Modiwl SCL-3139:
Cyfraith Datganoli
Cyfraith Datganoli 2023-24
SCL-3139
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Andrew Edwards
Overview
Mae’r cwrs yn edrych ar gyfraith datganoli yng Nghymru a mannau eraill yn Ewrop. Astudir datblygiad hanesyddol datganoli yng Nghymru; o effaith Statud Rhuddlan 1284 a'r Deddfau Uno yn yr unfed ganrif ar bymtheg i ddatganoli grym yn raddol i adrannau a swyddfeydd Cymreig yn yr ugeinfed ganrif. Ceir astudiaeth fanwl o Ddeddf Llywodraeth Cymru a Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru), ynghyd â’r modd y mae darpariaethau’r ystatudau hynny’n cael eu gweithredu yng Nghymru ar ôl datganoli, a barn ysgolheigaidd yn ymwneud â hynny. O ganlyniad, rhoddir ystyriaeth i ddatblygiad Cyfansoddiad Cymreig ac ymddangosiad awdurdodaeth Gymreig. Bydd datblygiadau cyfreithiol a arweinir gan ddatganoli hefyd yn cael eu hystyried yng nghyd-destun y DU; gweinyddu cyfiawnder, yn arbennig cyfraith weinyddol; a datblygiad cysylltiadau rhyng-lywodraethol yn y DU ac Ewrop. Drwy gydol y cwrs, bydd y datblygiadau cyfreithiol yn ymwneud â newidiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a deallusol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r byd ehangach. Yn arbennig, rhoddir sylw i’r setliad datganoli yn Yr Alban; Gogledd Iwerddon; Cymunedau Hunanreolaethol Sbaen; y Länder yn Yr Almaen.
Learning Outcomes
- Cymharu'n wybodus datblygiad sefydliadau a meysydd cyfraith yng nghenhedloedd a rhanbarthau datganoledig y DU ac Ewrop, gan eu cysylltu â'u hachosion a’u heffeithiau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a deallusol
- Cynnal ymchwil gyfreithiol annibynnol yn fanwl, cywir ac effeithiol mewn perthynas â chyfraith datganoli yng Nghymru a mannau eraill yn Ewrop
- Dadansoddi'n fedrus ac yn feirniadol datblygiad sefydliadau a meysydd cyfraith yng Nghymru wedi datganoli, gan gyfeirio'n gywir at ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd priodol, a gan gysylltu’r datblygiad â’i achosion a’i effeithiau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a deallusol.
- Dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o faterion cyd-destunol ehangach yn ymwneud â gweithredu cyfraith datganoli yng Nghymru, e.e. y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r llywodraeth ganolog yn San Steffan.
- Dangos lefel sgil uchel wrth ddansoddi a chymhwyso gwybodaeth sy'n ymwneud a ddatganoli.
- Llunio, cyflwyno a cyfathrebu'n effeithiol dadl gyfreithiol resymegol yn ymwneud â materion yng nghyfraith datganoli.
Assessment type
Summative
Weighting
40%
Assessment type
Summative
Weighting
60%