Modiwl VPC-2406:
Crefydd yng Nghymru: O Gristnogaeth i Eglwys y Jedi
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Philosophy and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Gareth Evans Jones
Amcanion cyffredinol
Mae mwy i grefydd yng Nghymru na Christnogaeth Anghydffurfiol yn unig, ac amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i’r traddodiadau ysbrydol amrywiol a chyfoethog sy’n bodoli yn y Gymru gyfoes. Bydd y modiwl yn archwilio amrediad eang o draddodiadau crefyddol, gan ddechrau gyda Christnogaeth gan mai dyna’r grefydd sydd, yn draddodiadol, wedi bod o ddylanwad mwyaf, cyn ystyried sut y mae crefyddau eraill, megis Iddewiaeth, Hindŵaeth a Bwdhaeth, wedi eu sefydlu eu hunain o fewn cyd-destun Celtaidd drwy broses o gymathu, a chan greu hunaniaethau amrywiol ac amlddiwylliannol. Bydd y modiwl yn cloi drwy ystyried Jediaeth, crefydd newydd a sefydlwyd yng Nghymru ac sy’n cynnwys agweddau cyfatebol i themâu ac ideolegau crefyddau’r Dwyrain. Amcan a phwrpas y modiwl hwn, felly, yw galluogi myfyrwyr i adnabod a gwerthfawrogi’r gymdeithas amlgrefyddol ac amlddiwylliannol sy’n nodweddu’r Gymru gyfoes.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl yn archwilio’r meysydd canlynol: • Dylanwad Cristnogaeth ar ddiwylliant, cymdeithas a chrefydd Cymru. • Ymchwiliad i hanes a natur Iddewiaeth yng Nghymru, a chyfraniad Iddewon i gymdeithas ac economi Cymru. • Asesiad o nodweddion Bwdhaeth a Hindŵaeth yng Nghymru, a’r modd y mae tirwedd Cymru wedi dylanwadu ar y modd y caiff y crefyddau hyn eu hymarfer. • Astudiaeth o ymarferoldeb a chyfyngiadau byw fel Mwslim mewn cyd-destun Celtaidd. • Eglwys Jediaeth: crefydd newydd i Gymru ynteu athroniaeth anwadal? • Natur crefydd yng Nghymru heddiw: gwlad dduwiol ynteu genedl sy’n gynyddol seciwlar?
Meini Prawf
C- i C+
Da C- i C+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
da
Da iawn B- i B+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
trothwy
Trothwy D- i D+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: • Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. • Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. • Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. • Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
ardderchog
Ardderchog A- i A*
Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol: • Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. • Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. • Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
Canlyniad dysgu
-
• Dangos dealltwriaeth o ysgolheictod perthnasol ynghylch crefydd yng Nghymru.
-
• Dangos lefel dda o wybodaeth am gymhlethdodau crefyddau yng nghymdeithas Cymru gyfoes.
-
• Dangos lefel dda o ddealltwriaeth am rôl crefydd yn siapio hunaniaethau personol a chenedlaethol.
-
• Trafod a dangos sut y mae lleoliad daearyddol yn dylanwadu ar y ffordd o gadw crefyddau amrywiol a’r ffordd o ddehongli testunau crefyddol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
TRAETHAWD | Traethawd | Disgwylir i fyfyrwyr lunio traethawd yn archwilio'n feirniadol agwedd ar ddylanwad Cristnogaeth ar hinsawdd ddiwylliannol Cymru gyfoes. Rhoddir dewis o bedwar cwestiwn i'r myfyrwyr a disgwylir eu bod yn ateb un. |
50.00 |
ASTUDIAETH ACHOS | Astudiaeth Achos | Disgwylir i fyfyrwyr ddewis un o'r crefyddau a astudiwyd fel rhan o'r modiwl a llunio astudiaeth achos ynghylch y modd yr ymarferir y grefydd mewn perthynas â materion cyfoes yng Nghymru. Caiff y myfyrwyr ddewis unrhyw grefydd ac eithrio Cristnogaeth. |
50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Disgwylir i fyfyrwyr fynychu ddwy ddarlith un awr yr wythnos. |
22 |
Private study | Rhoddir rhestr a deunyddiau darllen i fyfyrwyr er mwyn iddynt astudio'n annibynnol a chyfoethogi eu profiad dysgu. |
178 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Rhestr ddarllen
• Allen, Richard C. & David Ceri Jones with Trystan O. Hughes. 2014. The Religious History of Wales: Religious Life and Practice in Wales from the Seventeenth Century to the Present Day. Cardiff: Welsh Academic Press.
• Davies, Grahame. 2011. The Dragon and the Crescent: Welsh Encounters with Islam. Bridgend: Seren.
• Fowler, Jeaneane D. and Merv Fowler. 2009. Chanting in the Hillsides: Nichiren Daishonim Buddhism in Wales and the Borders. Brighton & Portland: Sussex Academic Press.
• Morgan, D. Densil. 2018. Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology in Wales, Volume 1: From Reformation to Revival 1588-1760. Cardiff: University of Wales Press.
• Parry-Jones, C. 2017. The Jews of Wales: A History. Cardiff: University of Wales Press.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 2 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 2 (BA/APIPC)
- LM3Y: BA Cymdeithaseg&CriminologyCrimJ year 2 (BA/CCCJ)
- LL3M: BA Cymdeithaseg & Health and Social Care year 2 (BA/CHSC)
- LVJ1: BA Cymdeithaseg/Hanes year 2 (BA/HSW)
- L401: Polisi Cymdeithasol year 2 (BA/PC)
- LM4X: BA Polisi Cymdeithasol & Criminology and Criminal Justice year 2 (BA/PCCCJ)
- LL5K: Polisi Cymdeithasol & Health and Social Care year 2 (BA/PCHSC)
- VV56: BA Philosophy and Religion year 2 (BA/PHRE)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- LVK1: BA Polisi Cymdeithasol/Hanes year 2 (BA/SPWH)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LVL1: BA Pol Cymd/Han Cymru year 2 (BA/SPWWH)
- L3LK: BA Cymd gyda Phol Cymd year 2 (BA/SSPW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- LVH1: BA Cymdeithaseg/Hanes Cymru year 2 (BA/SWWH)
- M1V5: LLB Law with Philosophy and Religion year 2 (LLB/LPR)
- L3L5: MSocSci Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol year 2 (MSOCSCI/CYMD)