Modiwl QCB-4480:
Technolegau Iaith
Technolegau Iaith 2022-23
QCB-4480
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Delyth Prys
Overview
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i gyfres o agweddau cymwysedig, damcaniaethol ac ymarferol o dechnolegau iaith, fydd yn eu cynorthwyo i gael lefel uwch o ddealltwriaeth o’r sgiliau cymhleth sydd eu hangen i ddatblygu dulliau wedi’u hawtomeiddio o drin data iaith naturiol.
Mae dosbarthiadau yn cynnwys cydrannau ymarferol gydag elfen gref o Dechnoleg Gwybodaeth, ymarferion ar sail project, trafodaethau a gwaith grŵp. Bydd myfyrwyr hefyd yn caffael y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol ar draws gwahanol feysydd o dechnolegau iaith, gan gynnwys datblygu rhai technegau ac adnoddau ar gyfer ymchwil gefndirol, rheoli terminoleg, dadansoddi testun a sgiliau proffesiynol. Bydd y modiwl yn cynorthwyo myfyrwyr i ddod yn gyfarwydd gydag agweddau o ddatblygiadau technoleg iaith yng Nghymru.
Ymhlith y pynciau yr ymdrinir â hwy mae: 1. Cyflwyniad i ddulliau NLP 2. Egwyddorion Cyfieithu Peirianyddol 3. Technoleg Lleferydd: testun i leferydd 4. Technoleg Lleferydd: adnabod lleferydd 5. Deallusrwydd Artiffisial Sgwrsiol a dysgu dwfn 6. Trosolwg methodolegau ar sail rheolau, ystadegol a rhwydweithiau niwral
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth soffistigedig o’r prif faterion, deilliannau a chynnydd mewn gwahanol dechnolegau iaith ar gyfer gwahanol ieithoedd.
- Bydd myfyrwyr yn medru cyflwyno cysyniadau yn glir ac yn ystyrlon, gwerthuso syniadau yn feirniadol a chynllunio a chynnal project ymchwil i lefel uwch ar bwnc o’u dewis yn y maes hwn.
- Bydd myfyrwyr yn medru integreiddio ystod o bynciau ieithyddol a chyfrifiadurol wrth ddadansoddi enghreifftiau o dechnolegau iaith mewn gwahanol sefyllfaoedd uniaith ac amlieithog i safon uwch.
- Bydd myfyrwyr yn medru ysgrifennu papurau ymchwil ar bynciau blaengar yn y maes, a dod â gwybodaeth o wahanol feysydd at ei gilydd er mwyn medru delio gyda gwahanol bynciau o fyd technoleg iaith ar lefel uwch.
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Crynodol
Description
Portffolio Ymarferol
Weighting
80%
Due date
30/05/2022
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Adroddiad Prosiect
Weighting
20%
Due date
30/05/2022