Modiwl LCF-1001:
Ffrangeg Uwch 1
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Mrs Sarah Goddard
Amcanion cyffredinol
- Datblygu sgiliau cyfieithu a darllen a deall myfyrwyr drwy astudio testunau sy'n amrywio mewn arddull a chywair.
- Galluogi myfyrwyr i gynhyrchu darnau ysgrifennu cymwys mewn Ffrangeg.
- Datblygu sgiliau llafar a gwrando myfyrwyr trwy ymarferion sgwrsio a deunyddiau clyweledol dethol yn amrywio mewn cywair.
- Datblygu geirfa a chynnwys ymadroddion allweddol mewn gwaith llafar ac ysgrifenedig.
- Datblygu dealltwriaeth fwy cymhleth o strwythurau gramadegol allweddol, a gallu defnyddio cystrawennau gramadegol mewn mynegiant ysgrifenedig a llafar.
- Trafod ac amddiffyn dadleuon a syniadau mewn trafodaethau grŵp ac un-i-un.
- Deall agweddau allweddol sy'n sail i hunaniaeth gyfoes pobl Ffrangeg eu hiaith.
Bydd myfyrwyr ar y modiwl hwn yn gweithio tuag at ennill B1+B2 ar y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR).
Cynnwys cwrs
Mae'r modiwl hwn yn galluogi i fyfyrwyr sydd wedi gwneud Lefel A ddatblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar mewn Ffrangeg drwy ehangu ar y gallu ieithyddol a gafwyd yn ystod Lefel A. Mae'n cynnwys dosbarthiadau wedi'u seilio ar destun lle mae myfyrwyr yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau cyfieithu ac ysgrifennu, yn ogystal â dosbarthiadau llafar/gwrando, lle defnyddir ystod o gymhorthion clywedol a gweledol i ysgogi trafodaethau grŵp. Trwy gydol y modiwl, mae myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i adolygu a datblygu meysydd allweddol o ramadeg. Daw'r testunau a'r deunyddiau a ddefnyddir yn y modiwl hwn o amrywiaeth o ffynonellau yn cynnwys y cyfryngau a darnau llenyddol er mwyn i fyfyrwyr ymgyfarwyddo ag amrywiol gyweiriau. Trwy'r deunyddiau hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn cael cipolwg ar themâu Ffrengig penodol a materion sy'n ymwneud â bywyd a chymdeithas gyfoes yn y gwledydd Ffrangeg eu hiaith. Cefnogir dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth trwy Bortffolio Hunan-astudiaeth gyd-gwricwlaidd.
Meini Prawf
trothwy
40-49%: Gwybodaeth gyfyngedig o ramadeg a geirfa sy'n arwain at allu cyfyngedig i gyfathrebu mewn Ffrangeg ysgrifenedig.
da
50-69%: Gwybodaeth dda o ramadeg a geirfa sy'n caniatáu lefel dda o gyfathrebu effeithiol mewn Ffrangeg ysgrifenedig.
ardderchog
70+%: Gwybodaeth ardderchog o ramadeg a geirfa. Gafael gadarn ar yr iaith o ran techneg ac arddull sy'n caniatáu cyfathrebu clir a manwl mewn Ffrangeg ysgrifenedig.
Canlyniad dysgu
-
Defnyddio strwythurau gramadegol allweddol mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
-
Dangos gallu i dynnu gwybodaeth a gyflwynir mewn ffynonellau Ffrangeg a'i defnyddio i ateb cwestiynau yn yr iaith darged.
-
Cynhyrchu Ffrangeg cywir ac sy'n gywir yn idiomatig.
-
Archwilio a gwerthuso rhai o'r themâu a'r dadleuon allweddol sy'n cael lle blaenllaw mewn diwylliant gyfoes Ffrengig.
-
Deall a chyfieithu testunau ysgrifenedig yn amrywio o ran arddull a chywair.
-
Sgwrsio a gwrando ar Ffrangeg, ei deall, ac ymateb iddi mewn cyd-destun rhyngweithiol.
-
Defnyddio meysydd geirfa newydd mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Aseiniad ysgrifennu creadigol | 25.00 | ||
Trafodaeth lafar wedi'i hasesu | 25.00 | ||
Arholiad 2 awr | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | 4 seminar (1 awr) pob wythnos am 11 wythnos. 1 awr ychwanegol (trwy gyfrwng y Gymraeg) pob wythnos. |
55 |
Private study | Ymarfer sgiliau iaith gan ddefnyddio ystod o ddeunyddiau, yn cynnwys Blackboard, adeiladu geirfa, adolygu gramadeg. Cwblhau tasgau gwaith cwrs. |
145 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- 1. The ability to use the target language creatively and precisely in short written assignments in the target language. (Benchmark statement 5.14)
- 2. The ability to translate short passages into and out of the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
- 3. Engaging with, interpreting and critically evaluating short and longer contemporary texts (short stories, films, novels) in the target language (Benchmark statement 5. 8, and 5.9)
- 4. Effective oral communication and presentation skills (including delivery and argument development, discussion and defence) in the target language through individual and/or group discussions. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
- 5. The ability to use the target language creatively and precisely in oral assignments, showing familiarity with a range of topics and registers in formal and informal situations. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
- 6. Develop aural comprehension skills in the target language, supported by a wide range of appropriate materials in different media. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
- 7. The ability to read, understand and summarise written texts in the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
Adnoddau
Rhestr ddarllen
Casgliad gramadeg (a ddarperir gan y darlithydd)
Casgliad wedi'i seilio ar destunau (a ddarperir gan y darlithydd)
Casgliad sgyrsiau llafar (a ddarperir gan y darlithydd)
Adnoddau Dysgu Eraill: Disgwylir i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y modiwl hwn gwblhau Portffolio Hunan-astudiaeth cyd-gwricwlaidd yr Ysgol. Mae'r portffolio hwn yn annog myfyrwyr i ddarllen papurau newydd Ffrangeg a gwylio teledu Ffrangeg a ffilmiau Ffrangeg yn rheolaidd; dylent hefyd ddarllen un nofel Ffrangeg bob semester. Dylai myfyrwyr gwblhau un portffolio ar gyfer Ffrangeg bob semester.
Rhagofynion a Chydofynion
Rhagofynnol ar gyfer:
- LCF-2020: Sgiliau Iaith Ffrangeg-3 Iaith
- LXF-2105: Race and Immigration in France
- LCF-2040: Sgiliau Iaith Ffrangeg
- LXF-2104: French Cinema 1895-1950