Modiwl SCU-1001:
Ymchwil Cymdeithasol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Philosophy and Social Sciences
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Cynog Prys
Amcanion cyffredinol
Dyma ddechrau ar eich gyrfa cyffroes fel ymchwilwyr cymdeithasol. Byddech yn cael hyfforddiant ym mhob agwedd o ymchwil cymdeithasol - o sylwi ffenomenon o ddiddordeb a’i archwilio, hyd at gynllunio prosiect ymchwil arloesol a phriodol. Bydd y modiwl yma yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i chi fynd yn eich blaenau i wneud ymchwil eich hunain yn yr ail flwyddyn, gan gynnwys eich traethawd hir.
Cynnwys cwrs
Byddech yn dysgu sut i archwilio amrediad eang o bynciau, gan hel adnoddau addas a pherthnasol amdanynt. Fydd sesiynau ar sut i feirniadu a gwerthuso adnoddau a sut i’w cyfeirnodi o fewn eich gwaith, gan greu llyfryddiaeth daclus. Fydd ffocws ar sut i ysgrifennu mewn amryw o ffyrdd ysgolhaig, gan gynnwys sesiynau hefo Canolfan y Bedwyr ar drawsieithu ac ysgrifennu mewn Cymraeg safonol. Bydd disgwyl i chi cofnodi’r hyn yr ydych yn ei ddysgu am y sgiliau sylfaenol yma mewn llyfr log gweithdy, sydd yn rhan o’r asesiad i’r modiwl. Mi fydd lle yma i chi adfyfyrio ar yr hyn rydych yn ei ddysgu, ac mi fydd hyn yn adnodd gwerthfawr i chi am weddill eich gyrfa ymchwil.
Wedi i chi meistroli’r sgiliau sylfaenol, byddech yn ffocysu wedyn ar ddysgu am fethodolegau ymchwil ynghyd â’r seiliau athronyddol, gan ystyried y cyswllt rhwng rhain a’r theorïau sydd yn deillio ohonynt. Byddech yn dysgu am sut i gynllunio prosiect ymchwil, gan gynnwys sut i ddewis methodoleg a dulliau addas. Byddech yna'n dysgu sut i fynd ati i gasglu data, ei dadansoddi, a sut i ysgrifennu am eich ymchwil ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd - gan gynnwys lle a sut i gyhoeddi. Fydd amrediad eang o fethodolegau yn cael ei thrafod, gan gynnwys defnydd o ddulliau meintiol, ansoddol a phrosiectau dulliau cymysg. Mi gewch gyflwyniad i becynnau meddalwedd berthnasol i ymchwil cymdeithasol. Byddech hefyd yn ystyried materion moeseg, canllawiau perthnasol, a sut i wneud cais moeseg ar gyfer gwneud gwaith ymchwil i’ch traethawd hir.
Meini Prawf
da
Da (B- i B+) Dangos gwybodaeth gref am y prif egwyddorion a dangos dealltwriaeth o’r rhan fwyaf ond nid y cyfan o’r prif elfennau, megis: confensiynau ysgrifennu gwahanol gan gynnwys adfyfyrio a bod yn ymatblyg, ac ysgrifennu i gynulleidfaoedd amrywiol; defnyddio’r Gymraeg mewn addysg uwch, gan gynnwys trawsieithu; cyfeirnodi a chreu llyfryddiaeth; elfennau gwahanol o ymchwil cymdeithasol, gan ystyried amrediad eang o fethodolegau a’r seiliau athronyddol a damcaniaethau cysylltiedig; sut i chwilio am adnoddau perthnasol ac addas, gan ei gwerthuso’n feirniadol. Tystiolaeth o astudio cefndirol.
ardderchog
Rhagorol (A- i A+) Dangos gwybodaeth gynhwysfawr am y prif egwyddorion a dangos dealltwriaeth fanwl o’r prif elfennau, megis: confensiynau ysgrifennu gwahanol gan gynnwys adfyfyrio a bod yn ymatblyg, ac ysgrifennu i gynulleidfaoedd amrywiol; defnyddio’r Gymraeg mewn addysg uwch, gan gynnwys trawsieithu; cyfeirnodi a chreu llyfryddiaeth; elfennau gwahanol o ymchwil cymdeithasol, gan ystyried amrediad eang o fethodolegau a’r seiliau athronyddol a damcaniaethau cysylltiedig; sut i chwilio am adnoddau perthnasol ac addas, gan ei gwerthuso’n feirniadol. Tystiolaeth o astudio cefndirol helaeth.
C- i C+
(C- i C+) Dangos gwybodaeth am y prif egwyddorion a dangos dealltwriaeth o’r prif elfennau, megis: confensiynau ysgrifennu gwahanol gan gynnwys adfyfyrio a bod yn ymatblyg, ac ysgrifennu i gynulleidfaoedd amrywiol; defnyddio’r Gymraeg mewn addysg uwch, gan gynnwys trawsieithu; cyfeirnodi a chreu llyfryddiaeth; elfennau gwahanol o ymchwil cymdeithasol, gan ystyried amrediad eang o fethodolegau a’r seiliau athronyddol a damcaniaethau cysylltiedig; sut i chwilio am adnoddau perthnasol ac addas, gan ei gwerthuso’n feirniadol. Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol.
trothwy
Trothwy (D- i D+) Dangos gwybodaeth am y prif feysydd/ egwyddorion yn unig, gyda gwendidau mewn dealltwriaeth o’r prif elfennau, megis: confensiynau ysgrifennu gwahanol gan gynnwys adfyfyrio a bod yn ymatblyg, ac ysgrifennu i gynulleidfaoedd amrywiol; defnyddio’r Gymraeg mewn addysg uwch, gan gynnwys trawsieithu; cyfeirnodi a chreu llyfryddiaeth; elfennau gwahanol o ymchwil cymdeithasol, gan ystyried amrediad eang o fethodolegau a’r seiliau athronyddol a damcaniaethau cysylltiedig; sut i chwilio am adnoddau perthnasol ac addas, gan ei gwerthuso’n feirniadol. Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol.
Canlyniad dysgu
-
Gwerthfawrogiad o’r cysylltiad rhwng athroniaeth yn y gwyddorau cymdeithasol a’r methodolegau a damcaniaethau amrywiol.
-
Dealltwriaeth o sut i chwilio am adnoddau perthnasol ac addas, gan ei gwerthuso’n feirniadol.
-
Gallu i ysgrifennu’n atblygol ac adfyfyrio ar y broses dysgu.
-
Dealltwriaeth o sut i ysgrifennu mewn Cymraeg safonol, ysgolhaig, gan ddefnyddio amryw o dechnegau ac adnoddau, gan gynnwys trawsieithu a meddalwedd berthnasol.
-
Gallu i gyfeirnodi adnoddau’n hyderus o fewn gwaith ysgrifenedig a hefyd lunio llyfryddiaeth daclus ar ddiwedd y gwaith.
-
Dealltwriaeth o’r agweddau ymarferol o ymchwil cymdeithasol, megis: cynllunio’r ymchwil, dethol dulliau, ystyried materion moesegol, casglu a dadansoddi data.
-
Dealltwriaeth o’r arddulliau amryw o ysgrifennu ysgolheigaidd a sut i baratoi gwaith i’w cyflwyno i gynulleidfaoedd amrywiol.
-
Y gallu i amlygu dealltwriaeth gadarn o hanfodion y broses ymchwil
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
LLYFR LOG NEU BORTFFOLIO | Log adfyfyriol | 50 | |
PRAWF DOSBARTH | Prawf Dosbarth | 25 | |
GWAITH CWRS | Aseiniad Iaith | 25 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Workshop | Gweithdy dwy awr x 22 Cynhelir sesiynau dysgu'r modiwl drwy weithdai dwy awr ble annogir dysgu rhyngweithiol ar ffurf ymarferol a gweithredol. Wrth ddatblygu cais ymchwil bydd disgwyl i fyfyrwyr ffurfio grwpiau gwaith tu draw i oriau cyswllt y dosbarth. Mae hyn yn rhoi'r cyfle i fyfywyr weithio mewn tim a chefnogi ei gilydd. Dylai myfyrwyr gael mynediad at ystod eang o adnoddau er mwyn hybu eu sgiliau fel ymchwilydd cymdeithasegol, gan gynnwys testunau, monograffau a chyfnodolion, ar ffurf electronig yn ogystal â ffurf brintiedig; ac adnoddau cyfrifiadurol yn cynnwys caledwedd, meddalwedd a mynediad at Fwrdd Du. Bydd gan fyfyrwyr sy’n dilyn y cwrs awyrgylch dysgu hyblyg ei naws er mwyn cynnwys myfyrwyr o wahanol gefndiroedd ac o wahanol ddisgyblaethau academaidd. Bydd gweithdai yn rhoi cyfle ar gyfer dysgu rhyngweithiol, myfyriwr-ganolog. |
44 |
Private study | Mae gweddill amser y modiwl yn gyfnod a elwir yn ‘astudiaeth breifat’ sy'n 156 awr. Bydd y cyfnod hwn yn gyfle i chi weithio ar eich aseiniadau, gan fynd ati i hel adnoddau, ymchwilio ac archwilio, ac adfyfyrio ar yr hyn rydych wedi ei ddysgu yn y gweithdai. |
156 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Dealltwriaeth o ddulliau ymchwil ynghyd a dealltwriaeth o gryfderau a gwendidau darnau o ymchwil a’u defnydd
- Y gallu i lunio ac ymchwilio i gwestiynau sydd wedi seilio ar ddamcaniaeth a gwaith empirig mewn cymdeithaseg.
- Gwybodaeth ymarferol ynghylch defnydd o safbwyntiau damcaniaethol mawr a chysyniadau cymdethiasegol er mwyn deall bywyd cymdeithasol.
- Y gallu i ddadansoddi, asesu a throsglwyddo gwybodaeth gymdeithasegol empirig
- Y gallu i ymgysylltu ag amrywiaeth o strategaethau ymchwil ansoddol a meintiol a’r dulliau sydd yn terddu o’r ddau ddynesiad
- Y gallu i gynnal ymchwil polisi cymdeithasol neu gymdeithasegol annibynnol
- the ability to undertake and present scholarly work
- the ability to understand the ethical implications of sociological enquiry
- the ability to recognise the relevance of sociological knowledge to social, public and civic policy.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/scu-1001.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 1 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 1 (BA/APIPC)
- LM3Y: BA Cymdeithaseg&CriminologyCrimJ year 1 (BA/CCCJ)
- LL3M: BA Cymdeithaseg & Health and Social Care year 1 (BA/CHSC)
- LVJ1: BA Cymdeithaseg/Hanes year 1 (BA/HSW)
- L401: Polisi Cymdeithasol year 1 (BA/PC)
- LM4X: BA Polisi Cymdeithasol & Criminology and Criminal Justice year 1 (BA/PCCCJ)
- LL5K: Polisi Cymdeithasol & Health and Social Care year 1 (BA/PCHSC)
- LVK1: BA Polisi Cymdeithasol/Hanes year 1 (BA/SPWH)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 1 (BA/SPWW)
- LVL1: BA Pol Cymd/Han Cymru year 1 (BA/SPWWH)
- L3LK: BA Cymd gyda Phol Cymd year 1 (BA/SSPW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 1 (BA/SWW)
- LVH1: BA Cymdeithaseg/Hanes Cymru year 1 (BA/SWWH)
- L3L5: MSocSci Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol year 1 (MSOCSCI/CYMD)