Modiwl PCC-2007:
Seicoleg Gymdeithasol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Human and Behavioural Sciences
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Thandi Gilder
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl yma'n ddwyieithog. Mi fydd y darlithoedd yn Saesneg, a'r seminarau yn Gymraeg.
Mi fydd y modiwl yn rhoi trosolwg o theorïau ac ymchwil seicolegol o fewn y maes o Seicoleg Gymdeithasol. Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i bynciau fel canfyddiad cymdeithasol, perthnasau rhyngbersonol, ymddygiad cymdeithasol, dylanwad cymdeithasol, a phrosesau grŵp. Pwrpas y cwrs yw dysgu myfyrwyr am ymddygiad dynol o fewn sefyllfaoedd cymdeithasol a diwylliannol gwahanol.
Mae cwblhau'r modiwl yn ofynnol yn ôl meini prawf y BPS.
Cynnwys cwrs
Dyma drosolwg o'r pynciau a ddysgir yn y modiwl:
- Canfyddiad Cymdeithasol (Gwybyddiaeth, Priodoliad, Agweddau, Ffurfio Argraff);
- Cyswllt Cymdeithasol (Atyniad, Bod yn ddeniadol, Perthnasau);
- Grwpiau Cymdeithasol (Mewngrwpiau, Arweinyddiaeth, Rhagfarn, Gwneud Penderfyniadau)
- Dylanwad Cymdeithasol (Mathau o ddylanwad, Cydymffurfiad, Ufudd-dod)
- Cefnogaeth Cymdeithasol (Helpu / Allgaredd)
Meini Prawf
trothwy
D- i D+
- Ystyriaeth sylfaenol o berthnasedd seicoleg gymdeithasol yn y byd go iawn
- Gwybodaeth ddigonol o gysyniadau allweddol o fewn seicoleg gymdeithasol yn unig
- Gwendidau yn eu dealltwriaeth theoretig gyda nifer o wallau ffeithiol
- Tystiolaeth gyfyngedig o ddadansoddiad critigol a gwerthusiad o theorïau ac ymchwil.
- Cyflwynir dadleuon yn fras, ond roeddent yn wan, a ni chafwyd dehongliad gwreiddiol.
- Roedd yr atebion yn cynnwys gwybodaeth amherthnasol ac wedi eu strwythuro'n wael.
- Cyflwyniad gwan gyda strwythur gwael a nifer o wallau fformatio APA.
C- i C+
C- i C+
- Ychydig o ystyriaeth o berthnasedd seicoleg gymdeithasol yn y byd go iawn
- Gwybodaeth o'r mwyafrif o gysyniadau allweddol o fewn seicoleg gymdeithasol
- Ychydig o ddealltwriaeth theoretig gyda rhai gwallau ffeithiol
- Ychydig o dystiolaeth o ddadansoddiad critigol a gwerthusiad o theorïau ac ymchwil.
- Cyflwynir rhai dadleuon, ond cafwyd ychydig iawn o ddehongliad gwreiddiol.
- Roedd yr ateb yn canolbwyntio ar y cwestiwn, ond roedd ychydig o wybodaeth amherthnasol ac roedd y strwythur yn wael.
da
B- i B+
- Ystyriaeth o berthnasedd seicoleg gymdeithasol yn y byd go iawn
- Gwybodaeth gref o'r mwyafrif o gysyniadau allweddol o fewn seicoleg gymdeithasol
- Dealltwriaeth gadarn o'r theori gydag ychydig iawn o wallau ffeithiol
- Tystiolaeth o ddadansoddiad critigol a gwerthusiad o theorïau ac ymchwil.
- Cyflwynir dadleuon mewn ffordd gydlynol, hefo ychydig o ddehongliad gwreiddiol.
- Roedd yr ateb yn canolbwyntio ar y cwestiwn, roedd y strwythur yn glir, ac roedd rhan fwyaf o'r wybodaeth yn berthnasol.
- Strwythur da sy'n dangos dadleuon a mynegiant cryf.
ardderchog
A- i A+
- Ystyriaeth ddofn o berthnasedd seicoleg gymdeithasol yn y byd go iawn
- Gwybodaeth gynhwysfawr a manwl o seicoleg gymdeithasol
- Dealltwriaeth wych a dehongliad gwreiddiol o'r theori, heb unrhyw wallau ffeithiol.
- Tystiolaeth amlwg o ddadansoddiad critigol a gwerthusiad o theorïau ac ymchwil.
- Cyflwynir dadleuon mewn ffordd gydlynol a rhesymegol, gyda digon o ddehongliad gwreiddiol.
- Roedd yr ateb yn canolbwyntio ar y cwestiwn, roedd y strwythur yn glir, ac roedd y wybodaeth i gyd yn berthnasol.
- Strwythur da sy'n dangos dadleuon a mynegiant cryf a chlir.
Canlyniad dysgu
-
Ystyried achosion ac esboniadau dros ymddygiadau cynorthwyol ac allgarol.
-
Dangos dealltwriaeth o'r prosesau meddwl, gwybodaeth, a chredoau a ddefnyddir i ddeall ymddygiadau eraill (Canfyddiad cymdeithasol).
-
Gwerthuso natur atyniad cychwynnol a dynameg perthnasau sy'n dipyn hyn (Cyswllt Cymdeithasol)
-
Disgrifio dynameg ymddygiad o fewn a rhwng grwpiau o unigolion er mwyn deall lluniadaeth gymdeithasol (Grwpiau cymdeithasol)
-
Dadansoddi dylanwad eraill ar ymddygiad, teimladau, a meddyliau (Dylanwad cymdeithasol)
-
Trafod a dadlau perthnasedd theori seicoleg gymdeithasol yn y 'byd go-iawn'.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Darganfod, Rhannu, Creu | 50.00 | ||
Arholiad Terfynol (i'w gwblhau adre) | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Darlith tri awr bob wythnos (11 wythnos) |
33 |
Private study | Mewn modiwl 10 credyd, disgwylir i chi wario 100 awr yn gweithio. Mae hyn yn cynnwys mynychu'r dosbarthiadau, cynnal ymchwil annibynnol, a chwblhau aseiniadau). |
57 |
Seminar | Seminar 1 awr bob wythnos (10 wythnos) |
10 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Understand the scientific underpinnings of psychology as a discipline.
- Apply multiple perspectives to psychological issues and integrate ideas and findings across the multiple perspectives in psychology.
- Communicate psychological concepts effectively in written form.
- Be computer literate for the purpose of processing and disseminating psychological data and information.
- Retrieve and organise information effectively.
- Handle primary source material critically.
- Be sensitive and react appropriately to contextual and interpersonal psychological factors.
- Use effectively personal planning and project management skills.
- Work effectively under pressure (time pressure, limited resources, etc) as independent and pragmatic learners.
- Problem-solve by clarifying questions, considering alternative solutions, making critical judgements, and evaluating outcomes.
- Reason scientifically and demonstrate the relationship between theory and evidence.
- Employ evidence-based reasoning and examine practical, theoretical and ethical issues associated with the use of different methodologies, paradigms and methods of analysis in psychology.
- Be aware of ethical principles and approval procedures.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/pcc-2007.htmlRhestr ddarllen
https://rl.talis.com/3/bangor/lists/024F52ED-8CE8-C200-01BA-1C810D87541A.html?lang=en