Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
      • Ehangu Mynediad
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Bangor yr Hud a'r Lledrith

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Canllaw Cyrsiau

    Dyddiau Agored

    Clirio

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Croeso 2022

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag
  • Dyddiau Agored

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Rhieni
  • Swyddi
  • Covid-19
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Gwneud Cais

Sut i wneud cais

Dyddiau Agored

Mwy o wybodaeth

Archebu Canllaw Cyrsiau

Archebu nawr

Cais am fwy o wybodaeth

Cysylltwch nawr

Sgwrsiwch â staff a myfyrwyr

Cysylltwch drwy Unibuddy

Modiwl SCW-4008:
Gwe a Moes ar gy Ymarfer GC

Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer Ymarfer Gwaith Cymdeithasol 2024-25
SCW-4008
2024-25
School of Health Sciences
Module - Semester 1
10 credits
Module Organiser: Rhian Lloyd
Overview

Bydd y modiwl hwn yn rhoi sylw i ddatblygiad gwerthoedd gwaith cymdeithasol ac egwyddorion moeseg, gan gysylltu’r rhain ag ymarfer gwaith cymdeithasol, a’r cyfyng-gyngor cymhleth y mae ymarferwyr yn ei wynebu. Rhoddir sylw i naratifau myfyrwyr eu hunain a’u dylanwad ar hunaniaeth ac agweddau.

Edrychir ar yr anfantais a’r anghydraddoldeb y mae rhai grwpiau mewn cymdeithas yn eu hwynebu, gyda phwyslais ar sut y mae gwahaniaethu a gormes mewn cymdeithas yn cyfrannu at yr angen am wasanaethau gwaith cymdeithasol. Archwilir yr enghraifft o sensitifrwydd ieithyddol a gormes iaith yng Nghymru, a chyffredinolir y dysgu hefyd i ymdrin ag agweddau eraill ar ormes.

Ystyrir modelau grym ac egwyddorion galluogi ac ymarfer gwrth-ormesol, a defnyddir achosion lle ceir gwrthdaro rhwng hawliau a lles i ddangos cyfyng-gyngor a all godi ynghylch gofal a rheolaeth, neu gymryd risg ac amddiffyn.

Archwilir y fframwaith cyfreithiol yn ymwneud â chydraddoldeb, a rhoddir sylw i offerynnau a deddfwriaeth hawliau dynol, gan edrych ar eu rôl yn dylanwadu ar gymdeithas a pheri newidiadau.

Assessment Strategy

-threshold -(C) Dylai myfyrwyr trothwy ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o gysyniad canolog gwerthoedd fel sail ymarfer gwaith cymdeithasol, a’i oblygiadau o ran hyrwyddo cydraddoldeb a gwrthweithio gormes; a gallu cymwys i ddefnyddio hyn mewn sefyllfaoedd ymarfer. Dylai bod gan y myfyrwyr hefyd y gallu i ddadansoddi sut mae gormes, gwahaniaethu a phrosesau cymdeithasol eraill yn gweithredu a gwerthuso a gweithredu modelau grym, galluogi ac ymarfer gwrth-ormesol. Dylai'r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth o’u hunaniaeth a’u gwerthoedd eu hunain, gan egluro sut y gall y rhain ddylanwadu ar eu hymarfer. Dylai bod gan fyfyrwyr ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac offerynnau hawliau dynol, ynghyd ag ymrwymiad i hyrwyddo hawliau defnyddwyr gwasanaeth, a gallu i gymhwyso'r cysyniadau hyn at sefyllfaoedd ymarfer. Dylai myfyrwyr fedru defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol, cyfathrebu a datrys problemau i roi sylw i gyfyng gyngor ynghylch gwerthoedd ac i archwilio sialensiau’n ymwneud â materion gofal yn erbyn rheolaeth mewn ymarfer gwaith cymdeithasol. -good -(B) Dylai myfyrwyr da ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o gysyniad canolog gwerthoedd fel sail ymarfer gwaith cymdeithasol, a’i oblygiadau o ran hyrwyddo cydraddoldeb a gwrthweithio gormes; a gallu sylweddol i ddefnyddio hyn mewn sefyllfaoedd ymarfer. Dylai bod gan y myfyrwyr hefyd allu clir i ddadansoddi sut mae gormes, gwahaniaethu a phrosesau cymdeithasol eraill yn gweithredu a gwerthuso’n feddylgar fodelau grym, galluogi ac ymarfer gwrth-ormesol a’u gweithredu. Dylai'r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth dreiddgar o’u hunaniaeth a’u gwerthoedd eu hunain, gan egluro’n fanwl sut y gall y rhain ddylanwadu ar eu hymarfer. Dylai bod gan fyfyrwyr ymwybyddiaeth dda o ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac offerynnau hawliau dynol, ynghyd ag ymrwymiad clir i hyrwyddo hawliau defnyddwyr gwasanaeth, a gallu sylweddol i gymhwyso'r cysyniadau hyn at sefyllfaoedd ymarfer. Dylai myfyrwyr fedru defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol, cyfathrebu a datrys problemau i roi sylw i gyfyng gyngor ynghylch gwerthoedd ac i archwilio’n fanwl y sialensiau’n ymwneud â materion gofal yn erbyn rheolaeth mewn ymarfer gwaith cymdeithasol. -excellent -(A) Dylai myfyrwyr rhagorol ddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o gysyniad canolog gwerthoedd fel sail ymarfer gwaith cymdeithasol, a’i oblygiadau o ran hyrwyddo cydraddoldeb a gwrthweithio gormes; a gallu hynod fedrus i ddefnyddio hyn mewn sefyllfaoedd ymarfer. Dylai bod gan y myfyrwyr hefyd allu soffistigedig i ddadansoddi sut mae gormes, gwahaniaethu a phrosesau cymdeithasol eraill yn gweithredu a gwerthuso’n drylwyr fodelau grym, galluogi ac ymarfer gwrth-ormesol a’u gweithredu. Dylai'r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth amlochrog o’u hunaniaeth a’u gwerthoedd eu hunain, gan egluro’n aeddfed ac adfyfyriol sut y gall y rhain ddylanwadu ar eu hymarfer. Dylai bod gan fyfyrwyr ymwybyddiaeth fanwl o ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac offerynnau hawliau dynol, ynghyd ag ymrwymiad brwdfrydig i hyrwyddo hawliau defnyddwyr gwasanaeth, a gallu trylwyr i gymhwyso'r cysyniadau hyn at sefyllfaoedd ymarfer. Dylai myfyrwyr fedru defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol, cyfathrebu a datrys problemau o’r safon uchaf i roi sylw i gyfyng gyngor ynghylch gwerthoedd a’i ddadansoddi, ac i archwilio’n helaeth y sialensiau’n ymwneud â materion gofal yn erbyn rheolaeth mewn ymarfer gwaith cymdeithasol.

Learning Outcomes

  • Dadansoddi'n feirniadol sut mae prosesau cymdeithasol fel tlodi, diweithdra neu anabledd yn gweithredu, a sut y gall y rhain arwain at allgáu cymdeithasol ac ymyleiddio sy'n effeithio ar yr angen am wasanaethau gwaith cymdeithasol.

  • Dangos cymhwysedd rhesymu moesol, gan ddefnyddio gwerthoedd gwaith cymdeithasol, egwyddorion moesegol a chodau ymarfer, mewn sefyllfaoedd cymhleth lle mae gwrthdaro a chyfyng-gyngor I weithwyr cymdeithasol.

  • Dangos eu dealltwriaeth gynhwysfawr o natur ac esblygiad gwerthoedd gwaith cymdeithasol, a sut mae'r rhain yn berthnasol i godau ymarfer cyfredol a moeseg.

  • Datblygu strategaethau i rymuso eu hunain ac eraill ac i sicrhau bod eu harferion eu hunain yn wrth-ormesol ac yn gynhwysol yn gymdeithasol, gan gydnabod rôl y cyd-gynhyrchu, cydweithio a chynnwys pobl sydd angen gofal a chymorth, a'r rhai sy'n gofalu amdanynt, fel strategaethau i wrthsefyll gormes a gwahaniaethu.

  • Egluro a dadansoddi sut mae gwahaniaethu a gormes yn gweithredu yn erbyn grwpiau ac unigolion trwy, er enghraifft hiliaeth, rhywiaeth neu oedraniaeth; yn enwedig sut y gall y prosesau hyn hefyd weithredu o fewn gwaith cymdeithasol a sefydliadau eraill; a rôl grym yn parhau amgylchiadau neu greu newid.

  • Esbonio sut y mae gwybodaeth mewn gwaith cymdeithasol yn cael ei adeiladu yn gymdeithasol ac asesu sut mae eu profiadau personol a rolau a statws mewn cymdeithas wedi dylanwadu ar eu gwerthoedd a’u hunaniaeth eu hunain a chredoau am bobl eraill.

  • Gwerthuso'n feirniadol ddeddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol ac offerynnau hawliau dynol eraill, a dehongli eu cymhwyso mewn sefyllfaoedd ymarfer cymhleth.

Assessment method

Essay

Assessment type

Summative

Description

Aseiniad 3,000 o eiriau

Weighting

100%

Due date

20/12/2024

Hafan

Astudio

  • Astudio Israddedig
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor