Modiwl VPC-2407:
O Draethu i Drafod: Yr Eglwys a’r Iddewon
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Philosophy and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Gareth Evans Jones
Amcanion cyffredinol
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i berthynas dymhestlog yr Eglwys Gristnogol a’r Iddewon. Gan ddechrau â thrafodaeth am y berthynas rhwng Cristnogaeth gynnar ac Iddewiaeth, byddem wedyn yn adlewyrchu ar y modd y cawsai’r ddwy grefydd eu hystyried yn ddiwylliannol, cyfreithiol, a gwleidyddol. Bydd y modiwl yna’n canolbwyntio ar ddatblygid ideoleg wrth-Iddewig y Cristnogion, drwy gyfeirio at ddetholiad o ddigwyddiadau ac unigolion, gan gynnwys y Croesgadau, y babaeth yn yr Oesoedd Canol, ac ysgrifau Martin Luther. Wedi gwneud hynny, byddem yn archwilio twf gwrth-Semitiaeth a’r modd y digwyddodd hynny ochr yn ochr â datblygiad Seioniaeth. Yn dilyn hynny, byddem yn ystyried y modd y bwydodd gwrth-Semitiaeth a gwrth-Iddewiaeth Gristnogol i ddigwyddiad yr Holocost. Gorffennir y modiwl drwy asesu perthnasau cyfoes Iddewon a Christnogion, a byddem yn ystyried i ba raddau y mae’r bont sy’n cysylltu’r Eglwys a’r Iddewon wedi’r Shoah mor sefydlog ag y tueddid i gredu.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl yn archwilio amrywiaeth o feysydd megis: Perthynas y grefydd Gristnogol a’r Ymerodraeth Rufeinig, a’i dylanwad ar yr Iddewon yn y canrifoedd cynnar OC; Y Croesgadau a’u heffeithiau; Y Babaeth yn yr Oesoedd Canol; Sbaen yr Oesoedd Canol: tröedigaeth ac alltudiaeth; Delweddau ac eiconograffeg wrth-Iddewig y Cristnogion; Safbwynt paradocsaidd Martin Luther parthed yr Iddewon; Mudiad Seioniaeth a thwf gwrth-Semitiaeth; Yr Holocost a’r Shoah; Perthnasau cyfoes yr Iddewon a’r Cristnogion.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy D- i D+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: • Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. • Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. • Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. • Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
C- i C+
Da C- i C+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
da
Da iawn B- i B+
Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
ardderchog
Ardderchog A- i A*
Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol: • Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. • Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. • Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
Canlyniad dysgu
-
• Dangos dealltwriaeth o’r ffactorau hanesyddol a diwylliannol gwahanol sydd wedi peri newidiadau i berthnasau rhwng Iddewon a Christnogion.
-
• Dangos dealltwriaeth o’r ffactorau hanesyddol a diwylliannol sydd wedi arwain y ffordd ar gyfer newidiadau yn y berthynas rhwng Iddewon a Christnogion.
-
• Archwilio’r modd y mae ffactorau diwinyddol a gwleidyddol wedi dylanwadu ar y modd y cedwid y crefyddau ac yn wir ar berthynas yr Iddewon a'r Cristnogion.
-
• Archwilio rôl hunaniaeth/hunaniaethau personol, cenedlaethol, a rhyngwladol mewn perthynas â’r ddeialog ryng-grefyddol gyfoes rhwng Iddewon a Christnogion.
-
• Gwerthuso a dadansoddi’n feirniadol amrediad o ffynonellau cynradd ac eilaidd, gan gynnwys deunyddiau diwinyddol, datganiadau Eglwysig, ac ysgrifau cyfreithiol, gan ystyried yn benodol y modd y maent wedi dylanwadu ar berthynas yr Iddewon a’r Cristnogion.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
ARHOLIAD | Arholiad | Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau unrhyw ddau gwestiwn allan o bump o fewn dwy awr. |
50.00 |
TRAETHAWD | Traethawd | Disgwylir i fyfyrwyr lunio traethawd 2,500 gair yn dadnsoddi'n feirniadol agwedd at y berthynas rhwng yr Eglwys Gristnogol a'r Iddewon. Rhoddir y dewis o bum cwestiwn i fyfyrwyr a bydd angen iddynt ateb un yn unig. |
50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Students will be expected to attend two one hour lecture per week during the semester. |
22 |
Private study | Students will be provided readings to consult independently. This will complement the lectures and enrich the learning experience of the students. |
178 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Articulacy in identifying underlying issues in a wide variety of debates.
- Precision of thought and expression in the analysis and formulation of complex and controversial problems.
- Sensitivity in interpretation of religious and philosophical texts drawn from a variety of ages and/or traditions.
- Clarity and rigour in the critical assessment of arguments presented in such texts.
- The ability to use and criticise specialised religious and philosophical terminology.
- The ability to abstract and analyse arguments, and to identify flaws in them, such as false premises and invalid reasoning.
- The ability to construct rationally persuasive arguments for or against specific religious and philosophical claims.
- The ability to move between generalisation and appropriately detailed discussion, inventing or discovering examples to support or challenge a position, and distinguishing relevant and irrelevant considerations.
Adnoddau
Rhestr ddarllen
• Flannery, Edward H. 2004 (3rd ed.). The Anguish of the Jews. New York: Paulist Press.
• Hay, Malcolm. 1981. The Roots of Christian Anti-Semitism. New York: Freedom Library Press.
• Kessler, Edward. 2013. An Introduction to Jewish-Christian Relations. Cambridge: Cambridge University Press.
• Barrens, James M. 2015. In Our Time (Nostra Aetate): How Catholics and Jews Built a New Relationship. St Petersburg, FL: Mr Media Books.
• Rousmaniere, J. 1991. A Bridge to Dialogue: The Story of Jewish-Christian Relations. New York: Paulist Press.
• Nicholls, W. 1993. Christian Antisemitism: A History of Hate. Northvale, NJ & London: J. Aronson.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- VV56: BA Philosophy and Religion year 2 (BA/PHRE)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- M1V5: LLB Law with Philosophy and Religion year 2 (LLB/LPR)