydd ffynhonnell. Yr arddull Saesneg yn glir ac yn gryno. Gallai fod rhai ymadroddion rhyfedd ond cynigir rhai atebion sensitif hefyd. Y sylwebaeth (gan gynnwys yr aseiniad cyflwyno): Cyflwyniad cadarn o amcanion ac ystyriaethau'r testun ffynhonnell o fewn cyd-destun; trafodaeth fedrus a sensitif ar natur a statws y testun ffynhonnell a'r iaith darged; disgrifiad eglur o'r rhesymau dros y dewisiadau a'r penderfyniadau. Defnydd medrus o'r adnoddau sydd ar gael.
-excellent -A- - A*:Y cyfieithu:Ni ellir canfod unrhyw broblemau dealltwriaeth. Yn dangos y gallu i drin y Saesneg o ran arddull. Defnyddir cywair priodol yn gyson drwy'r darn. Dylai roi'r argraff na ellir gwella ar y cyfieithiad.Y sylwebaeth (gan gynnwys yr aseiniad cyflwyno): Dull gwreiddiol a meddylgar o gyfieithu'r deunydd ffynhonnell. Wedi ei strwythuro’n dda iawn ac wedi ei ysgrifennu'n eglur ac yn fanwl gywir. Yn cynnig rhesymau a chyfiawnhad da iawn dros ddewisiadau a phenderfyniadau. Asesu'r testun ffynhonnell mewn ffordd wreiddiol a dadansoddol.
Learning Outcomes
- Cydnabod bod cyfieithu'n digwydd mewn perthynas â swyddogaethau cyfathrebu, mhethau o destun a nodweddion macro a microdestunol cysylltiedig.
- Dangos dealltwriaeth o wahanol fathau o anawsterau wrth gyfieithu.
- Defnyddio strategaethau cyfieithu systematig ac effeithiol.
- Llunio cyfieithiad digonol i iaith gyntaf y myfyriwr.
- Ymresymu'n feirniadol ac amddiffyn penderfyniadau cyfieithu.
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd yn dadansoddi cyfieithiad cyhoeddedig o destun ffynhonnell benodol a ddarperir gan gydlynydd y modiwl
Weighting
70%
Due date
05/05/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Mae myfyrwyr yn dewis testun nas cyhoeddwyd o'r blaen ac yn cynhyrchu cyfieithiad 300 gair ohono. I gyd-fynd â'r cyfieithiad ceir sylwebaeth fyfyriol o 500 o eiriau, yn egluro ac yn cyfiawnhau dewisiadau cyfieithu.
Weighting
30%
Due date
21/03/2024