Modiwl UXC-2057:
Cynhyrchu'r Ffilm Ddogfen
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Dyfrig Jones
Amcanion cyffredinol
Nod y cwrs hwn yw galluogi myfyrwyr i gynyddu eu dealltwriaeth o egwyddorion rhaglenni dogfen trwy wneud gwaith cynhyrchu ymarferol. Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o 3 ar y mwyaf i greu cynhyrchiad fideo rhwng 5 a 10 munud o hyd. Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddadansoddi'r cysylltiad rhwng eu gwaith ymarferol a'i gyd-destun damcaniaethol.
Cynnwys cwrs
Yn ystod hanner cyntaf y modiwl, caiff myfyrwyr hyfforddiant ffurfiol ar theori rhaglenni dogfen ac ymarfer y cyfryngau. Bydd y rhan hwn o'r modiwl yn edrych ar sut mae safbwyntiau damcaniaethol yn dylanwadu ar waith ymarferwyr. Bydd hefyd yn rhoi hyfforddiant i fyfyrwyr ar dechnegau cynhyrchu uwch, gan adeiladu ar y technegau a ddysgwyd fel rhan o'r modiwl UXS 1038 Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau. Yn ogystal â hyn, bydd y sesiynau gweithdy a gynhelir yn ystod rhan gyntaf y cwrs yn caniatáu i fyfyrwyr wneud gwaith cyn-cynhyrchu ar eu projectau terfynol, gan ymgynghori â'r tiwtoriaid. Yn ystod ail hanner y semester, ni fydd disgwyl i fyfyrwyr fynd i sesiynau wythnosol wedi eu hamserlennu. Bydd myfyrwyr yn astudio'n annibynnol yn ystod y cyfnod hwn, gan ddefnyddio'r amser i ddatblygu a chynhyrchu eu project cynhyrchu terfynol. Bydd y tiwtoriaid yn rhoi cefnogaeth, trwy apwyntiad.
Meini Prawf
da
Da (50%+)
Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw ac o bryd i'w gilydd gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos:
- Strwythur da a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol.
- Mae'n defnyddio'n rhannol, o leiaf, ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.
- Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.
- Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.
Da iawn (60%+)
Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw a gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos:
- Strwythur da iawn a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol.
- Mae'n defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.
- Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.
- Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.
ardderchog
Rhagorol (70%+)
Mae'r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol ac yn rhagorol mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:
- Mynegiant gwreiddiol a syniadau'r myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg.
- Yn rhoi tystiolaeth eglur o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol.
- Cyflwynir dadleuon yn eglur gan alluogi'r darllenydd i ystyried fesul cam er mwyn dod i gasgliadau.
trothwy
Gwaith ysgrifenedig
Trothwy (40%+)
Mae'r gwaith a gyflwynwyd yn foddhaol ac yn dangos lefel dderbyniol o allu fel a ganlyn:
- Cywir ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac yn gadael pethau allan.
- Yn gwneud honiadau heb dystiolaeth na rhesymu cefnogol eglur.
- Yn strwythuredig ond yn aneglur ac felly'n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a rhagdybiaethau.
- Yn defnyddio ystod gymharol gyfyng o ddeunydd.
Canlyniad dysgu
-
Dangos dealltwriaeth o'r prosesau ar gyfer cynhyrchu rhaglenni dogfen.
-
Dangos sgil technegol sylfaenol mewn un agwedd ar gynhyrchiad grwp.
-
Dangos sut mae profiad ymarferol o gynhyrchu'n gysylltiedig â theori cynhyrchu'r cyfryngau.
-
Edrych yn feirniadol ar y broses o gynhyrchu'r cyfryngau yng nghyd-destun theori rhaglenni dogfen.
-
Dangos y gallu i weithio fel rhan o dîm cynhyrchu.
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Workshop | Gweithdy, 3 awr yr wythnos (wythnosau 1-5 yn unig) |
15 |
Private study | 174 | |
Tutorial | Cefnogaeth dysgu annibynnol yn wythnosau 6-12 |
6 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Rhagofynion a Chydofynion
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W900: MArts Creative Practice year 2 (MARTS/CP)