Modiwl QCL-4470:
Agweddau ar Ddwyieithrwydd
Agweddau ar Ddwyieithrwydd 2023-24
QCL-4470
2023-24
Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau
Modiwl - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Peredur Webb-Davies
Overview
Bydd myfyrwyr yn dysgu am bynciau fel y canlynol:
- Diffinio dwyieithrwydd, a dwyieithrwydd unigol
- Plant dwyieithog
- Dwyieithrwydd cymdeithasol
- Dwyieithrwydd yn y cartref ac yn yr ysgol
- Cyfnewid cod cymdeithasol
- Gramadeg cyfnewid cod
- Agweddau tuag at y Gymraeg a dwyieithrwydd
- Manteision deallusol dwyieithrwydd
- Dyfodol y Gymraeg yn ei chyd-destun dwyieithog
- Dysgu ail iaith fel oedolyn
Assessment Strategy
-threshold -Gradd C: Amgyffred sylfaenol o’r prif faterion sydd yn ymwneud â dwyieithrwydd. Gallu derbyniol i gasglu a chategoreiddio data ieithyddol. Yn dangos gallu cyfyngedig i ddadansoddi a deall pynciau ieithyddol yn eu cyd-destun, gan dynnu ar rai astudiaethau sydd eisoes yn bod ac ar brofiad personol. Yn gwneud defnydd sylfaenol o arddull ysgrifennu academaidd ac yn dangos gallu cyfyngedig i gyflwyno syniadau a chysyniadau perthnasol ar ffurf ysgrifenedig a llafar. Gallu sylfaenol i gymharu dwyieithrwydd yn y cyd-destun Cymreig â seftyllfaoedd dwyieithog eraill. -good -Gradd B: Amgyffred da o’r prif faterion sydd yn ymwneud â dwyieithrwydd. Gallu clir i gasglu a chategoreiddio data ieithyddol. Yn dangos gallu i ddadansoddi a deall pynciau ieithyddol yn eu cyd-destun, gan dynnu ar astudiaethau sydd eisoes yn bod ac ar brofiad personol yn eang. Yn gwneud defnydd da o arddull ysgrifennu academaidd ac yn effeithiol ar gyflwyno syniadau a chysyniadau perthnasol ar ffurf ysgrifenedig a llafar. Gallu da i gymharu dwyieithrwydd yn y cyd-destun Cymreig â seftyllfaoedd dwyieithog eraill. -excellent -Gradd A: Amgyffred ardderchog o’r holl faterion sydd yn ymwneud â dwyieithrwydd. Gallu clir ac eang i gasglu a chategoreiddio data ieithyddol. Yn dangos gallu heb ei ail i ddadansoddi a deall pynciau ieithyddol yn eu cyd-destun mewn modd aeddfed a sensitif, gan dynnu ar astudiaethau sydd eisoes yn bod ac ar brofiad personol yn eang ac yn effeithiol. Yn gwneud defnydd ardderchog o arddull ysgrifennu academaidd ac yn effeithiol tu hwnt ar gyflwyno syniadau a chysyniadau perthnasol ar ffurf ysgrifenedig a llafar. Gallu eithriadol a gweledigaethol i gymharu dwyieithrwydd yn y cyd-destun Cymreig â seftyllfaoedd dwyieithog eraill.
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn gallu adolygu, synthesu ac arsylwi, mewn dull o safon uchel, ystod eang o lenyddiaeth empirig a damcaniaethol berthnasol mewn modd beirniadol.
- Bydd myfyrwyr yn gallu arddangos dealltwriaeth uchel, eang a chywrain o wahanol fathau o sefyllfaoedd dwyieithog ac amlieithog.
- Bydd myfyrwyr yn gallu arddangos gwybodaeth uchel ac eang o amcanion, rhagdybiaethau, damcaniaethau a methodolegau sydd yn cael eu defnyddio ym maes astudio dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, a gwybodaeth o sut a pham y cant eu defnyddio gan ymchwilwyr.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dadansoddi data ieithyddol ar lefel uchel, gan ddefnyddio methodolegau a theori sydd yn addas ar gyfer maes dwyieithrwydd.
- Bydd myfyrwyr yn gallu ennill gwybodaeth a dealltwriaeth uchel o sefyllfa’r iaith Gymraeg a’i phobl o ran dwyieithrwydd, gan arddangos gallu i gymharu’r sefyllfa yng Nghymru â sefyllfaoedd dwyieithog tebyg ledled byd, o sawl safbwynt ac mewn modd beirniadol.
Assessment method
Report
Assessment type
Crynodol
Description
Adroddiad dadansoddi data
Weighting
40%
Due date
01/03/2032
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd ar bwnc mewn dwyieithrwydd
Weighting
60%
Due date
19/05/2023