Modiwl LCE-9007:
Lleoliad Tramor 1 flwyddyn
Lleoliad Tramor 1 flwyddyn 2023-24
LCE-9007
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
30 credits
Module Organiser:
Carol Tully
Overview
Nid yw Portffolio Profiad Gwaith y Flwyddyn Dramor yn rhan o'r rhaglen arferol o fodiwlau. Bwriedir i'r aseiniadau annog myfyrwyr i gynllunio, ystyried a gwerthuso eu datblygiad personol ac ieithyddol mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol yn ystod eu blwyddyn dramor. Mae gofyn hefyd i fyfyrwyr ymdrin yn weithredol â materion sy'n gysylltiedig â gwaith / cyflogaeth wrth gynllunio a chyflawni eu dyletswyddau. Yn ogystal, maent yn cael eu hannog i ystyried eu rôl fel rhan o dîm mewn cyd-destun proffesiynol a gwerthuso sgiliau penodol a throsglwyddadwy a ddatblygwyd yn ystod eu lleoliad gwaith.
Assessment Strategy
-threshold -(D- i D+) Bydd myfyrwyr yn dangos gallu boddhaol i gyflawni dyletswyddau yn ôl y gofyn yn y gweithle. Byddant hefyd yn dangos dealltwriaeth o wahaniaethau rhwng byd gwaith yn y wlad dramor ac yn eu gwlad eu hunain. Bydd gwaith ysgrifenedig yn dangos gafael boddhaol ar yr iaith darged, gallu boddhaol i ddefnyddio arddull a chywair academaidd priodol, a gallu i ddadansoddi a gwerthuso.
-good -(C- i B+) Bydd myfyrwyr yn dangos gallu i gyflawni dyletswyddau yn effeithiol ac i safon dda yn y gweithle, ac yn gallu ysgwyddo cyfrifoldeb yn ôl y gofyn. Byddant hefyd yn dangos dealltwriaeth dda o wahaniaethau rhwng byd gwaith yn y wlad dramor ac yn eu gwlad eu hunain. Bydd gwaith ysgrifenedig yn dangos gafael da ar yr iaith darged, gallu i ddefnyddio arddull a chywair academaidd priodol, a gallu i ddadansoddi a gwerthuso yn effeithiol.
-excellent -(A- i A*) Bydd myfyrwyr yn dangos gallu ardderchog i gyflawni dyletswyddau ac i ysgwyddo cyfrifoldeb yn ôl y gofyn yn y gweithle. Byddant hefyd yn dangos dealltwriaeth feirniadol o wahaniaethau rhwng byd gwaith yn y wlad dramor ac yn eu gwlad eu hunain. Bydd gwaith ysgrifenedig yn dangos gafael ardderchog ar yr iaith darged, arddull a chywair academaidd priodol, a gallu i ddadansoddi a gwerthuso yn dreiddgar.
Learning Outcomes
- Asesu eu gallu / parodrwydd i addasu i fywyd mewn gwlad dramor ac i ddefnyddio iaith a phrofi diwylliant y wlad honno
- Datblygu annibyniaeth a'r gallu i addasu
- Datblygu sgiliau ieithyddol uchel trwy ddysgu hunan-fyfyriol
- Datblygu ymwybyddiaeth o ddiwylliant y wlad dramor a gwahaniaethau diwylliannol
- Gweithio'n broffesiynol gyda chydweithwyr a chwsmeriaid mewn sefyllfa broffesiynol
- Trafod materion a datblygiad personol a phroffesiynol yn yr iaith darged
- Ymgymryd â dyletswyddau fel sy'n ofynnol gan y cyflogwr
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Report 1 in the Target Language
Weighting
50%
Due date
20/01/2023
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Report 2 in the Target Language
Weighting
50%
Due date
02/06/2023