Modiwl LCF-3031:
Project 3 Ffrangeg (2bb/1ib)
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Languages, Literatures, Linguistics and Media
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Jonathan Ervine
Amcanion cyffredinol
Nod y modiwl hwn yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ysgrifennu darn estynedig o waith yn ystod eu semester mewn gwlad Ffrangeg ei hiaith. Mae'r project yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth drylwyr am elfen benodol o fywyd, llenyddiaeth neu ddiwylliant gwlad Ffrangeg ei hiaith a gwella eu Ffrangeg ysgrifenedig a llafar yr un pryd. Dylid dewis pwnc nad yw eisoes yn elfen benodol o'r maes llafur, pwrpas hynny yw annog myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau astudio annibynnol a'u sgiliau ymchwil.
Cynnwys cwrs
Ar yr amod y caiff ei gymeradwyo gan aelodau perthnasol staff yr Ysgol Ieithoedd Modern, gall y dewis bwnc neu'r darn i'w gyfieithu ymwneud ag unrhyw agwedd ar fywyd, llenyddiaeth, hanes neu ddiwylliant Ffrangeg gwlad Ffrangeg ei hiaith. Dylid dewis pwnc/darn i'w gyfieithu nad yw eisoes yn elfen benodol o'r maes llafur. Ni ddylid dewis darn i'w gyfieithu sydd eisoes wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg/Saesneg. Bydd y traethawd/cyflwyniad yn yr iaith darged.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy 40-49%: Dealltwriaeth foddhaol o'r pwnc a ddewiswyd; tystiolaeth gyfyngedig o sgiliau ymchwil annibynnol a gafael gyfyngedig ar eirfa a gramadeg.
da
Da 50-69%: Dealltwriaeth gadarn o'r pwnc a ddewiswyd; tystiolaeth ddigonol o sgiliau ymchwil annibynnol a gafael dda ar eirfa a gramadeg.
ardderchog
Rhagorol 70+%: Dealltwriaeth drylwyr o'r pwnc a ddewiswyd; tystiolaeth helaeth o sgiliau ymchwil annibynnol a gafael ragorol ar eirfa a gramadeg.
Canlyniad dysgu
-
Dangos eu bod yn gyfarwydd â thechnegau cyfeirio (yn cynnwys llunio llyfryddiaeth).
-
Dangos lefel uchel o hyfedredd wrth ddefnyddio'r iaith Ffraneg a'i gramadeg.
-
Dangos y gallu i wneud ymchwil yn annibynnol a dangos blaengaredd wrth ddatrys problemau.
-
Dangos y gallu i gasglu gwybodaeth a'i chrynhoi'n effeithiol mewn dadl glir a rhesymegol yn yr iaith darged, ar lafar neu'n ysgrifenedig.
-
Dangos tystiolaeth gadarn o feddwl gwreiddiol dadansoddol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Cynnwys (Content) | 47.50 | ||
Iaith (Language) | 47.50 | ||
Sgiliau ymchwil traethawd | 5.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | Darlith (2 awr, cyflwyno'r project) |
2 |
Private study | 98 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- The ability to use the target language creatively and precisely in short written assignments in the target language. (Benchmark statement 5.14)
- The ability to read, understand and summarise written texts in the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
- The ability to use the target language creatively and precisely in sophisticated written assignments in the target language. (Benchmark statement 5.14)
- The ability to read, understand and summarise more sophisticated written texts in the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- T111: BA Chinese and French with German year 4 (BA/CHFG)
- T112: BA Chinese & French with Italian year 4 (BA/CHFI)
- T113: BA Chinese & French with Spanish year 4 (BA/CHFS)
- R901: BA French & German with Italian year 4 (BA/FGI4)
- R913: BA French & German with Spanish year 4 (BA/FGS4)
- R918: BA French & Italian with German year 4 (BA/FIG4)
- R919: BA French & Italian with Spanish year 4 (BA/FIS4)
- R914: BA French & Spanish with German year 4 (BA/FSG4)
- R915: BA French & Spanish with Italian year 4 (BA/FSI4)