Modiwl SCU-4016:
Traethawd Hir
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Law and Social Sciences
60.000 Credyd neu 30.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Rhian Hodges
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gynnal ymchwil unigol ar raddfa fechan, ond eto arwyddocaol, wedi¿u goruchwylio gan oruchwyliwr ymchwil. Mae myfyrwyr yn nodi cwestiwn ymchwil, yn casglu a dadansoddi data sy'n ymwneud â chwestiwn yr ymchwil, gan ddefnyddio fframwaith dadansoddol priodol. Maent yn ymdrin â chwestiwn yr ymchwil wedyn yng ngoleuni eu canfyddiadau. Cyflwynir yr ymchwil a wneir ar ffurf traethawd hir heb fod yn fwy na 20,000 o eiriau, gan ddefnyddio'r confensiynau arferol a geir yn y llenyddiaeth dwyieithrwydd.
Cynnwys cwrs
Tiwtorialau goruchwylio un-i-un, fel y pennir gan ddatblygiad y myfyriwr unigol, i gynnwys cyfarwyddyd ar nodi a chynllunio testun ymchwil priodol, ymchwilio a defnyddio cysyniadau damcaniaethol perthnasol, cynllunio a gwneud gwaith maes a chasglu data (lle bo'n berthnasol) a chyflwyno'r canlyniadau'n gydlynol ac yn y ffurf briodol.
Meini Prawf
trothwy
Dangos gafael sylfaenol ar yr holl ddeilliannau dysgu.da
Dangos treiddgarwch, a dilyniant cyson a pherthnasol o ddadl, eglurhad da gan gydnabod y sylfaen dystiolaeth, ac wedi¿i ysgrifennu gyda pheth arbenigrwydd.ardderchog
Rhagorol wrth ddadansoddi, yn ei ddadl, gwreiddioldeb, amrywiaeth y wybodaeth, a rhinweddau trefn ac arddull.Canlyniad dysgu
- Nodi amcanion clir sy'n briodol i draethawd hir Meistr yn y maes.
- Datblygu a dangos lefel uchel o awtonomiaeth a chyfrifoldeb wrth gynllunio a chyflawni'r ymchwil.
- Datblygu eu gallu i nodi cwestiwn ymchwil, i gynnal ymchwiliad o¿r broblem a chyflwyno canfyddiadau mewn modd clir a meddylgar.
- Nodi a defnyddio dulliau priodol ac ymwybyddiaeth feirniadol o¿r dulliau a ddefnyddiwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddiwyd ar gyfer dehongli data.
- Nodi cyfyngiadau'r astudiaeth.
- Defnyddio ymwybyddiaeth foesegol a methodolegol briodol wrth gynllunio a chyflawni¿r astudiaeth.
- Datblygu gwybodaeth fanwl iawn yn y maes/testun priodol sydd i'w archwilio, wedi'i arddangos drwy ddefnyddio llenyddiaeth esboniadol yn hyderus a beirniadol, a chael amddiffyniad damcaniaethol rhesymegol o'r ymchwil.
- Datblygu annibyniaeth gynyddol o farn, a dangos y gallu i ddadansoddi'n feirniadol, barnu, a dod i gasgliadau.
- Cyflwyno'r ymchwil a wnaed ar ffurf pwnc traethawd hir ysgrifenedig i safonau llym, gan gydymffurfio â'r confensiynau.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd Hir | 100.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Amser cyswllt: Bydd hyn ar ffurf tiwtorialau goruchwylio un-i-un fel y pennir gan gynnydd y myfyriwr unigol. Pennir goruchwyliwr ymchwil i fyfyrwyr. Bydd y goruchwyliwr yn rhoi cefnogaeth diwtorial ar sail unigol i helpu myfyrwyr i ddod yn hunan-feirniadol yn briodol a chefnogi eu hymreolaeth gynyddol fel ymchwilwyr. Caiff tiwtoriaid eu pennu ar sail arbenigedd perthnasol o blith yr aelodau staff yn yr Ysgol a Chanolfannau sy¿n cyfrannu at y rhaglen. |
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- L3BE: MA Criminology and Law year 1 (MA/CAL)
- L3AX: MA Criminology and Sociology year 1 (MA/CAS)
- L3AB: MA Comparative Criminology and Criminal Justice year 1 (MA/CRIM)
- L4AA: MA Language Policy and Planning year 1 (MA/LAPP)
- L4AJ: MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol year 1 (MA/PCI)
- L3BJ: MA Sociology year 1 (MA/SOC)
- L3BM: MA Social Policy year 1 (MA/SOCPOL)
- L302: MSocSci Sociology year 4 (MSOCSCI/S)